The essential journalist news source
Back
2.
February
2023.
Cost i barcio ym meysydd parcio ardal Caerdydd

02/02/23


Bydd cost parcio ym meysydd parcio ardal Caerdydd yn newid ar ddydd Llun, 6 Chwefror, o dan gynlluniau i helpu trigolion a siopwyr i sicrhau mannau parcio sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio gan gymudwyr.

 

Bydd y ddwy awr gyntaf o barcio yn parhau i fod am ddim yn holl feysydd parcio ardal y ddinas, ond bydd prisiau wedyn yn codi, yn dibynnu ar ba mor hir mae rhywun yn parcio. O dan y system bresennol, ar ôl y ddwy awr gyntaf am ddim, yn y mwyafrif o'r meysydd parcio hyn, codir cyfradd safonol am barcio drwy'r dydd. Dim ond cyfanswm o bump awr o barcio a ganiateir o dan y system newydd.

 

Cytunwyd ar y newidiadau yn dilyn pryderon gafodd eu codi bod cymudwyr yn defnyddio'r meysydd parcio hyn am gyfnodau estynedig, ar gost bach, ar draul trigolion a siopwyr.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriadau cyhoeddus yn 2019 a 2020 ar y cynlluniau hyn, ond gohiriwyd y gweithredu oherwydd Pandemig COVID. Mae'r holl incwm a dderbynnir drwy refeniw parcio yn cael ei neilltuo o dan Adran 55 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae unrhyw incwm sy'n cael ei dderbyn uwchben cost darparu'r gwasanaeth yn cael ei neilltuo ar gyfer gwelliannau priffyrdd a thrafnidiaeth.

 

Bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud mewn 11 maes parcio ardal yn y wardiau canlynol ar 6 Chwefror. 

 

 

Maes Parcio

Ward

Tariff ar hyn o bryd

Prisiau (o 06/02/2023)

Harvey Street

 

Treganna

 

2 awr - am ddim

Mwy na 2 Awr - £3.00

2 awr - am ddim

3 awr - £3.50

4 awr - £4.00

5 awr - £4.50

(Uchafswm arhosiad o 5 awr

Dim dychwelyd o fewn 2 awr)

Stryd Fawr Llandaf

Llandaf 

2 awr - am ddim

3 awr - £0.50

4 awr - £1.00

Mwy na 4 Awr - £5.00

 

2 awr - am ddim

3 awr - £1.50

4 awr - £3.00

5 awr - £4.50

(Uchafswm arhosiad o 5 awr

Dim dychwelyd o fewn 2 awr)

Grey Street

Heol Lecwydd

Severn Road

Stryd Wellington 

 

Glan-yr-afon

 

2 awr - am ddim

Mwy na 2 Awr - £3.00

2 awr - am ddim

3 awr - £3.50

4 awr - £4.00

5 awr - £4.50

(Uchafswm arhosiad o 5 awr

Dim dychwelyd o fewn 2 awr)

Caeau Llandaf Maes Parcio'r Pen Troi

Glan-yr-afon

2 awr - am ddim

3 awr - £1.00

 

2 awr - am ddim

3 awr - £3.50

4 awr - £4.00

5 awr - £4.50

(Uchafswm arhosiad o 5 awr

Dim dychwelyd o fewn 2 awr)

Maes Parcio Caeau Llandaf

Glan-yr-afon

 

2 awr - am ddim

3 awr - £1.00

Mwy na 3 Awr - £3.00

2 awr - am ddim

3 awr - £3.50

4 awr - £4.00

5 awr - £4.50

(Uchafswm arhosiad o 5 awr

Dim dychwelyd o fewn 2 awr)

Heol Merthyr

Heol Pen-llin

Yr Eglwys Newydd

2 awr - am ddim

3 awr - £1.00

2 awr - am ddim

3 awr - £3.50

4 awr - £4.00

5 awr - £4.50

(Uchafswm arhosiad o 5 awr

Dim dychwelyd o fewn 2 awr)