23/3/23
Mae tua 250 o gartrefi 'anodd eu gwresogi' yng
Nghaerdydd ar fin elwa o gynllun buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd i wella
eu heffeithlonrwydd thermol a helpu i leihau costau ynni i drigolion.
Mae mwy na £7m wedi cael ei glustnodi ar gyfer y
cynllun a fydd yn arwain at welliannau a fydd yn cael eu gwneud i gartrefi
Cyngor a phreifat Ffederasiwn Haearn a Dur Prydain (BISF) yn Ystum Taf a
Thredelerch.
Bydd y cynllun ôl-osod ynni-effeithlon yn golygu y
bydd gwaith insiwleiddio ar waliau allanol yn cael ei wneud ar hyd at 252 o
gartrefi anhraddodiadol â ffrâm ddur yn yr ardaloedd hyn, gan helpu i wneud y
cartrefi'n fwy thermol effeithlon.
Mae'r Cyngor eisoes wedi buddsoddi mewn gwelliannau
i gartrefi BISF, ac wedi'u dosbarthu fel 'anodd eu gwresogi', yng Nghaerau lle
gwnaeth cynllun ôl-osod tebyg helpu i godi trigolion o dlodi tanwydd a chynyddu
perfformiad ynni'r eiddo.
Byddai'r cynllun diweddaraf, sy'n cwmpasu 100 o
gartrefi yn stoc y cyngor ei hun a hyd at 152 o dai dan berchnogaeth breifat,
yn gweld amcangyfrif o £7m yn cael ei wario ar uwchraddio'r cartrefi gyda
gwaith inswleiddio waliau allanol sy'n cynnwys system wlân fwynol anhylosg, a
£400,000 arall ar inswleiddio nenfydau'r cartrefi deiliadaeth breifat.
Bydd y Cyngor yn talu am welliannau i'w stoc ei hun
o'r Cyfrif Refeniw Tai tra bod arian grant gan Lywodraeth Cymru i wneud gwaith
ar y cartrefi preifat.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y
Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydym
wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd i ddod o hyd i ateb cyllid i wella
nid yn unig ein cartrefi BISF ein hunain, ond y cartrefi preifat hefyd ac fel
rhywun a fagwyd mewn cartref BISF fy hun, rwy'n falch iawn ein bod bellach mewn
sefyllfa i symud y cynllun hwn ymlaen.
"Mae'n newyddion gwych i'r trigolion sy'n byw
yn y cartrefi hyn yn Nhredelerch ac Ystum Taf.
Nawr yn fwy nag erioed, rydym i gyd mor ymwybodol o gostau cynyddol
gwresogi ein cartrefi ac mae'r cartrefi hyn yn enwedig yn gostus o ran biliau
tanwydd."
Yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â thlodi
tanwydd, mae'r gwelliannau ôl-osod hefyd yn cefnogi ymdrechion y Cyngor tuag at
ddod yn garbon niwtral, yn rhan o’r weledigaeth Cryfach, Tecach,
Gwyrddach. Mae Caerdydd Un Blaned,
strategaeth newid yn yr hinsawdd y Cyngor, yn nodi bod tai yn cyfrannu'n
sylweddol at allyriadau carbon y ddinas, ac yn cynnwys ymrwymiad i hwyluso'r
gwaith o wella perfformiad ynni holl ddeiliadaethau tai'r ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet
dros Newid yn yr Hinsawdd: "Gyda nwy yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r
rhan fwyaf o gartrefi yng Nghaerdydd, mae 29% o allyriadau carbon y ddinas yn
dod o gartrefi domestig. Uwchraddio insiwleiddio
yw'r ffordd symlaf a mwyaf effeithiol o leihau faint o ynni mae'n ei gymryd i
aros yn gynnes gartref, sydd o fudd i bocedi trigolion, ac i'r
blaned."
Yn ogystal ag ôl-osod y stoc bresennol, mae rhaglen
adeiladu tai newydd y Cyngor yn darparu cartrefi cyngor carbon isel, hynod
gynaliadwy, o ansawdd da ledled y ddinas i ateb galw uchel am dai fforddiadwy.
Yn ei gyfarfod ddydd Iau, 23 Mawrth, argymhellodd y
Cabinet i gymeradwyo’r strategaeth gomisiynu a’r modelau a threfniadau caffael
arfaethedig ar gyfer y cynllun ôl-osod ynni-effeithlon gan roi awdurdod i’r
Cyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau i ddelio â phob agwedd ar y gwaith
caffael sy'n ymwneud â'r cynllun.
Gallwch weld yr adroddiad llawn yma:
https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7960&Ver=4
Cyn y Cabinet, trafodwyd yr adroddiad gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau
Cymuned ac Oedolion mewn cyfarfod cyhoeddus am 2pm ddydd Llun 20 Mawrth yn
Ystafell Bwyllgor 4, Neuadd y Sir.