The essential journalist news source
Back
14.
February
2023.
Gwobr iechyd a lles bwysig i dair ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd


14/2/2022

Mae tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith o'r safon uchaf i hyrwyddo iechyd a lles ym mhob rhan o'u hysgolion.

Mae aseswyr Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru wedi rhoi'r Wobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach i Ysgol Gynradd Mynydd Bychan, Cathays, i Ysgol Tŷ Gwyn, Trelái ac i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Gabalfa am ddangos rhagoriaeth ym mhob maes iechyd a lles, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach yn gamp sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfranogiad disgyblion mewn meysydd craidd bywyd ysgol, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

"Mae'n gyflawniad rhagorol sy'n gofyn i ysgolion fynd drwy broses drwyadl dros naw mlynedd o leiaf, ac rwyf wrth fy modd bod tair ysgol arall yng Nghaerdydd wedi llwyddo i ennill y wobr, gan gydnabod gwaith caled y staff, y disgyblion a chymunedau ehangach yr ysgolion.

"Mae iechyd a lles yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd ysgol ac mae'r tair ysgol gynradd wedi dangos ystod eang o fentrau a gweithgareddau unigryw ac arloesol sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ddisgyblion a'u teuluoedd, gan helpu i hyrwyddo dyfodol hapus ac iach.

"Hoffwn longyfarch yr ysgolion yn bersonol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn ysbrydoli eraill i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau newydd a chyffrous ar gyfer eu hysgolion eu hunain"

 

Mae uchafbwyntiau adroddiad Ysgol Mynydd Bychan yn cynnwys:

  • Arwyddair yr ysgol yw "O'r fesen derwen a dyf' sy'n dangos y nod o gydweithredu'n effeithiol er mwyn helpu pob plentyn i gyflawni ei botensial.
  • Mae diwylliant, treftadaeth a hanes Cymru yn ganolog i'r cwricwlwm. Rhoddir pwyslais hefyd ar ffyrdd iach o fyw, gan ddangos pryder am yr amgylchedd yn ogystal â hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang.
  • Iechyd a lles y dysgwyr a'r staff sy'n cael y flaenoriaeth uchaf ac mae arweinwyr yr ysgol wedi dangos ymrwymiad clir iawn i bob agwedd ar y cynllun Ysgolion iach dros y blynyddoedd.
  • Rhoddir llawer o amlygrwydd i lais y disgybl drwy waith y Cyngor Ysgol a'r grwpiau dysgwyr amrywiol fel y grŵp Iechyd a Lles, y Grŵp Eco a'r Arweinwyr Digidol.

 

  • Mae egwyddorion y cynllun ysgolion iach wedi'u hymwreiddio'n ddwfn yng ngwaith yr ysgol. Mae'r ethos o gefnogi'r dysgwyr a rhoi arweiniad iddynt yn cael effaith arbennig o gadarnhaol ar les y dysgwyr ac ar eu datblygiad moesol a chymdeithasol.

Wrth fyfyrio ar y newyddion da, dywedodd Pennaeth Ysgol Mynydd Bychan, Siân Evans: "Rwy'n falch iawn o gymuned gyfan Ysgol Mynydd Bychan, yn enwedig y disgyblion a'r staff. Mae ein hysgol wastad wedi sicrhau bod iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol yn flaenoriaeth. Rydym yn falch iawn bod aseswyr y GAG wedi cadarnhau bod egwyddorion y cynllun ysgolion iach wedi'u hymwreiddio yn Ysgol Mynydd Bychan."


Uchafbwyntiau'r ymweliad ag Ysgol Tŷ Gwyn:

  • Yn ôl yr aseswyr, mae Ysgol Tŷ Gwyn yn ysgol hapus gydag awyrgylch tawel, cyfeillgar a pharchus ac ethos gofalgar ardderchog lle mae'r disgyblion yn hapus ac yn teimlo'n ddiogel.
  • Mae'r ethos ysgolion iach yn amlwg ac mae'r cydlynydd ysgolion iach yn sicrhau bod pawb yn Ysgol Tŷ Gwyn yn cyfrannu at ddatblygu iechyd a lles y disgyblion.
  • Mae'r Ganolfan Deulu yn rhoi amrywiaeth o gymorth hynod effeithiol i deuluoedd ac yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau/gweithgareddau i rieni gymryd rhan ynddynt.
  • Mae llais y disgybl wrth wraidd bywyd ysgol yn Ysgol Tŷ Gwyn a gall y disgyblion gyfrannu at benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
  • Mae cogydd yr ysgol a'r staff cymorth yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod disgyblion yn dilyn deiet iach ac yn sicrhau bod anghenion maethol, deietegol a bwydo amrywiol y disgyblion yn cael eu bodloni'n effeithiol bob dydd.
  • Mae gan yr ysgol weithwyr iechyd proffesiynol dynodedig i fodloni anghenion y disgyblion, fel nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith. Mae Meddygon ac Ymgynghorwyr yn cynnal ymgynghoriadau â'r rhieni a'u plant yn yr ysgol.
  • Ar diroedd yr ysgol ceir ardaloedd Ysgolion Coedwig, rhandiroedd, gerddi ysgol, pwll a meysydd chwarae â llawer o offer.

