The essential journalist news source
Back
10.
March
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 10 Mawrth

10/03/23


Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Cynllun Caerdydd am ddyfodol Cryfach, Tecach a Gwyrddach drwy'r Cynllun Corfforaethol diweddaraf; cyllideb y flwyddyn nesaf a gymeradwywyd gan aelodau etholedig neithiwr; a chynllun grant beiciau trydan newydd i weithwyr gofal.

Cytuno ar gynllun Caerdydd ar gyfer dyfodol 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach'

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforol (Eitem 7) diweddaraf - glasbrint sy'n amlinellu ei weledigaeth o sut y bydd y ddinas yn datblygu dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt.

Mae'r cynllun yn ymrwymo'r Cyngor i raglen waith eang ar draws pob maes ac yn nodi'n fanwl sut y bydd yn gwella bywydau ei holl drigolion, gan osod targedau mesuradwy y gellir barnu ei berfformiad ohonynt.

Cafodd ei drafod yn wreiddiol gan bwyllgorau Craffu'r Cyngor, cyn cael ei gytuno gan y Cabinet.Cafodd y cynllun ei drafod a'i bleidleisio drwodd yng nghyfarfod y Cyngor llawn ddoe.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r adroddiad yn cynnwys saith amcan lles clir sy'n dangos pa wasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd sydd eisiau cyflawni, ac adlewyrchu ein dyheadau cyffredin a'r ddealltwriaeth gyffredin o'r heriau sy'n wynebu'r ddinas.

"Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gwneud Caerdydd yn brifddinas gryfach, decach, wyrddach. Rydym wedi gwneud cynnydd da ers i fy ngweinyddiaeth gael ei hethol yn 2017, ac er ein bod yn delio â'r argyfwng costau byw ac etifeddiaeth y pandemig sy'n taro ein gwasanaethau a'n cymunedau, rydym yn hyderus y gallwn gyflawni ein hymrwymiadau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30896.html

Pleidleisiwyd dros Gyllideb y flwyddyn nesaf mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn

Neithiwr pleidleisiodd Aelodau Etholedig Cyngor Caerdydd dros gyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, sy'n helpu i greu swyddi newydd, codi cartrefi cyngor y mae mawr eu hangen, ac a luniwyd i helpu Caerdydd ddod yn ddinas Gryfach, Gwyrddach a Thecach.

Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth y cyngor ymgynghori ledled y ddinas ar sut y gallai bontio diffyg ariannol o £24m yn ei gyllideb. Gofynnwyd i'r trigolion am eu barn ar sawl cynnig arbed costau a syniadau cynhyrchu arian a allai helpu diogelu'r gwasanaethau yr oeddent yn teimlo oedd bwysicaf iddyn nhw.

Fe wnaeth bron i 6,000 o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad chwe wythnos a ofynnodd ystod eang o gwestiynau, gan gynnwys:

  • P'un a ddylai llyfrgelloedd, hybiau, a chanolfannau ailgylchu gau ar ddiwrnodau penodol neu leihau oriau er mwyn arbed arian
  • P'un a oeddent o blaid caniatáu i hyrwyddwr allanol redeg Neuadd Dewi Sant - allai arbed hyd at £0.8m y flwyddyn mewn cymorthdaliadau blynyddol
  • Troi Amgueddfa Caerdydd yn weithrediad symudol i arbed £266k
  • Codi taliadau ar eitemau fel parcio trigolion, a chladdfeydd ac amlosgiadau.

Nawr, yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, pleidleisiodd y Cyngor Llawn dros gynigion a fydd yn pontio'r diffyg ariannol o £24m yng nghyllideb y cyngor tra'n canolbwyntio ar yr hyn mae trigolion yn ei ddweud sydd bwysicaf iddyn nhw.

Mae'r cynigion yn cynnwys pennu unrhyw godiad Treth Gyngor ar 3.95% - llawer yn is na'r gyfradd chwyddiant a thua £1 yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Byddai'r cynnydd hwn gyda'r cynnydd treth gyngor isaf yng Nghymru eleni.

 Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30894.html

 

 

 

 

Ar dy feic - mae gweithwyr gofal hapusach a mwy heini yn cynnig gwasanaethau gwell

Mae menter newydd i wella gallu gwasanaeth cymorth gofal cartref y ddinas yn hybu iechyd a lles rhai o weithwyr mwyaf hanfodol y ddinas, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. 

Mae cynllun ariannu grant beiciau trydan y Cyngor i weithwyr gofal wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda'r rhai a gymerodd ran yn teimlo'n hapusach ac yn fwy heini, yn ogystal ag yn well eu byd yn ariannol drwy orfod gwario llai ar danwydd.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, gwahoddodd y Cyngor ddarparwyr gofal ar draws y ddinas i wneud cais am grantiau i brynu beiciau trydan i staff deithio rhwng cartrefi cleientiaid. Cafodd cyfanswm o £41,000 ei ddyfarnu i 14 o ddarparwyr gofal cartref yn y ddinas i brynu 41 beic i'w staff.

Dywedodd darparwyr gofal a gymerodd ran yn y cynllun y bu'n bosibl iddynt gynyddu nifer y galwadau gofal maen nhw'n eu gwneud yn sgil amseroedd teithio llai rhwng cleientiaid, a bod mwy o wasanaethau'n cael eu darparu ar amser, gydag effaith gadarnhaol ar yr unigolion hynny sy'n derbyn gofal a chymorth. Dywedodd rhai darparwyr hefyd fod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol o ran cadw staff.

Mae'r Cyngor ar fin lansio trydydd cynllun ariannu grant beiciau trydan oherwydd llwyddiant y ddau gyntaf ac, yn ogystal, mae'n datblygu cynllun gwersi gyrru, a fydd yn darparu cymorth ariannol i dalu i weithwyr gofal ddysgu gyrru, gan dalu am gost gwersi, trwydded yrru dros dro a'r profion theori ac ymarferol, gwerth hyd at £570.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30885.html