The essential journalist news source
Back
17.
March
2023.
Cais Dinas Groeso EURO 2028 UEFA

Mawrth 17, 2023

Byddai gemau EURO 2028 UEFA sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd fel rhan o gais ar y cyd gan Gymdeithasau Pêl-droed Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn do â 'buddion economaidd sylweddol i Gaerdydd a'r Brifddinas-Ranbarth,' yn ôl adroddiad gan Gabinet Cyngor Caerdydd a gyhoeddwyd cyn cyflwyno cais terfynol.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Dro ar ôl tro mae Caerdydd wedi dangos ei bod yn gallu cynnal digwyddiadau chwaraeon o safon fyd-eang a dydyn nhw ddim yn dod llawer mwy na Phencampwriaeth Pêl-droed Ewrop UEFA.

 

"Nid dim ond y buddion economaidd sylweddol y byddai cynnal gemau yn eu cyflawni ar gyfer y ddinas a'r rhanbarth ehangach yn ystod y twrnamaint, pe bai'n llwyddiannus, byddai'r cais hefyd yn rhoi'r ddinas ar lwyfan, gan adeiladu ar ei henw da fel cyrchfan digwyddiadau rhyngwladol, gan ddod â manteision mwy hirdymor i dwristiaeth. Yn bwysig iawn, byddai hefyd yn ehangu cyfleoedd i bobl yng Nghaerdydd gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol."

 

Mae'r adroddiad yn argymell cymeradwyo cyflwyno'r Cais Twrnamaint Terfynol, cymeradwyo'r Cytundeb Dinas Groeso, a pharhau â gwaith i ddatblygu cynnig y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon 2028, oherwydd y byddai cynnal gemau yng Nghaerdydd yn:

 

  • Dod â budd economaidd sylweddol i Gaerdydd a'r Ddinas-ranbarth;
  • Yn arwydd o Adferiad y Ddinas ar ôl Covid ac yn cynnig digwyddiad angor ar gyfer datblygu strategaeth ddigwyddiadau 10 mlynedd newydd.
  • Yn adeiladu ar enw da Caerdydd fel cyrchfan i ddigwyddiadau rhyngwladol.
  • Yn ategu portffolio digwyddiadau chwaraeon Caerdydd
  • Yn cynnig platfform cyfryngau rhyngwladol sy'n hybu enw da Caerdydd a Chymru
  • Yn cefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y sectorau diwylliannol, creadigol a thwristiaeth trwy gynnal Gŵyl UEFA a rhaglen ddiwylliannol a threftadaeth.
  • Arddangos treftadaeth Caerdydd, ei lleoliadau, ei pharcdir a'i glannau.
  • Cefnogi a hybu yr agenda iechyd a llesiant trwy gynyddu'r cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ac i geisio cynyddu'n sylweddol nifer y bobl sydd am chwarae, hyfforddi neu wirfoddoli yn y byd Pêl-droed yng Nghymru gan gynnwys sefydlu rhaglen waddol.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais terfynol yw 12 Ebrill 2023, gyda disgwyl i UEFA gyhoeddi'r cais buddugol yn hydref 2023.

 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod yr adroddiad ar Gynnig EURO 2028 UEFA yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir o 2pm Ddydd Iau, 23 Mawrth. Mae agenda'r cyfarfod llawn, yn ogystal ag adroddiadau a phapurau nad sy'n gyfrinachol ar gyfer pob eitem ar yr agenda, ar gael i'w gweld ymahttps://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7960&Ver=4&LLL=1lle bydd llif byw hefyd o'r cyfarfod ar gael ar y diwrnod.

 

Bydd cais UEFA EURO 2028 yn cael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Economi a Diwylliant am 5.00pm ddydd Mawrth 21 Mawrth.Gellir gweld papurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod craffu cyhoeddus hwn, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=7941&LLL=1a bydd ffrwd fyw o we-ddarllediad cyfarfod y pwyllgor ar gael yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home