The essential journalist news source
Back
21.
March
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 21 Mawrth 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys:buddsoddiad mawr mewn cartrefi 'anodd eu gwresogi'; Caerdydd yn rhoi teyrnged i Weithwyr Cymdeithasol y ddinas; cymuned leol yn ennill cae pêl-droed pob tywydd newydd; a trefniadau derbyn ysgolion.

 

Buddsoddiad mawr mewn Cartrefi 'Anodd eu Gwresogi' yng Nghaerdydd

Mae tua 250 o gartrefi 'anodd eu gwresogi' yng Nghaerdydd ar fin elwa o gynllun buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd i wella eu heffeithlonrwydd thermol a helpu i leihau costau ynni i drigolion.

Mae mwy na £7m wedi cael ei glustnodi ar gyfer y cynllun a fydd yn arwain at welliannau a fydd yn cael eu gwneud i gartrefi Cyngor a phreifat Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain (BISF) yn Ystum Taf a Thredelerch.

Bydd y cynllun ôl-osod ynni-effeithlon yn golygu y bydd gwaith insiwleiddio ar waliau allanol yn cael ei wneud ar hyd at 252 o gartrefi anhraddodiadol â ffrâm ddur yn yr ardaloedd hyn, gan helpu i wneud y cartrefi'n fwy thermol effeithlon. 

Mae'r Cyngor eisoes wedi buddsoddi mewn gwelliannau i gartrefi BISF, ac wedi'u dosbarthu fel 'anodd eu gwresogi', yng Nghaerau lle gwnaeth cynllun ôl-osod tebyg helpu i godi trigolion o dlodi tanwydd a chynyddu perfformiad ynni'r eiddo.

Byddai'r cynllun diweddaraf, sy'n cwmpasu 100 o gartrefi yn stoc y cyngor ei hun a hyd at 152 o dai dan berchnogaeth breifat, yn gweld amcangyfrif o £7m yn cael ei wario ar uwchraddio'r cartrefi gyda gwaith inswleiddio waliau allanol sy'n cynnwys system wlân fwynol anhylosg, a £400,000 arall ar inswleiddio nenfydau'r cartrefi deiliadaeth breifat.

Bydd y Cyngor yn talu am welliannau i'w stoc ei hun o'r Cyfrif Refeniw Tai tra bod arian grant gan Lywodraeth Cymru i wneud gwaith ar y cartrefi preifat.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Rydym wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd i ddod o hyd i ateb cyllid i wella nid yn unig ein cartrefi BISF ein hunain, ond y cartrefi preifat hefyd ac fel rhywun a fagwyd mewn cartref BISF fy hun, rwy'n falch iawn ein bod bellach mewn sefyllfa i symud y cynllun hwn ymlaen.

"Mae'n newyddion gwych i'r trigolion sy'n byw yn y cartrefi hyn yn Nhredelerch ac Ystum Taf.  Nawr yn fwy nag erioed, rydym i gyd mor ymwybodol o gostau cynyddol gwresogi ein cartrefi ac mae'r cartrefi hyn yn enwedig yn gostus o ran biliau tanwydd."

Darllenwch fwy yma

 

Caerdydd yn rhoi teyrnged i Weithwyr Cymdeithasol y ddinas: Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2023

Gyda'r nod o ddod â phobl at ei gilydd i ddysgu, cysylltu, a dylanwadu ar newid, mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2023 yn digwydd o Ddydd Llun 20 i ddydd Gwener 24 Mawrth 2023 ac i gyd-fynd â'r achlysur, mae aelodau Cabinet Cyngor Caerdydd wedi talu teyrnged i weithwyr cymdeithasol a'r holl staff sy'n cefnogi gwaith cymdeithasol ar draws y ddinas.

Mae'r Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion a'r Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant, wedi ymuno i ddathlu cyflawniadau gweithwyr cymdeithasol Caerdydd a rhannu canmoliaeth o'r gweithlu.

"Hoffwn gymryd y cyfle hwn yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasoli amlygu'r gwaith gwych a wneir gan weithwyr cymdeithasol Caerdydd a'r holl staff sy'n cefnogi'r gwasanaeth. Maen nhw'n gweithio'n anhygoel o galed, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled y ddinas. Rwyf wedi gweld eu brwdfrydedd a'u hangerdd dros gefnogi cleientiaid agored i niwed ac rwyf am ddiolch iddynt am eu gwaith caled.

"Mae eu hymroddiad, eu hamynedd a'u proffesiynoldeb parhaus yn cyfrannu'n fawr at sicrhau canlyniadau gwell i'r rhai sydd angen ein help fwyaf," meddai'r Cynghorydd Mackie.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ash Lister: "Mae staff ar draws y Gwasanaethau Plant yn gwneud gwaith mor bwysig, sy'n aml yn heriol iawn - bob dydd.

"Ar ôl gweithio gyda phlant a phobl ifanc fy hun, rwyf wedi gweld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud i gadw cenedlaethau'r dyfodol yn ddiogelyn erbyn pwysau mawr, tra'n parhau i helpu i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant.

"Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol yn gyfle gwych i ddweud diolch yn fawr, ond i mi mae'n hollbwysig bod staff yn gwybod fod y gwaith maen nhw'n ei wneud yn cael ei werthfawrogi bob dydd o'r flwyddyn."

Ym mis Hydref 2022,cyhoeddwyd Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol Caerdydd 2021/22 yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi bod ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, er gwaethaf cynnydd parhaus yn nifer y bobl sydd angen cymorth yn y ddinas a chymhlethdod y materion sy'n eu hwynebu.

Darllenwch fwy yma

 

Cymuned leol yn ennill cae pêl-droed pob tywydd newydd

Mae pêl-droedwyr yn Sblot wedi rhoi eu sêl bendith i gae pêl-droed 3G newydd yn yr ardal.

Ymunodd chwaraewyr o dîm merched dan 10 oed Clwb Pêl-droed Splott Albion ddoe â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke ac aelodau ward lleol yn ystod lansiad swyddogol y cyfleuster newydd, sydd wedi cael ei ddarparu fel rhan o Raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaeth y Cyngor.

"Mae'n anhygoel!" oedd rheithfarn y chwaraewyr ifanc sy'n edrych ymlaen at chwarae eu gêm gyntaf ar y cae yn fuan iawn.

Mae'r rhaglen Cynlluniau Adfywio Cymdogaethau yn darparu projectau adfywio ar hyd a lled y ddinas, yn barciau newydd, gwelliannau i strydoedd ac i ddiogelwch cymunedol.

Cafodd y cynllun i gyflwyno'r cae ei gynnig gan aelodau lleol i ddarparu cyfleuster gydol y flwyddyn i'w ddefnyddio gan y gymuned leol. Bydd Splott Albion FC nawr yn rheoli'r arwyneb pob tywydd synthetig newydd sydd hefyd â ffensys 5m o uchder rownd y perimedr, llifoleuadau a mynediad diogel. Bydd y cae ar gael i'w ddefnyddio heb unrhyw gost i glybiau pêl-droed iau lleol, yn ogystal ag i'w logi'n breifat gan dimau chwaraeon eraill.

Darllenwch fwy yma

 

Trefniadau Derbyn Ysgolion Caerdydd 2024/25

Ymgynghorwyd yn ddiweddar ar Drefniadau Derbyn Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer 2024/25, a bydd y canfyddiadau'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet pan fydd yn cyfarfod Ddydd Iau 23 Mawrth. 

Mae gofyn i Awdurdodau Lleol adolygu eu Trefniadau Derbyn i Ysgolion yn flynyddol.  Mae'r newidiadau arfaethedig i drefniadau 2024/25 yn cynnwys addasiadau i broses dderbyn gydlynol ysgolion Caerdydd, sef y drefn sy'n galluogi rhieni i wneud cais am le mewn ysgol gan ddefnyddio un ffurflen yn unig ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ffydd) ac ysgolion sefydledig.

Wedi'i reoli'n llwyddiannus ers blwyddyn dderbyn 2018/2019, ehangwyd proses dderbyn gydlynol ysgolion Caerdydd ac erbyn hyn mae'n cynnwys pob un o'r deuddeg ysgol Uwchradd Gymunedol, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (ysgol sefydledig) ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf (ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir/ffydd). Yn ogystal, mae 20 o ysgolion ffydd cynradd wedi ymuno â 75 o ysgolion cynradd cymunedol.

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog wedi cytuno i ymgynghori ar ei threfniadau derbyn ar gyfer 2024/2025, a fyddai'n cynnwys cydlynu ei derbyniadau gyda'r Cyngor.

Roedd y farn a gyflwynwyd yn ystod ymgynghoriad y Cyngor yn fras yn cefnogi'r cynllun hwn ac roedd ymatebion yn awgrymu y byddai hyn yn gwneud cais am le mewn ysgol yn decach, yn fwy syml a bod teuluoedd yn fwy tebygol o gael un o'r ysgolion y maen nhw'n eu ffafrio. Nodwyd hefyd bod ysgolion sy'n parhau y tu allan i'r cynllun derbyn wedi'i gydlynu, ar eu colled pan fydd rhieni'n sicrhau llefydd dewis cyntaf mewn mannau eraill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae proses dderbyn gydlynol Caerdydd yn annog trefn fwy cydradd o ddyrannu lleoedd mewn ysgolion ac yn gwneud y broses o wneud cais mor deg a syml â phosibl i deuluoedd.

"Mae'n galonogol bod yr ymatebion o blaid ehangu'r broses dderbyn gydlynol a fydd nid yn unig yn symleiddio'r broses ond hefyd yn atal rhieni rhag derbyn nifer o gynigion sy'n atal plant eraill rhag cael cynnig y lleoedd hyn.

"Gall rhieni nodi ysgolion yn nhrefn eu dewis wrth wneud cais sy'n rhoi gwell cyfle i sicrhau ysgol a ffefrir yn y rownd gyntaf o dderbyniadau ac sy'n osgoi straen diangen i'r teuluoedd na fyddent fel arall yn cael lle.  Mae hyn wedi'i gadarnhau yn y ganran uwch o blant y dyrannwyd llefydd mewn ysgolion uwchradd a ffefrid ganddynt eleni."

Darllenwch fwy yma