The essential journalist news source
Back
17.
March
2023.
Cynigion ysgolion cynradd i rannau o ganol a gogledd Caerdydd

23/3/2023

Bydd cynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd yn mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus y gwanwyn hwn, ar ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd yn cytuno arnynt. 

Mae’r cynigion - sy’n anelu at sicrhau’r cydbwysedd cywir o ran darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg sy'n gallu bodloni'r galw presennol ac yn y dyfodol yn yr ardal - wedi eu datblygu er mwyn ymgynghori arnynt gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant.

Mae tri opsiwn posib yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau sydd wedi'u llunio i wella cyfleoedd dysgu ac er mwyn helpu i leddfu unrhyw bwysau ariannol sy'n cael ei brofi gan ysgolion yr ardal ar hyn o bryd.

Y dewisiadau yw:

 

Opsiwn 1

·         Sefydlu Ysgol Gynradd Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) drwy gyfuno Ysgolion Cynradd Gladstone ac Allensbank, gyda meithrinfa ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica

·         Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.

·         Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96. 

Opsiwn 2

 

·         Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone/Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, a byddai'r ysgol yn lleihau ei chapasiti o 315 o leoedd i 210 o leoedd, gyda'r ystod oedran yn lleihau o 3-11 i 4-11 drwy derfynu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.

·         Byddai nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Gynradd Gladstone yn cynyddu o 64 i 96

·         Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol. 

  • Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.  

Opsiwn 3

·         Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan ac yn lleihau ei chapasiti o 315 i 192 o leoedd.

·         Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96. 

 

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ar ddechrau 2021, ymgynghorwyd ar gynnig dros dro ar gyfer Ysgol Mynydd Bychan ac Ysgol Gynradd Allensbank ac ar ôl gwrando ar yr adborth, cytunwyd bod angen cynllun hirdymor i fynd i'r afael â lleoedd ysgol yn yr ardal.

"Mae pob un o'r opsiynau newydd wedi'u dyfeisio'n ofalus i sicrhau bod y nifer iawn o lefydd cyfrwng Saesneg yn parhau i gael eu cynnig mewn cyfleusterau gwell yn wardiau Cathays a Gabalfa, a bod y rhain yn cael eu trefnu mewn ffordd sy'n cefnogi'r ysgolion i ddod yn fwy cynaliadwy wrth roi sylw i'r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg.

"Pe bai'r cynigion yn symud ymlaen, byddai'r cynigion yn helpu i ail-gydbwyso nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg sy'n golygu y bydd nifer mwy o blant yn cael mynediad i'w hysgol leol. Yn ogystal, drwy ailddefnyddio asedau presennol yn fwy effeithlon a thrwy weithio ar y cyd, byddai'r ysgolion dan sylw yn mwynhau nifer o fanteision gan gynnwys gwell adnoddau a chyfleoedd dysgu ar gyfer disgyblion a staff. Mae'r cynigion yn cadw'r holl adeiladau presennol fel y gall cymuned yr ysgol fod â sicrwydd y bydd digon o lefydd i ymateb i unrhyw newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol."

Byddai'r cynlluniau hefyd yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg a chyflawni targedau Llywodraeth Cymru a nodwyd yn 'Cymraeg 2050'. 

 

Bydd y newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025. Byddai Opsiwn 1 a 2 yn destun arweiniad a chytundeb gyda Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llandaf fel Perchennog cofrestredig safle Santes Monica.

 

Byddai opsiwn 2 a 3 yn galluogi rhoi mwy o ystyriaeth i gydweithredu/ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Gynradd Gladstone.

 

Mae manteision amlwg i gydweithredu/ffedereiddio ar gyfer ysgolion sydd wedi'u lleoli naill ai ar yr un safle neu yn yr un gymuned gan ei fod yn eu galluogi i gydweithio ar flaenoriaethau a rennir, cronni arbenigedd, gwneud gwell defnydd o adnoddau ac archwilio ffyrdd o wneud pethau'n fwy effeithiol er budd eu dysgwyr a’r gweithlu.

 

Aeth yr adroddiad gerbron Cabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ddydd Iau 23 Mawrth 2023. Mae’r adroddiad i’w weld yma.