The essential journalist news source
Back
10.
March
2023.
Helpu i fynd i'r afael â phwysau tai’r dinas


10/3/23

Mae perchnogion eiddo gwag hirdymor yng Nghaerdydd wynebu cynnydd pellach yn eu taliadau treth gyngor o dan gynlluniau newydd i helpu i leddfu'r pwysau ar argaeledd tai yn y ddinas.

 

O fis Ebrill ymlaen, bydd premiwm treth gyngor o 50% yn codi i 100% ar gyfer cartrefi sy'n wag a heb eu dodrefnu am fwy na blwyddyn mewn ymgais i annog perchnogion i ddod â'r eiddo hyn yn ôl i ddefnydd.

 

Bydd ail gartrefi yn y ddinas ac anheddau wedi'u dodrefnu nad ydynt yn brif gartref i unrhyw un hefyd wynebu premiwm o 100% o fis Ebrill 2024 ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo gan y Cabinet yn gynharach fis yma, a'r Cyngor Llawn neithiwr.

 

Rhoddodd Deddf Tai (Cymru) 2014 y disgresiwn i gynghorau gymhwyso premiwm o hyd at 100% ar ben y gyfradd treth gyngor safonol ar gyfer anheddau gwag hirdymor ac ers Ebrill 2019, mae premiwm o 50% wedi'i gymhwyso i'r eiddo yma yng Nghaerdydd. Roedd y Ddeddf hefyd yn galluogi cynghorau i godi premiwm o hyd at 100% ar eiddo sydd ond yn cael eu meddiannu o bryd i'w gilydd.

 

Mae'r rheoliadau wedi newid yn ddiweddar ac erbyn hyn mae gan Awdurdodau Lleol y pŵer i godi premiymau o hyd at 300% o'r tâl Treth Gyngor blynyddol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Mae eiddo gwag nid yn unig yn achosi problemau fel niwsans, fandaliaeth, gweithgaredd troseddol a dirywiad gweledol, maent hefyd yn adnodd sy'n cael ei wastraffu. O ystyried y pwysau tai rydyn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd, mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu argaeledd cartrefi.

 

"Mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn monitro cartrefi gwag yn y ddinas ac yn cymell perchnogion i weithredu'n gadarnhaol i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd buddiol mewn sawl ffordd, ond, yn wir, mae nifer yr eiddo gwag hirdymor sy'n destun premiwm treth gyngor wedi cynyddu ers i ni gyflwyno'r premiwm o 50% yn gyntaf, sy'n awgrymu efallai nad yw tâl ychwanegol o 50% yn ddigon fel cymhelliant ychwanegol i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd.

 

"Er bod gennym y pŵer i gymhwyso tâl o 300%, bydd  cynnydd yn ôl y lefelau a gymeradwywyd yn helpu i sicrhau bod taliadau'n cael eu derbyn yn ogystal â chaniatáu i ni ystyried unrhyw effaith ar y farchnad dai a chynllunio'r ffordd ymlaen yn unol â hynny.

 

"Byddai'r opsiwn i gynyddu'r gyfradd ar y cartrefi yma i hyd at 300% yn y dyfodol ar gael os ydyn ni'n teimlo y byddai hynny'n gwella'r sefyllfa dai yn y ddinas."

 

Mae ffigyrau eleni'n dangos bod 1,232 eiddo yn y ddinas sy'n wag am fwy na chwe mis ar unrhyw adeg, tra bod cofnodion yn dangos bod bron i 3,000 o gartrefi sy'n cael eu hystyried yn anheddau nad ydynt yn unig neu brif breswylfa i berson ac sydd wedi eu dodrefnu.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Mae'r rhain yn niferoedd sylweddol sy'n cael effaith wirioneddol ar argaeledd stoc dai yn y ddinas.  Bellach mae mwyafrif cynghorau Cymru'n codi rhyw fath o bremiwm a dangosodd ein hymgynghoriad diweddar gefnogaeth sylweddol i'r cynigion hyn."

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn gynharach eleni ac mae'r mwyafrif llethol o ymatebwyr (78%) yn cefnogi'r cynnig i gynyddu'r premiwm ar eiddo gwag hirdymor o 50% i 100% tra bod 73% o ymatebwyr hefyd yn cytuno â'r cynnig i godi premiwm o 100% ar ail gartrefi ac anheddau wedi'u dodrefnu nad ydynt yn brif gartref i unrhyw un.

 

Defnyddir arian ychwanegol a gynhyrchir drwy weithredu premiymau treth gyngor i helpu i fodloni anghenion tai lleol. Mae'r premiwm presennol o 50% ar eiddo gwag hirdymor yn cynhyrchu tua £400,000 bob blwyddyn y disgwylir iddo bellach godi i tua £700,000.

 

Gallai'r incwm ychwanegol posibl o godi premiwm ar ail gartrefi ac anheddau wedi'u dodrefnu nad ydynt yn brif gartref i unrhyw un fod yn tua £2.1m. Daw'r newid hwn i rym ar 1 Ebrill 2024 yn dilyn cyfnod rhybudd o flwyddyn.