The essential journalist news source
Back
4.
April
2023.
Tîm gofalu’n paratoi cynfas wag ar gyfer murlun isffordd ysgol


 4/4/23

Mae sblash o liw a thipyn o waith gan bartneriaeth gymunedol wedi dod â bywyd newydd i daith ysgol disgyblion a theuluoedd yn Llanedern.

 

Mae murlun newydd lliwgar wedi'i baentio ar isffordd ger Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans, diolch i gydweithrediad rhwng plant yr ysgol, Gwasanaethau Gofalu'r Cyngor a chwmni murluniau o Gaerdydd, Wall-op Murals.

A group of people posing for a photo in front of a wall with graffitiDescription automatically generated with medium confidence

 

Gwnaeth tîm tynnu graffiti'r Cyngor lanhau a jet-olchi'r isffordd, oedd yn cael ei fandaleiddio'n aml a mawr angen sylw, i baratoi'r lle ar gyfer ei gweddnewidiad. 

 

Cafodd y murlun ei greu wedyn gan blant o Ysgol Gynradd Sant Philip Evans, sydd nepell i'r isffordd o dan Llanedeyrn Drive, a Murluniau Wal-op.

 

Cafodd y dyluniad ei lywio a'i ysbrydoli gan blant ac mae'n adlewyrchu'r hyn maen nhw'n ei fwynhau fwyaf am eu hysgol. Gwnaeth dros 50 o blant gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a helpodd i greu darlun o'r hyn sy'n gwneud eu cymuned ysgol yn un mor arbennig. Cyfrannodd R&M Williams, un o gontractwyr y Cyngor, y paent ar gyfer y prosiect.

 

Mae'r murlun wedi cael ymateb da gan y gymuned leol, gan gynnwys y plant oedd yn rhan o'i greu, wrth gwrs, a ddywedodd:  "Fy hoff beth yw'r lliwiau llachar a sut mae'r lluniau'n dangos yr holl hawliau rydyn ni'n dysgu amdanyn nhw yn yr ysgol", "Yn yr ysgol, rydyn ni'n dweud 'dwylo caredig, geiriau caredig, traed caredig, calonnau caredig'. Mae'n dda eich bod chi wedi cynnwys hynny" ac "Edrychwch! logo ein hysgol ni yw e, mae hynny'n cŵl".

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Am brosiect gwych dan arweiniad y gymuned fu hwn. Mae ein tîm gwasanaethau gofalu wedi bod yn fwy na pharod i fod yn rhan o'r cydweithrediad hwn i roi dechrau newydd i'r isffordd hon oedd angen ei gwella - ac mae'n edrych yn ardderchog.

 

"Da iawn i'r plant am ysbrydoli a chreu'r darn newydd hwn o gelf gyhoeddus i'r gymuned ei fwynhau. Yn sicr mae'n gwneud y daith gerdded i'r ysgol yn llawer mwy dymunol."