The essential journalist news source
Back
31.
March
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 31 Mawrth 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: 30,000 o goed wedi eu plannu yng Nghaerdydd ers Hydref 2022; Mis Ymwybyddiaeth Cansery Coluddyn; Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf; 'Amgylchedd dysgu gofalgar lle mae disgyblion yn datblygu sgiliau effeithiol' dywed Estyn; a Map o'r awyr o goed yn helpu lleihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb yng Nghaerdydd.

 

30,000 o goed wedi eu plannu yng Nghaerdydd ers Hydref 2022

Ers mis Hydref y llynedd, mae 30,000 o goed wedi eu plannu yng Nghaerdydd fel rhan o brosiect Coed Caerdydd.

Mae'r prosiect 10 mlynedd sydd bellach ar ddiwedd ei ail dymor plannu, yn rhan o ymateb y cyngor i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a'i nod yw cynyddu gorchudd canopi coed y ddinas o 18.9% i 25%.

Mae 152 o ddigwyddiadau plannu wedi eu cynnal ar draws y ddinas ers mis Hydref, gyda thrigolion, grwpiau cymunedol lleol ac ysgolion yn helpu i blannu coed ar 11.5 hectar o dir, sy'n cyfateb i 21 cae pêl-droed. 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Os ydym am wireddu ein gweledigaeth o ddinas garbon niwtral erbyn 2030, nid yn unig y mae'n rhaid i ni leihau allyriadau carbon wrth eu tarddiad trwy annog pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio, mae angen i ni hefyd blannu llawer mwy o goed er mwyn helpu i amsugno allyriadau carbon.

"Mae coed yng Nghaerdydd eisoes yn dileu allyriadau tua 14,000 o geir o'r atmosffer, ac yn amsugno 10.5% o'r llygryddion sy'n cael eu gollwng gan draffig. Drwy gydweithio â chymunedau a gwirfoddolwyr, nod prosiect uchelgeisiol Coed Caerdydd yw tyfu canopi coed y ddinas flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan greu coedwig drefol a fydd yn darparu aer glanach a dinas werddach i ni gyd allu ei mwynhau."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31051.html

 

Mis Ymwybyddiaeth Cansery Coluddyn

Mis Ymwybyddiaeth Cansery Coluddyn yw mis Ebrill. Mae'n gyfle blynyddol gwych i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. I gael gwybod mwy am Sgrinior Coluddyn Cymru,ewch i.

Bydd o leiaf 9 mewn 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn ddigon cynnar.

Ydych chi rhwng 55 a 74?

Os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg, anfonir pecyn prawf atoch yn awtomatig bob dwy flynedd.

Gall sgrinio coluddyn helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar, pan fo'n haws ei drin. 

Gall sgrinio am ganser y coluddyn achub eich bywyd Mae sgrinio yn gallu dod o hyd i ganser yn gynnar, pan nad oes gennych unrhyw symptomau.

Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn eich dewis chi. I gael y wybodaeth sydd angen i wneud penderfyniad,ewch yma.

#MisYmwybyddiaethCanseryColuddyn

 

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf; 'Amgylchedd dysgu gofalgar lle mae disgyblion yn datblygu sgiliau effeithiol' dywed Estyn

Mae'r arolygwyr wedi disgrifio Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf fel "amgylchedd dysgu gofalgar lle mae disgyblion yn datblygu sgiliau effeithiol mewn meysydd fel iaith a mathemateg."

Yn dilyn ei ymweliad ym mis Rhagfyr, canfu tîm o Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, fod yr uwch arweinwyr wedi sefydlu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol wedi'i seilio'n gadarn o gwmpas ei hethos Gristnogol ac yn gofalu am anghenion cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol ac addysgol disgyblion. Caiff y weledigaeth bwrpasol hon ei rhannu gan bawb, gan gynnwys disgyblion, ac mae'n sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd dysgu cynnes a gofalgar. Mae diwylliant cryf o ddiogelu yn yr ysgol ac mae'r holl staff yn deall yn dda eu rôl yn hyn o beth.

Canfu Estyn fod arweinwyr ysgolion yn gweithio'n ddiwyd i ddarparu'r gorau i bawb, gan weithio'n feddylgar, ac ystyried yn gadarn lles y disgyblion. Maent yn cefnogi ac yn herio pawb yn yr ysgol i wneud eu gorau ac yn ystyried yn feddylgar y ffordd orau o werthuso gwaith yr ysgol, er bod angen i'r prosesau hyn fod yn fwy miniog.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi bod yr ysgol yn gweithio'n feddylgar tuag at weithredu newidiadau yn sgil diwygiadau Cwricwlwm i Gymru a bod disgyblion yn elwa o ystod o brofiadau dysgu ysgogol. Mae darpariaeth i ddatblygu sgiliau Cymraeg y disgyblion yn effeithiol ac mae'r disgyblion yn defnyddio'r iaith yn hyderus. Nododd hefyd fod disgyblion o'r ysgol ffydd yn Llandaf yn feddylgar ac yn chwilfrydig, yn siarad yn huawdl ac yn rhannu eu meddyliau a'u syniadau'n rhwydd gyda llawer yn mynegi barn wedi'i datblygu'n dda.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31054.html

 

Map o'r awyr o goed yn helpu lleihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb yng Nghaerdydd

Mae'r Map Coed Cenedlaethol, a grëwyd gan Bluesky International, yn darparu data uchder, lleoliad a maint canopi cywir ar gyfer mwy na 400 miliwn o goed ledled y DU. Mae gwybodaeth o'r mapiau, ynghyd â data sy'n manylu ar leoliad gylïau draenio priffyrdd Caerdydd yn galluogi rhaglenni glanhau ac ysgubo strydoedd, ynghyd ag ymgysylltu â'r gymuned, i gael eu blaenoriaethu ar gyfer ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o ddail yn cwympo'n rhwystro draeniau.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd: "Wrth i Gaerdydd brofi tywydd cynyddol eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd, mae llifogydd dŵr wyneb yn peri risg gynyddol, ac mae hon yn ffordd syml ond hynod effeithiol o ddefnyddio deallusrwydd sy'n seiliedig ar leoliad i sicrhau manteision gweithredol."

Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor gyfrifoldeb am tua 100,000 o gylïau  priffyrdd, neu ddraeniau (pyllau wedi'u gorchuddio gan gratiau metel agored sydd fel arfer wedi'u lleoli ar ymyl y briffordd), sydd wedi'u cynllunio i ddraenio dŵr glaw, a dŵr ffo arall, i system ddraenio lle gellir ei gyfeirio i bwynt rhyddhau priodol.

Fel rhan o'r set ddata genedlaethol, mae Map Cenedlaethol Coed Bluesky wedi casglu data o goed 3 metr a thalach yn ardal Caerdydd. Gan ddefnyddio'r System Gwybodaeth Ddaearyddol ffynhonnell agored QGIS, i gymharu agosrwydd coed a gylïau, barnwyd bod yn agos at 5,000 neu bum y cant o gylïau mewn perygl o gwymp dail.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31017.html