23.3.23
Byddai gemau EURO 2028 UEFA sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd fel rhan o gais ar y cyd gan Gymdeithasau Pêl-droed Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn do â 'buddion economaidd sylweddol i Gaerdydd a'r Brifddinas-Ranbarth,' yn ôl adroddiad gan Gabinet Cyngor Caerdydd a gymeradwywyd cyn cyflwyno cais terfynol.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Dro ar ôl tro mae Caerdydd wedi dangos ei bod yn gallu cynnal digwyddiadau chwaraeon o safon fyd-eang a dydyn nhw ddim yn dod llawer mwy na Phencampwriaeth Pêl-droed Ewrop UEFA.
"Nid dim ond y buddion economaidd sylweddol y byddai cynnal gemau yn eu cyflawni ar gyfer y ddinas a'r rhanbarth ehangach yn ystod y twrnamaint, pe bai'n llwyddiannus, byddai'r cais hefyd yn rhoi'r ddinas ar lwyfan, gan adeiladu ar ei henw da fel cyrchfan digwyddiadau rhyngwladol, gan ddod â manteision mwy hirdymor i dwristiaeth. Yn bwysig iawn, byddai hefyd yn ehangu cyfleoedd i bobl yng Nghaerdydd gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol."
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau, 23 Mawrth cytunodd y Cabinet i gymeradwyo cyflwyno'r Cais Twrnamaint Terfynol, cymeradwyo'r Cytundeb Dinas Groeso, a pharhau â gwaith i ddatblygu cynnig y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon 2028, oherwydd y byddai cynnal gemau yng Nghaerdydd yn:
- Dod â budd economaidd sylweddol i Gaerdydd a'r Ddinas-ranbarth;
- Yn arwydd o Adferiad y Ddinas ar ôl Covid ac yn cynnig digwyddiad angor ar gyfer datblygu strategaeth ddigwyddiadau 10 mlynedd newydd.
- Yn adeiladu ar enw da Caerdydd fel cyrchfan i ddigwyddiadau rhyngwladol.
- Yn ategu portffolio digwyddiadau chwaraeon Caerdydd
- Yn cynnig platfform cyfryngau rhyngwladol sy'n hybu enw da Caerdydd a Chymru
- Yn cefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y sectorau diwylliannol, creadigol a thwristiaeth trwy gynnal Gŵyl UEFA a rhaglen ddiwylliannol a threftadaeth.
- Arddangos treftadaeth Caerdydd, ei lleoliadau, ei pharcdir a'i glannau.
- Cefnogi a hybu yr agenda iechyd a llesiant trwy gynyddu'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ac i geisio cynyddu'n sylweddol nifer y bobl sydd am chwarae, hyfforddi neu wirfoddoli yn y byd Pêl-droed yng Nghymru gan gynnwys sefydlu rhaglen waddol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais terfynol yw 12 Ebrill 2023, gyda disgwyl i UEFA gyhoeddi'r cais buddugol yn hydref 2023.
Cyn cyfarfod y Cabinet, craffwyd ar y cais EURO 2028 UEFA gan y Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir ar ddydd Mawrth, 21 Mawrth. Mae papurau am y cyfarfod craffu cyhoeddus hwn a recordiad o'r cyfarfod hwn ar gael yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7960&Ver=4&LLL=1lle bydd llif byw hefyd o'r cyfarfod ar gael ar y diwrnod.