The essential journalist news source
Back
17.
March
2023.
Cynllun £800m ar gyfer mwy o gartrefi cyngor carbon isel o ansawdd uchel


 23/3/23

Mae graddfa ac uchelgais rhaglen datblygu tai cyngor Caerdydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Busnes blynyddol Cyfrif Refeniw Tai yr awdurdod.

 

Dyma un o'r prosiectau tai cyngor mwyaf yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad o £800m gan y Cyngor i adeiladu mwy o gartrefi carbon isel, ansawdd uchel, a fforddiadwy yn hanfodol i ddiwallu’r angen am dai yn y ddinas, ac mae'n flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Busnes 2023/24.

 

Mae targed i adeiladu o leiaf 4,000 o gartrefi newydd gan gynnwys 2,800 o gartrefi cyngor a 1,200 o gartrefi i’w gwerthu. Yn barod, mae mwy na 1,000 o gartrefi newydd, gan gynnwys 822 o dai cyngor, wedi cael eu hadeiladu. Mae 60 o safleoedd yn rhan o’r rhaglen hyd yn hyn sy’n  ddigon ar gyfer 3,500 neu fwy o gartrefi newydd, ac mae gwaith yn digwydd i adnabod mwy o safleoedd i gyrraedd y targed o 4,000 o gartrefi.

 

Yn rhan o’r rhaglen mae dros £150m wedi’i glustnodi ar gyfer 10 cynllun Byw yn y Gymuned newydd i bobl hŷn. Bydd y 600 o fflatiau newydd drwy hyn yn bodloni dyheadau pobl hŷn wrth iddyn nhw heneiddio.

 

Mae cynaliadwyedd ac arloesedd wrth wraidd datblygiadau. Enghraifft o hynny yw’r cartrefi modiwlaidd ynni-effeithlon ar Crofts Street, Plasnewydd, a safle Aspen Grove yn Nhredelerch sy’n barod i fod yn sero net. Mae’r rhain yn gosod y safon ac yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol mewn cynlluniau gwobrau mawr.

 

 

Mae’r buddsoddiad yn y rhaglen dai newydd yn rhan o tua £111m ar gyfer tai a chymunedau yn y ddinas dros y 12 mis nesaf, gan gynnwys gwelliannau i gartrefi presennol, addasiadau i bobl anabl a chynlluniau adfywio.

 

Mae symud tuag at gartrefi sero carbon yn flaenoriaeth nid yn unig mewn datblygiadau newydd ond mewn stoc bresennol, yn unol â Strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor.  Bydd bron i £16m yn cael ei wario ar stoc bresennol, gan gynnwys £3.1m ar gynlluniau effeithlonrwydd ynni i'w gwneud yn fwy cyfforddus i fyw ynddo ac yn fwy fforddiadwy i’w cynnal ar gyfer tenantiaid.

 

Mae blaenoriaethau eraill yn cynnwys parhau i sicrhau cymorth costau byw, atal a lleddfu digartrefedd a moderneiddio a gwella gwasanaethau i denantiaid.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Ar hyn o bryd, mae pob rhan o’n gwasanaethau’n profi pwysau - Mae’r galw’n fawr am dai fforddiadwy o ansawdd da gyda thua 8,000 o bobl ar restrau aros y ddinas, niferoedd digynsail o bobl yn defnyddio’n gwasanaethau digartrefedd ac wrth gwrs, mwy o drigolion yn ei chael hi'n anodd delio â chostau cynyddol ynni, bwyd ac yn y blaen.

 

"Rwyf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ac mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gallu darparu tai fforddiadwy o ansawdd da i'r sawl sydd ei angen fwyaf, a chyngor a chymorth effeithiol i'n tenantiaid.

 

"Yn ogystal â goresgyn yr heriau hyn, mae llawer i edrych ymlaen ato eleni - ein cynllun datblygu sy’n mynd o nerth i nerth, ein cynllun cyntaf ar gyfer tai i bobl hŷn yn Addison House yn Nhredelerch yn agor yn yr hydref, gwaith i ehangu safle Gasworks i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, a cham cyntaf y gwaith i weddnewid ystâd Trem y Môr ag enwi ond ychydig."

 

Fel un o ddim ond 11 awdurdod lleol sy'n cadw stoc yng Nghymru, rhaid i'r cyngor gyflwyno Cynllun Busnes derbyniol i’r Cyfrif Refeniw Tai i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

 

Yn ei gyfarfod ddydd Iau, 23 Mawrth, cymeradwyodd y Cabinet i gyflwyno Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 i Lywodraeth Cymru.  Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7960&Ver=4

 Cyn y Cabinet, trafodwyd y cynllun busnes gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymuned ac Oedolion mewn cyfarfod cyhoeddus. 

 

(diwedd)