The essential journalist news source
Back
18.
April
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 18 Ebrill 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys: Cynlluniau Caerdydd ar gyfer dyfodol glanach, gwyrddach, iachach; Cynnig lleoedd mewn Ysgolion Cynradd Caerdydd; a Mae ‘Dysgu, Byw, Credu' yn adlewyrchu nodau Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette yn amlwg, meddai Estyn.

 

Cynlluniau Caerdydd ar gyfer dyfodol glanach, gwyrddach, iachach

Gallai gwasanaeth bws estynedig â thocynnau £1 rhatach, rhwydwaith tramiau newydd, a chysylltiadau rhanbarthol gwell fod yn rhan o system drafnidiaeth lanach, wyrddach, a mwy modern i Gaerdydd cyn bo hir. Ond efallai bydd y newidiadau hynny ddim ond yn bosibl o gyflwyno taliad defnyddwyr ffyrdd i helpu i dalu amdanyn nhw, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad, i'w ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 27 Ebrill, yn trafod ffyrdd o ail-fuddsoddi taliadau gan ddefnyddwyr ffyrdd i helpu i greu cynnig trafnidiaeth a allai  helpu'r ddinas i leihau effeithiau niweidiol llygredd aer ar drigolion Caerdydd, gwneud gwahaniaeth yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd  a mynd i'r afael â thagfeydd.

Cynllun Tâl Defnyddwyr Ffyrdd Caerdydd: Beth sy'n cael ei gynnig a pham

Ar hyn o bryd, mae trafnidiaeth ffyrdd yn gyfrifol am 40% o allyriadau C02e (carbon deuocsid) Caerdydd. Caerdydd ac un ddinas arall sydd ar frig y rhestr o 11 o ddinasoedd craidd y DU o ran lefelau C02e, sy'n cynnwys Belfast, Birmingham, Bryste, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Newcastle, Nottingham, a Sheffield. 

Ac amcangyfrifir bod llygredd awyr yn lleihau disgwyliad oes gan 7-8 mis ar gyfartaledd yn y DU. Mewn trefi a dinasoedd sydd â lefelau llygredd aer uwch na chyfartaledd y DU, gan gynnwys Caerdydd, mae'r ffigwr hwn yn debygol o fod yn uwch fyth.

Mae tystiolaeth yn dangos bod llygredd aer yn effeithio arnon ni i gyd ac yn gysylltiedig ag effeithiau ar dwf yr ysgyfaint mewn plant, clefyd y galon, strôc, canser a gwaethygu asthma ymhlith effeithiau gwael eraill ar iechyd.

Mae Caerdydd yn enwedig wedi dioddef hyn gyda mwy o achosion o asthma na'r cyfartaledd Ewropeaidd.  Mae saith y cant o oedolion yng Nghaerdydd wedi cael diagnosis o asthma, ac mae dros 9,000 o drigolion Caerdydd yn dioddef â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.  Mae chwech y cant o blant 10-14 oed yn dioddef gydag asthma yng Nghymru. 

Darllenwch fwy yma

 

Cynnig lleoedd mewn Ysgolion Cynradd Caerdydd

Mae miloedd o rieni ar draws Caerdydd wedi derbyn lle sydd wedi'i gynnig i'w plentyn ddechrau yn yr ysgol gynradd o fis Medi 2023 ymlaen.

Bydd 3,847 o blant yn symud o'r ysgol feithrin i'r ysgol gynradd yn yr hydref, a hyd yma, mae 3,233 o geisiadau wedi'u gwneud i Gyngor Caerdydd.

Yn seiliedig ar ffigyrau cyfredol, mae 98.2% o'r rhai sydd wedi gwneud cais wedi cael cynnig lle yn eu hysgol gynradd gymunedol dewis cyntaf, gyda 99.6% yn cael cynnig lle yn un o'r tri ysgol a ddewiswyd ganddynt.

