14/04/23
Mae'n edrych yn debyg y bydd Stryd y Castell Caerdydd yn parhau i fod ar agor i draffig cyffredinol gyda'r system ffordd dros dro bresennol wedi'i gwneud yn barhaol - gyda dwy lôn ar gyfer traffig cyffredinol, lôn fysus tua'r gorllewin a llwybr beicio dwyffordd yn parhau ar y stryd.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod dau opsiwn yn ei gyfarfod ddydd Iau 27 Ebrill - gydag argymhelliad, yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, i ganiatáu i draffig cyffredinol barhau i ddefnyddio Stryd y Castell a galluogi cynllun parhaol i gael ei roi ar waith.
Opsiwn 1. Caniatáu i draffig cyffredinol barhau i ddefnyddio'r stryd;
Opsiwn 2. Caniatáu i fysus, tacsis a beicwyr yn unig ddefnyddio'r stryd.
Mae modelu ansawdd aer manwl bellach wedi digwydd ar gyfer Stryd y Castell a'r rhwydwaith amgylchynol ar gyfer y ddau opsiwn ac mae'r canlyniadau'n dangos bod cadw'r ffordd ar agor i draffig cyffredinol yn well o ran y buddion i'r economi a'r amgylchedd.
Mae'r modelu ansawdd aer wedi arwain at dri phrif gasgliad:
- Mae'r ddau opsiwn yn cyflawni'r ansawdd aer sy'n ofynnol yn gyfreithiol ar Stryd y Castell.
- Byddai gwahardd traffig cyffredinol ar Stryd y Castell yn cynyddu crynodiadau Nitrogen Deuocsid (NO2) ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach.
- Bydd caniatáu i draffig cyffredinol ddefnyddio Stryd y Castell yn gwella gwydnwch ar rwydwaith priffyrdd Caerdydd wrth i'r ddinas barhau i ddatblygu.
Mae'r ddau opsiwn yn bodloni gofynion Llywodraeth Cymru o ran sicrhau cydymffurfiaeth ansawdd aer - mae'r lefelau wedi'u mesur o Nitrogen Deuocsid (NO2) ar Stryd y Castell wedi cydymffurfio ers 2021 yn dilyn cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru er mwyn gostwng lefelau NO2 ar y stryd yma.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r data wedi'i fodelu yn dangos bod caniatáu i bob math o draffig ddefnyddio Stryd y Castell yn gwella ansawdd aer cyffredinol canol y ddinas a'r rhwydwaith ffyrdd cyfagos ychydig. Wrth gynllunio trafnidiaeth, rhaid i ni sicrhau bod llwybrau digonol o ddwyrain y ddinas i'r gorllewin ac i'r gwrthwyneb, nid yn unig ar gyfer modurwyr, ond i feicwyr a cherddwyr hefyd.
"Hefyd, bydd cadw Stryd y Castell ar agor i draffig cyffredinol yn helpu'r traffig barhau i lifo i mewn ac allan o ganol y ddinas yn y dyfodol pan ystyriwn fesurau arafu traffig eraill. Er enghraifft, rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i ni edrych ar gyfyngu'r llwybr dwyreiniol i'r gorllewin drwy Sgwâr Callaghan lle bydd angen tynnu lonydd traffig i ganiatáu adeiladu'r lein tram-drenau newydd ar y stryd ar gyfer cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd. Prosiect cyffrous yw hwn a fydd wir yn dechrau newid y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y ddinas. Bydd parhau i ganiatáu i'r holl draffig ddefnyddio Stryd y Castell yn helpu traffig i lifo'n well i ganol y ddinas ac allan ohono tra bod ein hopsiynau tram-drenau'n symud ymlaen.
"Rhaid asesu gofynion eraill hefyd heblaw ansawdd aer. Mae angen i ni ystyried effaith unrhyw newid ar gynllun unrhyw ffyrdd ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach. Rhaid i ni amddiffyn ardaloedd preswyl rhag llygredd aer, cefnogi beicio a cherdded, a gosod cynllun parhaol ar Stryd y Castell sy'n addas i brifddinas. Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni wella'r amgylchedd lleol i bawb.
"Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo, bydd y cynllun dros dro sydd ar waith ar hyn o bryd yn cael ei wneud yn barhaol gyda dwy lôn ar gyfer traffig cyffredinol, lôn fysus tua'r gorllewin, llwybr beicio dwyffordd ar wahân a phalmentydd ehangach. Yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru ac yn dilyn y prosesau tendro angenrheidiol, gallai'r gwaith ddechrau ar y stryd yn gynnar yn 2024."
Y cynllun dros dro sydd ar y stryd ar hyn o bryd yw'r cynllun gwreiddiol a nodwyd yng Nghynllun Aer Glân Caerdydd yn 2020 ac a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru cyn dechrau pandemig COVID.
Ers hynny, cafodd y ffordd ei chau dros dro pan gafodd cyfyngiadau'r symud eu llacio er mwyn adeiladu ardal fwyta awyr agored i helpu'r fasnach letygarwch.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ailagorwyd Stryd y Castell i draffig cyffredinol ym mis Mehefin 2021 gyda 53.8% o blaid, a 33.8% yn gwrthwynebu. Ers hynny, mae gwaith modelu ansawdd aer a thraffig wedi cael ei gynnal a bydd canlyniadau'r modelu hwn yn cael eu cyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd.
Yn dilyn y cyfarwyddyd cyfreithiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, fe wnaeth y cyngor weithredu yn yr amser cyflymaf posib i ostwng lefelau NO2 o 44 μg/m3 yn 2019 i 33 μg/m3 yn 2022. Ers 2020, mae ansawdd yr aer ar Stryd y Castell yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth ansawdd aer.