Merched o fyd gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
23/02/23
Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 yw"DigitalALL: Innovation and technology for gender equality"ac maeAddewid Caerdyddyn apelio ar fenywod o'r diwydiannau gwyddoniaeth a thechnoleg i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan Adran Economaidd a Materion Cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig yn dangos mai dim ond 19.9% o weithwyr gwyddoniaeth a pheirianneg proffesiynol y byd sy'n fenywod, a bod menywod yn lleiafrif mewn addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ar 35%. Dim ond 3% sydd wedi cofrestru mewn astudiaethau Cyfathrebu a Thechnoleg Gwybodaeth.
Gyda'r nod o godi dyheadau acysbrydoli mwy o ferched ysgol yng Nghaerdydd i ystyried gyrfaoedd digidol yn y dyfodol, mae Addewid Caerdyddyn gweithio gydag ystod o fenywod amrywiol mewn rolau ar draws y sector i rannu eu profiadau drwy gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Addewid Caerdydd yn gobeithio rhoi sylw i'r gwahaniaeth rhwng nifer y dysgwyr gwrywaidd a benywaidd sy'n ymgymryd â phynciau STEM a'r nod yw ceisiohybua datblygu cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn technoleg.
"Rydym am gofleidio tegwch a dathlu menywod arloesol yn y diwydiannau gwyddoniaeth a thechnoleg, gyda'r gobaith y bydd merched ysgol Caerdydd yn cael eu hysbrydoli a'u grymuso i weld eu hunain yn datblygu yn y gyrfaoedd hyn, ar ôl gadael byd addysg."
Mae Addewid Caerdydd yn cefnogi gweledigaeth y Cyngor y bydd y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc â'r amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael yn y byd gwaith.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Trwy gysylltubusnesau a chyflogwyr â'n hysgolion, mae Addewid Caerdydd yn gweithio i roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo. Maen nhw'n cael profiadau, gwybodaeth a chyngor ar y cyfleoedd gyrfaol cyffrous sydd gan Gaerdydd i'w cynnig, sy'n helpu cyflogwyr i gael mynediad at genhedlaeth o bobl ifanc sy'n wybodus, yn frwdfrydig ac yn awyddus i weithio yng Nghaerdydd a helpu i dyfu sectorau yn y Brifddinas-Ranbarth."
Dywedodd Anna McNally, Arbenigwr Azure Cloud yn Microsoft: "Rydw i mor falch o fod yn arwain digwyddiad menywod mewn technoleg yn ein swyddfa Microsoft yng Nghaerdydd ochr yn ochr ag Addewid Caerdydd.
"Mae mor bwysig ysbrydoli pobl ifanc heddiw a dangos pa rolau sydd ar gael yn y byd technoleg, pa adnoddau am ddim sydd ar gael iddyn nhw a sut y gallan nhw anelu at weithio i gwmni technoleg byd-eang sy'n galluogi'r byd i gyflawni mwy drwy dechnoleg."
Bydd digwyddiad a gyflwynir mewn partneriaeth ag Addewid Caerdydd a Microsoft yn cael ei gynnal ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 (Dydd Mercher 8 Mawrth) ym Microsoft yn Tramshed Tech lle bydd mwy na 40 o ferched ysgol Caerdydd yn cael eu gwahodd i glywed menywod o'r byd technoleg a gwyddoniaeth yn siarad.
Bydd hyn yn lansio cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Addewid Caerdydd gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i ddathlu menywod sy'n gweithio mewn technoleg a rhoi hwb i ferched i mewn i'r maes cyfrifiadureg.
Bydd y gweithgareddau'n amrywio o ddigwyddiadau byw wyneb-yn-wyneb mewn ysgolion i sgyrsiau rhithwir ar-lein. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu ag addewidcaerdydd@caerdydd.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Addewid Caerdydd ewch i:
Addewid Caerdydd