The essential journalist news source
Back
17.
March
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Mawrth 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Cais i gynnal UEFA EURO 2028 yng Nghaerdydd; cynigion ysgolion cynradd i rannau o ganol a gogledd Caerdydd; aCynllun £800m ar gyfer mwy o gartrefi cyngor carbon isel o ansawdd uchel.

 

Cais Dinas Groeso EURO 2028 UEFA

Byddai gemau EURO 2028 UEFA sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd fel rhan o gais ar y cyd gan Gymdeithasau Pêl-droed Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn do â 'buddion economaidd sylweddol i Gaerdydd a'r Brifddinas-Ranbarth,' yn ôl adroddiad gan Gabinet Cyngor Caerdydd a gyhoeddwyd cyn cyflwyno cais terfynol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Dro ar ôl tro mae Caerdydd wedi dangos ei bod yn gallu cynnal digwyddiadau chwaraeon o safon fyd-eang a dydyn nhw ddim yn dod llawer mwy na Phencampwriaeth Pêl-droed Ewrop UEFA.

"Nid dim ond y buddion economaidd sylweddol y byddai cynnal gemau yn eu cyflawni ar gyfer y ddinas a'r rhanbarth ehangach yn ystod y twrnamaint, pe bai'n llwyddiannus, byddai'r cais hefyd yn rhoi'r ddinas ar lwyfan, gan adeiladu ar ei henw da fel cyrchfan digwyddiadau rhyngwladol, gan ddod â manteision mwy hirdymor i dwristiaeth. Yn bwysig iawn, byddai hefyd yn ehangu cyfleoedd i bobl yng Nghaerdydd gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol."

Mae'r adroddiad yn argymell cymeradwyo cyflwyno'r Cais Twrnamaint Terfynol, cymeradwyo'r Cytundeb Dinas Groeso, a pharhau â gwaith i ddatblygu cynnig y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon 2028, oherwydd y byddai cynnal gemau yng Nghaerdydd yn:

  • Dod â budd economaidd sylweddol i Gaerdydd a'r Ddinas-ranbarth;
  • Yn arwydd o Adferiad y Ddinas ar ôl Covid ac yn cynnig digwyddiad angor ar gyfer datblygu strategaeth ddigwyddiadau 10 mlynedd newydd.
  • Yn adeiladu ar enw da Caerdydd fel cyrchfan i ddigwyddiadau rhyngwladol.
  • Yn ategu portffolio digwyddiadau chwaraeon Caerdydd
  • Yn cynnig platfform cyfryngau rhyngwladol sy'n hybu enw da Caerdydd a Chymru
  • Yn cefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y sectorau diwylliannol, creadigol a thwristiaeth trwy gynnal Gŵyl UEFA a rhaglen ddiwylliannol a threftadaeth.
  • Arddangos treftadaeth Caerdydd, ei lleoliadau, ei pharcdir a'i glannau.
  • Cefnogi a hybu yr agenda iechyd a llesiant trwy gynyddu'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ac i geisio cynyddu'n sylweddol nifer y bobl sydd am chwarae, hyfforddi neu wirfoddoli yn y byd Pêl-droed yng Nghymru gan gynnwys sefydlu rhaglen waddol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais terfynol yw 12 Ebrill 2023, gyda disgwyl i UEFA gyhoeddi'r cais buddugol yn hydref 2023.

Darllenwch fwy yma

 

Gallai cynigion newydd arwain at ailwampio ac adfywio ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, Y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd

Fe allai cynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus y gwanwyn hwn, pe bai Cabinet Cyngor Caerdydd yn cytuno arnynt.

Mae'r cynigion - sy'n anelu at sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg sy'n gallu bodloni'r galw presennol ac yn y dyfodol yn yr ardal - wedi eu datblygu er mwyn ymgynghori arnynt gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant.

Mae tri opsiwn posib yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau sydd wedi'u llunio i wella cyfleoedd dysgu ac er mwyn helpu i leddfu unrhyw bwysau ariannol sy'n cael ei brofi gan ysgolion yr ardal ar hyn o bryd.

Y dewisiadau yw:

Opsiwn 1

Sefydlu Ysgol Gynradd Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) drwy gyfuno Ysgolion Cynradd Gladstone ac Allensbank, gyda meithrinfa ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica

Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.

Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96. 

Opsiwn 2

Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone/Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, a byddai'r ysgol yn lleihau ei chapasiti o 315 o leoedd i 210 o leoedd, gyda'r ystod oedran yn lleihau o 3-11 i 4-11 drwy derfynu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.

Byddai nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Gynradd Gladstone yn cynyddu o 64 i 96

Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol. 

Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96. 

Opsiwn 3

Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan ac yn lleihau ei chapasiti o 315 i 192 o leoedd.

Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96. 

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ar ddechrau 2021, ymgynghorwyd ar gynnig dros dro ar gyfer Ysgol Mynydd Bychan ac Ysgol Gynradd Allensbank ac ar ôl gwrando ar yr adborth, cytunwyd bod angen cynllun hirdymor i fynd i'r afael â lleoedd ysgol yn yr ardal.

"Mae pob un o'r opsiynau newydd wedi'u dyfeisio'n ofalus i sicrhau bod y nifer iawn o lefydd cyfrwng Saesneg yn parhau i gael eu cynnig mewn cyfleusterau gwell yn wardiau Cathays a Gabalfa, a bod y rhain yn cael eu trefnu mewn ffordd sy'n cefnogi'r ysgolion i ddod yn fwy cynaliadwy wrth roi sylw i'r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg.

"Pe bai'r cynigion yn symud ymlaen, byddai'r cynigion yn helpu i ail-gydbwyso nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg sy'n golygu y bydd nifer mwy o blant yn cael mynediad i'w hysgol leol. Yn ogystal, drwy ailddefnyddio asedau presennol yn fwy effeithlon a thrwy weithio ar y cyd, byddai'r ysgolion dan sylw yn mwynhau nifer o fanteision gan gynnwys gwell adnoddau a chyfleoedd dysgu ar gyfer disgyblion a staff. Mae'r cynigion yn cadw'r holl adeiladau presennol fel y gall cymuned yr ysgol fod â sicrwydd y bydd digon o lefydd i ymateb i unrhyw newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol."

Darllenwch fwy yma

 

Cynllun £800m ar gyfer mwy o gartrefi cyngor carbon isel o ansawdd uchel

Mae graddfa ac uchelgais rhaglen datblygu tai cyngor Caerdydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Busnes blynyddol Cyfrif Refeniw Tai yr awdurdod.

Dyma un o'r prosiectau tai cyngor mwyaf yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad o £800m gan y Cyngor i adeiladu mwy o gartrefi carbon isel, ansawdd uchel, a fforddiadwy yn hanfodol i ddiwallu'r angen am dai yn y ddinas, ac mae'n flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Busnes 2023/24.

Mae targed i adeiladu o leiaf 4,000 o gartrefi newydd gan gynnwys 2,800 o gartrefi cyngor a 1,200 o gartrefi i'w gwerthu. Yn barod, mae mwy na 1,000 o gartrefi newydd, gan gynnwys 822 o dai cyngor, wedi cael eu hadeiladu. Mae 60 o safleoedd yn rhan o'r rhaglen hyd yn hyn sy'n  ddigon ar gyfer 3,500 neu fwy o gartrefi newydd, ac mae gwaith yn digwydd i adnabod mwy o safleoedd i gyrraedd y targed o 4,000 o gartrefi.

Yn rhan o'r rhaglen mae dros £150m wedi'i glustnodi ar gyfer 10 cynllun Byw yn y Gymuned newydd i bobl hŷn. Bydd y 600 o fflatiau newydd drwy hyn yn bodloni dyheadau pobl hŷn wrth iddyn nhw heneiddio.

Mae cynaliadwyedd ac arloesedd wrth wraidd datblygiadau. Enghraifft o hynny yw'r cartrefi modiwlaidd ynni-effeithlon ar Crofts Street, Plasnewydd, a safle Aspen Grove yn Nhredelerch sy'n barod i fod yn sero net. Mae'r rhain yn gosod y safon ac yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol mewn cynlluniau gwobrau mawr.

Mae'r buddsoddiad yn y rhaglen dai newydd yn rhan o tua £111m ar gyfer tai a chymunedau yn y ddinas dros y 12 mis nesaf, gan gynnwys gwelliannau i gartrefi presennol, addasiadau i bobl anabl a chynlluniau adfywio.

Mae symud tuag at gartrefi sero carbon yn flaenoriaeth nid yn unig mewn datblygiadau newydd ond mewn stoc bresennol, yn unol â Strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor.  Bydd bron i £16m yn cael ei wario ar stoc bresennol, gan gynnwys £3.1m ar gynlluniau effeithlonrwydd ynni i'w gwneud yn fwy cyfforddus i fyw ynddo ac yn fwy fforddiadwy i'w cynnal ar gyfer tenantiaid.

Mae blaenoriaethau eraill yn cynnwys parhau i sicrhau cymorth costau byw, atal a lleddfu digartrefedd a moderneiddio a gwella gwasanaethau i denantiaid.

Darllenwch fwy yma