The essential journalist news source
Back
2.
March
2023.
Cam wedi'i gymryd at gytuno ar gynllun dyfodol Caerdydd 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach'

02/03/23 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol diweddaraf - glasbrint sy'n amlinellu ei weledigaeth o sut y bydd y ddinas yn datblygu dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt. 

Mae'r cynllun yn ymrwymo'r Cyngor i raglen waith eang ar draws pob maes ac yn nodi'n fanwl sut y bydd yn gwella bywydau ei holl drigolion, gan osod targedau mesuradwy y gellir barnu ei berfformiad ohonynt. 

Cafodd ei drafod yn wreiddiol gan bwyllgorau Craffu'r Cyngor yn gynharach yr wythnos hon, cyn i'r Cabinet gytuno arno heddiw, 2 Mawrth.  Bydd y cynllun nawr yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 9 Mawrth. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r adroddiad yn cynnwys saith amcan lles clir sy'n dangos pa wasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd sydd eisiau cyflawni, ac adlewyrchu ein dyheadau cyffredin a'r ddealltwriaeth gyffredin o'r heriau sy'n wynebu'r ddinas. 

"Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gwneud Caerdydd yn brifddinas gryfach, decach, wyrddach.  Rydym wedi gwneud cynnydd da ers i fy ngweinyddiaeth gael ei hethol yn 2017, ac er ein bod yn delio â'r argyfwng costau byw ac etifeddiaeth y pandemig sy'n taro ein gwasanaethau a'n cymunedau, rydym yn hyderus y gallwn gyflawni ein hymrwymiadau yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod." 

YR AMCANION LLES 

  1. Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu

"Cynnal plant a phobl ifanc bregus yw dyletswydd gyntaf y Cyngor o hyd," meddai'r Cynghorydd Thomas. "Mae anghenion a gofynion plant yn tyfu o ran maint a chymhlethdod a bydd nifer o brosiectau yn canolbwyntio ar wella lles plant a phobl ifanc." 

Ymhlith y cynigion yn y maes hwn mae:

  • Cyflawni statws Dinas Sy'n Addas i Blant UNICEF erbyn Haf 2023;
  • Cau'r bwlch cyflawni ar gyfer y dysgwyr mwyaf agored i niwed a gwella canlyniadau plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • Cyflawni rhaglen barhaus o fuddsoddi mewn adeiladau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes mewn ysgolion;
  • Datblygu'r Gwasanaeth Maethu mewnol er mwyn ateb y galw am leoliadau a sicrhau bod gan ofalwyr maeth y sgiliau i ofalu am blant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth.

 

  1. Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn y ddinas yn gallu byw a heneiddio'n dda," meddai'r Cynghorydd Thomas. "Mae sicrhau bod pobl hŷn a'u gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt fynediad at y gofal a'r cymorth cywir i wella eu hiechyd a'u lles yn cynrychioli rhannau pwysig o'r agenda hon." 

Mae'r cynigion yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i gyflawni'r ymrwymiad i fod yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn ac yn Deall Dementia;
  • Annog cyflogaeth ac atal gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yn y farchnad swyddi;
  • Rhoi'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i helpu pobl i aros yn annibynnol gartref;
  • Gwrando ar ofalwyr di-dâl a theuluoedd i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

  1. Cefnogi pobl allan o dlodi

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gau'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd a chefnogi'r rhai sydd wedi cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw," meddai'r Cynghorydd Thomas. "Bydd y Cyngor yn parhau i hyrwyddo'r Cyflog Byw gwirioneddol a mynd i'r afael â digartrefedd a gweithio i roi terfyn ar gysgu ar y stryd." 

Mae'r cynlluniau'n cynnwys:

  • Cynorthwyo pobl â chael gwaith drwy barhau i lenwi a chyflawni cyfleoedd newydd i brentisiaid a'r sawl dan hyfforddiant o fewn y Cyngor;
  • Gwella mynediad i'r sector rhentu preifat a chael gwared ar lety yn raddol nad ydynt bellach yn cyrraedd safonau gofynnol;
  • Atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc a sicrhau bod pobl ifanc sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi.

 

  1. Cymunedau diogel, hyderus a grymus

"Bydd ein rhaglen Cyngor ac adeiladu tai fforddiadwy, sydd eisoes yr un fwyaf yng Nghymru, yn datblygu ymhellach i ddarparu mwy na 4,000 o gartrefi newydd," meddai'r Cynghorydd Thomas. "Byddwn yn buddsoddi yn ein parciau a'n mannau gwyrdd, gan ganolbwyntio ar wella'r rheini yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig." 