Eleni yw'r tro cyntaf i Gyngor Caerdydd allu defnyddio system dderbyn wedi'i chydlynu ar gyfer ceisiadau ysgolion cynradd, gyda cheisiadau i bob ysgol gymunedol a'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd ffydd yn cael eu gwneud drwy'r awdurdod lleol, gan ddefnyddio'r un ffurf a phroses. Mae'n system y dechreuodd yr awdurdod lleol ei defnyddio ar gyfer ceisiadau ysgolion uwchradd am y tro cyntaf yn 2018.

Pan ddaw hi'n fater o ystyried y ffigyrau cyfun ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol a ffydd dan y system wedi'i chydlynu, mae cyfran y rhai sy'n gwneud cais yn cael cynnig lle yn eu dewis cyntaf yn codi i 99.4%.

Mae gan rieni y mae lle wedi'i gynnig iddynt tan 2 Mai i dderbyn neu wrthod yn ffurfiol. Mae manylion sut i wneud hyn wedi'u cynnwys yn y llythyr neu'r e-bost cynnig a anfonwyd atynt gan Gyngor Caerdydd.

2 Mai hefyd yw'r dyddiad cau ar gyfer unrhyw geisiadau sydd eto i'w gwneud. Bydd y penderfyniadau ar y ceisiadau hynny yn cael eu rhyddhau ym mis Mehefin.

Darllenwch fwy yma

 

Mae ‘Dysgu, Byw, Credu' yn adlewyrchu nodau Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette yn amlwg, meddai Estyn

Mae arolygwyr Estyn wedi canfod bod disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette yn mwynhau dod i'r ysgol yn fawr ac yn falch iawn o fod yn aelodau o gymuned eu hysgol.

Yn ystod arolygiad diweddar o'r Ysgol Gynradd Gatholig ym Mhentwyn, cymeradwyodd tîm o arolygiaeth addysg Cymru, y pennaeth a'r staff am greu amgylchedd hapus iawn sy'n croesawu pob disgybl sy'n teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Yn ôl canfyddiadau'r arolygwyr, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau'n dda ac yn gwneud cynnydd cryf o ran datblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ac mae sgiliau llefaredd disgyblion yn Saesneg o'r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6 yn eithriadol.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod cydweithio gan ddisgyblion yng ngweithgareddau'r dosbarth ac o amgylch yr ysgol yn gryfder. Maen nhw'n garedig ac yn ystyriol o'i gilydd ac mae eu hymddygiad yn eithriadol bob amser. Maent yn cyfrannu'n dda at amrywiaeth o grwpiau a phwyllgorau, ac yn rhannu enghreifftiau yn frwdfrydig o ble mae eu dylanwad wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd yr ysgol.

Ychwanegodd hefyd fod athrawon yn darparu profiadau dysgu pwrpasol ar draws yr ysgol sy'n llwyddo i ysgogi ac ennyn diddordeb yr holl ddisgyblion a sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ADY yn gadarn.

Tynnodd Estyn sylw hefyd at y ffaith bod y pennaeth, sy'n cael cefnogaeth dda gan yr uwch dîm arwain, yn sicrhau bod lles disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol yn ganolog i'r ysgol. Mae cyfathrebu rhwng staff a rhieni yn dda ac mae llywodraethwyr yn gwybod yr ysgol yn dda iawn, gan gyflawni eu rôl fel cyfaill beirniadol ac yn cefnogi'r pennaeth wrth symud yr ysgol yn ei blaen.

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol 234 o ddisgyblion ar y gofrestr, yr oedd 16.3% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyda 16.1% o ddisgyblion wedi'u nodi fel bod ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Ar y cyfan roedd hyn yn adroddiad cadarnhaol iawn, gan dynnu sylw at agwedd feithringar y Santes Bernadette. Rhoddodd Estyn dri argymhelliad i'r ysgol: Sicrhau bod y cwricwlwm yn ystyrlon i bob disgybl ac yn adeiladu'n systematig ac yn gydlynol ar draws yr ysgol; datblygu sgiliau annibynnol disgyblion a sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i wella eu gwaith eu hunain.

Darllenwch fwy yma