The essential journalist news source
Back
6.
April
2023.
Y Cyngor yn ymuno â chynllun Cyflogwr sy'n Sy'n Dda i Bobl Hŷn


6/04/23

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gydnabod fel Cyflogwr Sy'n Dda i Bobl Hŷn fel rhan o waith yr awdurdod i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn.

Mae'r Cyngor wedi cael ei dderbyn ar gynllun Addewid Cyflogwr y Ganolfan Heneiddio'n Well, rhaglen drwy Brydain i gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i wella gwaith i bobl yn eu 50au a'u 60au.

Mae'r Ganolfan Heneiddio'n Well yn sefydliad ledled y DU sydd ar flaen y gad o ran yr uchelgais i sicrhau bod pawb yn heneiddio'n dda. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwerth pobl hŷn yn y gweithle yn cael ei gydnabod gan gyflogwyr a bod sefydliadau'n adeiladu timau aml-genhedlaeth.

Drwy lofnodi'r addewid, mae'r Cyngor yn dangos ei ymrwymiad i weithwyr hŷn a gwneud ein gweithleoedd gystal â phosib i bobl hŷn.  

Croesawyd y gydnabyddiaeth hyn gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion) a Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Cyngor, y Cynghorydd Norma Mackie, a dywedodd: "Mae Caerdydd ar daith i fod yn well i bobl hŷn ac mae ymuno â'r cynllun hwn yn llwyddiant sylweddol arall ar hyd y ffordd.

"Mae dod yn Gyflogwr Sy'n Dda i Bobl Hŷn yn anfon neges gref i'n gweithlu ein hunain a'n darpar weithwyr ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad ein staff hŷn a'r profiad a'r wybodaeth y maent yn ei chyflwyno i'w swyddi.


"Mae ein hymrwymiad i wella cyfleoedd gyrfa i bobl hŷn yng Nghaerdydd yn cael ei danlinellu yn y Cynllun Corfforaethol newydd 2023-26.  Rydyn ni eisiau gosod y safon i gyflogwyr eraill yn y ddinas ei dilyn a gallu cynnig gwybodaeth a chyngor ar ffyrdd y gallant wella eu busnes neu sefydliad o ran pobl hŷn, gyda'r bwriad o ymuno â'r cynllun addewid hefyd."

Fis Mawrth diwethaf, ymunodd Caerdydd â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn. Hi oedd yr aelod cyntaf o'r rhwydwaith o Gymru. 

Mae aelodaeth y ddinas o'r rhwydwaith hwn yn Sefydliad Iechyd y Byd, a sefydlwyd yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd â'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymunedau'n lle gwych i heneiddio, yn ganlyniad i gydweithio helaeth â rhanddeiliaid ledled y ddinas gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sefydliadau addysgol a sefydliadau'r trydydd sector.

Mewn cynllun gweithredu dynamig, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad ag aelodau hŷn y gymuned, nawr yn ei le. Ei nod yw gwneud Caerdydd yn ddinas Sy'n Dda i Bobl Hŷn ac mae'n cynnwys cyfres o ymrwymiadau i bobl hŷn, yn ymwneud ag agweddau ar fywyd megis tai, trafnidiaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau a werthfawrogir.

I gael gwybod mwy am Gaerdydd Sy'n Dda i Bobl Hŷn, ewch i: https://agefriendlycardiff.co.uk/