Dywedodd Jamie Brotherton, Pennaeth Ysgol Tŷ Gwyn: "Mae ennill y wobr yn gamp ardderchog i'r disgyblion, y staff, y llywodraethwyr, y teuluoedd a'r tîm o amgylch yr ysgol. Mae'r ysgol wedi gweithio fel rhan o'r Rhwydwaith Ysgolion Iach ers blynyddoedd lawer. Mae hyn wedi rhoi cyfarwyddyd a sicrwydd ansawdd i ni wrth ddatblygu arferion yn Ysgol Tŷ Gwyn sy'n cyd-fynd ag ethos ein hysgol.

"Drwy ennill y wobr mae'r disgyblion wedi dangos lefelau uchel o benderfyniad ac mae staff dan arweiniad y Cydlynydd Ysgolion Iach wedi bod yn hynod frwdfrydig ac ymroddedig. Bydd yr ysgol fel rhan o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin yn parhau i ddatblygu ei harferion ar draws iechyd a lles: maes sydd o bwys mawr i'n disgyblion." 

Uchafbwyntiau'r ymweliad ag Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff

  • Gwelwyd bod amgylchedd yr ysgol yn groesawgar iawn a bod yr ethos ysgolion iach yn amlwg ym mhob rhan o'r ysgol.
  • Mae nifer drawiadol o wobrau wedi eu hennill, gan gynnwys trydedd faner werdd Eco-Sgolion, y wobr arian ar gyfer Ysgolion sy'n Parchu Hawliau a'r wobr Ysgolion Masnach Deg uchaf.
  • Mae gwaith tîm yn nodwedd allweddol ac mae'r staff a'r rhieni yn frwdfrydig dros ddatblygu iechyd a lles y disgyblion.
  • Mae cyfathrebu'n wych ac mae negeseuon Ysgolion Iach yn cael eu cyfleu'n rheolaidd i deuluoedd sy'n croesawu polisi drws agored ac awyrgylch cyfeillgar yr ysgol.
  • Manteisir ar bob cyfle i sicrhau bod y tu mewn a'r awyr agored yn cael eu defnyddio'n dda gan gynnwys llochesau darllen ac ystafelloedd dosbarth awyr agored, cwrs rhwystrau newydd ac ardal Ysgol Goedwig.
  • Mae llais y disgybl yn Ysgol Sant Joseff wrth galon bywyd yr ysgol gan sicrhau y gall dysgwyr wneud cyfraniad ystyrlon i'w hysgol a'r gymuned leol a byd-eang.

 

Wrth ymateb i'r wobr, dywedodd Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Helen Wheeler: "Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y Wobr Ysgolion Iach Genedlaethol, gan gyflawni'r safonau uchaf ymhob un o'r saith agwedd iechyd a lles. Mae'n dangos yn glir ymrwymiad ac ymroddiad yr ysgol gyfan i gydweithio i hyrwyddo ac annog dewisiadau iach yn ein bywydau bob dydd.

"Rydym yn arbennig o falch o'n disgyblion gwych, sydd wedi gwneud gwaith gwych i hyrwyddo eu cenhadaeth i greu cymuned iach."

Dywedodd Gemma Cox, Prif Arweinydd Lleoliadau Addysg Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn falch iawn bod Ysgol Mynydd Bychan, Ysgol Tŷ Gwyn ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff wedi derbyn ein Gwobr Ansawdd Genedlaethol. Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i ymgorffori iechyd a lles yn niwylliant eu hysgolion.

"Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal ag ysgolion i wella iechyd a lles ein plant yn y dyfodol. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau mewn ffordd bwrpasol, gallwn greu Cymru iachach, hapusach a thecach."