The essential journalist news source
Back
17.
March
2023.
Cyngor Caerdydd yn amlinellu'r glasbrint ar gyfer gweithlu 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach'

17/03/23 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Strategaeth Gweithlu ar gyfer y pum mlynedd nesaf sy'n manylu ar ei ymrwymiad i gyflogi 'y bobl gywir, gyda'r sgiliau cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir ac ar y gost gywir'.

Mae'r strategaeth, sydd â chyswllt agos ag ymagwedd 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' y Cyngor o ran sut mae'n darparu gwasanaethau i'w breswylwyr a'i gymunedau, yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2023-2027 ac yn cynnwys llu o fentrau gyda'r bwriad i:

 

  • Sefydlu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Caerdydd
  • Nodi mecanweithiau arloesol ar gyfer recriwtio a chadw staff mewn meysydd lle ceir prinder cenedlaethol
  • Defnyddio, meithrin a datblygu'r dalent sydd ganddo ar draws y Cyngor.

 

"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gweithwyr fel eu bod am weithio i ni ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion," meddai'r Cynghorydd Chris Weaver, yr aelod Cabinet dros gyllid, moderneiddio a pherfformiad.

"Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi creu strategaeth gweithlu newydd wedi'i hadeiladu o amgylch ein blaenoriaethau 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' - creu economi gref sy'n cynnal swyddi sy'n talu'n dda, gyda system addysg sy'n helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial, gan greu cyfleoedd y gellir eu mwynhau gan bawb, beth bynnag fo'u cefndir, mewn dinas sy'n canolbwyntio ar ddyfodol gwyrddach."

Mae'r strategaeth newydd yn nodi saith maes blaenoriaeth allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw os yw'r cyngor am ddatgloi potensial llawn ei staff:

 

  • Cydraddoldebau ac amrywiaeth- hyrwyddo gweithlu cynhwysol sy'n ymgysylltu
  • Strategaethau adnoddau- denu, datblygu a chadw'r dalent orau
  • Cynllunio'r gweithlu- galluogi'r cyngor i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth
  • Dysgu a datblygu- Sicrhau bod cyfle i bob gweithiwr ddatblygu eu sgiliau
  • Diwylliant, iechyd, llesiant ac ymgysylltu- cadw'r gweithle'n ddiogel ac yn iach a'r gweithlu wedi eu hymgysylltu ac yn wydn
  • Datblygiadau cytundebol- fframwaith clir i gefnogi cysylltiadau cyflogeion da
  • Partneriaethau ag undebau llafur- cyfathrebu'n glir ac yn rheolaidd i sicrhau bod llais y gweithwyr yn cael ei glywed

 

Mae'r adroddiad, sydd i fynd gerbron y Cabinet Ddydd Iau nesaf (23 Mawrth), yn amlygu meysydd lle mae'r Cyngor eisoes wedi cael llwyddiannau, gan gynnwys ennill nifer o wobrau am ei agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth - gan gynnwys gwobr aur Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall lle cafodd ei restru fel y cyngor rhif un yng Nghymru - yn darparu cyrsiau i gefnogi rheolwyr ar bolisïau a gweithdrefnau,  gan gynnwys y menopos a niwroamrywiaeth, a datblygu rhaglen ymgysylltu â gweithwyr ledled y cyngor.

Mae sicrhau bod y gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau yng Nghaerdydd yn allweddol i'r strategaeth a sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin gydag urddas a pharch. Er mwyn sicrhau hyn, mae'r strategaeth yn amlinellu nifer o flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys:

 

  • Cyflwyno paneli recriwtio amrywiol
  • Gweithredu rhaglen arweinyddiaeth sy'n cefnogi gweithwyr sydd â rhwystrau go iawn neu ganfyddedig i fynd yn eu blaenau
  • Parhau i hybu'r Gymraeg

 

Mae'r Cyngor hefyd yn ymrwymedig i archwilio ffyrdd newydd o recriwtio staff, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, ac adolygu teitlau swyddi, hysbysebion, disgrifiadau swydd fel y gall ymgeiswyr adnabod y rolau y dymunant wneud cais amdanynt yn hawdd.

Mae hefyd yn parhau i fod yn gyflogwr 'gwaith teg', gan leihau ei ddefnydd o staff asiantaeth a'u trosglwyddo i gontractau parhaol lle bo'n bosib, ac annog staff i ddatblygu eu sgiliau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gofynion newidiol y cyngor.

 

  • Mae'r adroddiad Strategaeth Gweithlu llawn ar gael i'w ddarllen  yma. Bydd yn cael ei drafod gan y Cabinet Ddydd Iau 23 Mawrth. Gweld y ffrwd fideo byw  yma.