The essential journalist news source
Back
7.
February
2023.
Presenoldeb nôl ar y trywydd - Cyngor Caerdydd yn lansio ymgyrch newydd ar bresenoldeb ysgol


7/2/2023

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ymgyrch i wella safonau presenoldeb ysgolion gyda'r nod bod pob plentyn a pherson ifanc ar draws y ddinas yn cael y cyfle gorau i gyflawni, er gwaethaf y tarfu ar addysg a achoswyd gan y pandemig.

Mewn partneriaeth ag ysgolion, mae'r ymgyrch newydd yn tynnu sylw at y ffaith bod dyddiau dysgu coll yn cyfrif ac yn atgoffa teuluoedd fod bob dydd yn bwysig yn yr ysgol, gyda phresenoldeb ysgol rheolaidd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu dysgwyr i gyflawni mwy a gwella cyrhaeddiad yn ystod eu bywydau ysgol a thu hwnt.

Cyn i ysgolion gau ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19, dangosodd adroddiad statudol i Lywodraeth Cymru fod presenoldeb mewn ysgolion cynradd yng Nghaerdydd ar 94.8% ac mewn ysgolion uwchradd ar 93.2%. Mae'r darlun presennol ar gyfer y cyfnod rhwng 2021-22 wedi gostwng i 89.4% ar gyfer ysgolion cynradd ac 88.5% ar gyfer ysgolion uwchradd.

Mae'r gostyngiad hwn yn ddarlun cyfarwydd a welir ledled Cymru gyda nifer o ffactorau cyfrannol wedi'u nodi fel rhesymau dros bresenoldeb gwael. Mae'r rhain yn cynnwys: 

-         nifer mwy o ddisgyblion yn profi gorbryder fel rhwystr i fynd i'r ysgol ac i'r rhai â chyflyrau iechyd meddwl blaenorol, sefyllfa wedi'i dwysáu gan gyfnodau clo sydd mewn ambell achos wedi arwain atproblemau iechyd mwy difrifol.

-         Mae teuluoedd ag agwedd wael tuag at bresenoldeb wedi ymwreiddio'r ymagwedd honno ymhellach ac fe welwyd ymagwedd fwy lac yn aml at bresenoldeb gan deuluoedd eraill yn dod i'r amlwg.

-         Mae ymddygiad mwy heriol wedi arwain at gynnydd mewn gwaharddiadau ac allgáu parhaol 

-         absenoldebau ynghlwm â salwch a llawer o rieni'n teimlo'n or-ofalus am anfon eu plant i'r ysgol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Cyn y pandemig, roedd Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella presenoldeb ar draws ein hysgolion ac roedd hyn wedi bod yn gyson dda ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, oherwydd y tarfu sylweddol a brofwyd gan ddisgyblion a'u hysgolion yn ystod y pandemig, mae lefelau presenoldeb wedi gostwng gyda llawer o ddysgwyr yn dal i golli diwrnodau'n rheolaidd.

O ddechrau Rhagfyr 2022, adferodd Llywodraeth CymruHysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer diffyg presenoldeb mewn ysgol.

"Rydym i gyd am i'n plant a'n pobl ifanc gael y cyfleoedd gorau i gyflawni ac mae ymgyrch bresenoldeb newydd Caerdydd yn annog ysgolion, disgyblion a'u teuluoedd i gydweithio er mwyn cael presenoldeb yn ôl ar y trywydd iawn. Mae cymorth arbenigol ar gael gan ystod o wahanol dimau a gall disgyblion a theuluoedd gael cymorth a chyngor ar bob mater yn ymwneud â phresenoldeb.

"Er na fydd angen gweld dychweliad Hysbysiadau Cosb Benodedig ym mhob ysgol, efallai y bydd hyn yn help i deuluoedd ystyried o'r newydd ac y bydd ysgolion yn sicrhau bod pob llwybr i ymgysylltu â theuluoedd wedi'u harchwilio cyn unrhyw gais."

Mae Swyddog Presenoldeb Ysgol ar gael i bob ysgol a Swyddog Lles Addysg dynodedig a fydd yn eich helpu ac yn eich cefnogi gydag unrhyw anawsterau o ran presenoldeb plentyn yn yr ysgol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/presenoldebynyrysgol

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoeddPorth i Deuluoedd Caerdydd - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd : Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk)