The essential journalist news source
Back
3.
February
2023.
Cerflun o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi' i'w godi yng nghanol Bae Caerdydd

03/02/23 

Mae cynlluniau i godi cerflun ym Mae Caerdydd o dri o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi' yng Nghymru wedi cael eu cymeradwyo. 

A person holding a catDescription automatically generated with low confidence
Billy Boston

A picture containing person, outdoor, person, sportDescription automatically generated
Clive Sullivan

A picture containing text, person, crowdDescription automatically generated
Gus Risman

Bydd y cerflun sy'n dathlu Billy Boston, Clive Sullivan, a Gus Risman yn cael ei godi yn Sgwâr Tir a Môr yng Nghei'r Fôr-Forwyn. Cafodd y tri chwaraewr eu magu o fewn radiws tair milltir o ardal Bae Caerdydd ac aethant ymlaen i fod yn rhai o arwyr chwaraeon mwyaf y wlad. 

Wedi'i sefydlu yn 2020, cafodd y prosiect 'Un Tîm. Un Ddynoliaeth:  Anrhydeddu Torwyr Cod Byd Rygbi Bae Caerdydd ei ysbrydoli gan alwadau gan gymunedau Butetown a Bae Caerdydd ehangach am deyrnged briodol i'r chwaraewyr a wnaeth gymaint i wella cysylltiadau hiliol ledled Prydain. 

Fe wnaeth y gŵr busnes a'r dyngarwr, Syr Stanley Thomas OBE, ymgymryd â rôl cadeirydd y pwyllgor codi arian a rhoddodd hwb ariannol i ddechrau'r ymgyrch godi arian gyda rhodd bersonol sylweddol. 

Dywedodd Syr Stanley Thomas OBE:
"Rwy'n falch iawn ar ôl dim ond 2 flynedd o ymgyrchu a chodi arian ein bod wedi cyrraedd ein targed ac rydym yn gobeithio y bydd y cerflun yn cael ei godi nawr bod y caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo ac y bydd yr arwyr chwaraeon gwych hyn yn derbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. 

"Hoffwn ymestyn fy niolch yn bersonol i Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol, Teulu Peterson, Ymddiriedolaeth Cyfleusterau Rygbi'r Gynghrair, Coleg Caerdydd a'r Fro a'r Sefydliad Broceriaid Cychod am eu rhoddion caredig, ac i  Capital Law, Verde Finance, Azets a Rio am eu cefnogaeth, eu sgiliau proffesiynol a'u hamser wrth gyflawni'r prosiect hwn." 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:
"Daeth y chwaraewyr anhygoel hyn ag anrhydedd iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, y gêm a'r cymunedau aml-ddiwylliannol balch lle cawsant eu magu, a bydd y cerflun yn sicrhau y bydd eu straeon yn byw yn eu blaen i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol." 

Meddai Cadeirydd y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol, Gaynor Legall:
"Bydd gosod y cerflun yn golygu llawer i ni, rhywbeth sy'n edrych fel ni ac sydd amdanom ni a'n stori; sy'n rhannu'r balchder sydd ynom am yr unigolion hynny â gweddill Cymru. Mae cael cerfluniau sy'n dathlu eu llwyddiannau yn rhywbeth i Gymru gyfan, nid Tiger Bay yn unig." 

Fe fydd y cerflun yn cael ei greu gan y cerflunydd Steve Winterburn. Mae ei yrfa 30 mlynedd eisoes wedi ei weld yn anfarwoli Billy Boston mewn cerflun yn Wigan, ac mae hefyd yn cynnwys cerflun Rygbi'r Gynghrair yn stadiwm Wembley. 

Gwefan y prosiect:
www.torwyrcodybydrygbi.co.uk