I'r perwyl hwn, mae gan y Cyngor gynlluniau gan gynnwys:

  • Sicrhau bod Cartrefi Caerdydd (rhaglen adeiladu tai bresennol y Cyngor) yn darparu o leiaf 1,000 o gartrefi newydd erbyn diwedd 2023;
  • Mynd i'r afael ag eiddo gwag hirdymor drwy ystyried cymhwyso premiwm treth gyngor o 300%;
  • Cyflawni hybiau Cymuned, Ieuenctid a Lles y dyfodol, gan gynnwys Hyb Ieuenctid canol y ddinas erbyn Haf 2023;
  • Sicrhau bod pob person, waeth pa mor agored i niwed, yn cael llais yn eu gofal, a gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

 

  1. Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru

"Mae economi Caerdydd yn ganolog i greu swyddi a denu buddsoddiad i Gymru," meddai'r Cynghorydd Thomas, "felly mae'n rhaid parhau i chwarae rhan flaenllaw yn economi Cymru, nid yn unig i bobl Caerdydd ond i bobl Cymru. 

"Bydd y Cyngor yn parhau i ddatblygu ei raglen gyfalaf o brosiectau mawr, gan gynnwys y Sgwâr Canolog, Y Cei Canolog, Cwr y Gamlas a'r Arena Dan Do." 

Mae'r cynlluniau yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ardal y Dociau Sych, a sefydlu llwybr Metro newydd sy'n cysylltu Caerdydd Canolog i'r Bae;
  • Cefnogi cwblhau gorsaf Parc Caerdydd fel rhan o strategaeth ddiwydiannol i ddwyrain Caerdydd;
  • Gweithio gyda phartneriaid i gefnogi'r sectorau manwerthu a lletygarwch i ailfywiogi'n llwyddiannus o'r cyfnod clo;
  • Datblygu gŵyl gerddoriaeth ryngwladol flynyddol yn y ddinas erbyn 2024, a gweithio gyda phartneriaid i ddenu digwyddiadau chwaraeon fel pencampwriaeth pêl-droed Euro 2028.

 

  1. Caerdydd Un Blaned

"Mae'r Cyngor wedi amlinellu llwybr i fod yn ddinas carbon sero-net erbyn 2030," meddai'r Cynghorydd Thomas. "Mae trawsnewid sut mae pobl yn symud o gwmpas y ddinas yn parhau i fod yn ganolog i ddatgarboneiddio'r ddinas, gan ofyn am raglen fawr o welliant i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. 

"Yn ogystal â hynny, bydd ffocws yn parhau i gael ei roi ar wella perfformiad ailgylchu'r Cyngor." 

Ymhlith y cynigion i gyflawni'r nodau hyn mae:

  • Gosod map ffordd seilwaith cerbydau trydan erbyn mis Mawrth 2024 i ddarparu strategaeth ar gyfer buddsoddiad yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat;
  • Hybu bwyd iach, lleol a charbon isel;
  • Dylunio a darparu rhwydwaith Metro (Tram) Caerdydd a Rhanbarthol, a pharhau i fuddsoddi mewn rhwydwaith seiclo ar wahân, gan gynnwys rhwydwaith llawn ledled y ddinas erbyn 2030;
  • Parhau â'r rhaglen i ddisodli pob un o'r 24,000 o oleuadau preswyl gyda goleuadau LED ynni-isel erbyn mis Rhagfyr 2023.

 

  1. Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus

"Mewn ymateb i'r galw cynyddol a lleihau cyllidebau, mae'r Cyngor yn dilyn rhaglen o foderneiddio a gwella gwasanaethau er mwyn gwella effeithlonrwydd, cynorthwyo cyflawniad yn wel a chefnogi newid cymdeithasol ac amgylcheddol," meddai'r Cynghorydd Thomas. 

"Wrth edrych ymlaen, mae'r Cyngor yn wynebu heriau sylweddol i'w wytnwch ariannol a fydd yn gofyn am ddatblygu dull sy'n dod ag asedau, technoleg a'r gweithlu ynghyd i ddatgloi arbedion effeithlonrwydd pellach, yn ogystal â sicrhau enillion amgylcheddol a darparu gwasanaeth gwell." 

Ymysg y cynlluniau arfaethedig mae:

  • Darparu adeiladau Cyngor meinach a gwyrddach, gweithredu'r model gweithio hybrid a gwaredu tir ac eiddo;
  • Cefnogi trigolion i newid i wasanaethau digidol;
  • Sefydlu rhwydwaith 'Cydraddoldeb ac Amrywiaeth' ledled y ddinas i annog arferion da a chydweithio, a sicrhau bod gweithlu'r Cyngor yn gynrychioliadol ac yn gynhwysol o'i chymunedau;
  • Cefnogi llwybrau dilyniant gyrfa i weithwyr o leiafrifoedd ethnig.

 

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld  yma.  Fe'i trafodwyd gan yBwyllgorau Craffu'r Cyngoryn gynharach yr wythnos hon.  Mae recordiadau o'r cyfarfodydd ar gael i'w gwylio  yma. 

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan yCyngorllawn ar9 Mawrth (ewchymai wylio'n fyw)