The essential journalist news source
Back
31.
January
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 31 Ionawr 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys: Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2023 ar agor nawr; Landlord o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £25,000; Maethu yng Nghaerdydd; a Ysgol Gynradd Sant Paul - Ddiwrnod Gyda'n Gilydd.

 

Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2023 ar agor nawr

Mae ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin nawr ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2023.

Mae lleoedd Cymraeg a Saesneg ar gael yn un o'r 88 dosbarth meithrin ar draws y ddinas ac anogir teuluoedd i wneud cais cyn y dyddiad cau sef 27 Chwefror 2023, er mwyn gwella eu siawns o gael cynnig lle meithrin o'u dewis.

I wneud cais am le mewn meithrinfa ysgol gymunedol ewch i  Derbyniadau i ysgolion meithrin (caerdydd.gov.uk).  Gall teuluoedd sy'n ffafrio lle dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd ffydd wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hyn.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae gan blant 3-4 oed hawl i gael lle meithrin rhan amser o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. 

"Yng Nghaerdydd mae gennym dros 5,000 o leoedd meithrin ar draws y ddinas sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a Saesneg felly mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt, ond anogir teuluoedd i gyflwyno eu ceisiadau ar amser i helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau i gael cynnig lle mewn dosbarth meithrin o ddewis."

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30686.html

 

Landlord o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £25,000

Mae landlord o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £25,000 yn Llys Ynadon Caerdydd am gatalog o fethiannau'n ymwneud â'i eiddo rhent yn Heol y Fferi yn Grangetown.

Ni wnaeth Mr Sohail Baig, 65 oed o Heol Cyncoed yng Nghaerdydd fynychu'r llys ar 27 Hydref y llynedd ond fe'i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb am bob un o'r 18 trosedd. Cafodd Mr Baig ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener diwethaf (27 Ionawr). 

Daeth yr achos i'r amlwg pan dderbyniodd y cyngor gwynion gan denantiaid am yr eiddo teras Fictoraidd pedwar llawr, sy'n cynnwys pedwar fflat deulawr.

Cynhaliwyd archwiliad gan y Cyngor a chafwyd hyd i nifer sylweddol o dor-rheolau gan gynnwys:

  • System larwm tân ddiffygiol;
  • Diffyg canllawiau ar grisiau neu ganllawiau ansefydlog;
  • Gardiau anniogel ar ben grisiau;
  • Gorchuddion llawr diffygiol;
  • Ffenestri lefel isel a oedd yn peri risg o gwympiadau;
  • Arwynebau gwaith wedi'u difrodi yn y gegin;
  • Gosodiadau cegin anniogel;
  • Toiled ansefydlog;
  • Sbwriel yn cronni yn yr iard gefn yn debygol o ddenu cnofilod;
  • Gosodiadau trydanol anniogel; a 
  • Drws mynedfa anniogel.

 

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30684.html

 

Ydych chi erioed wedi meddwl am ddod yn ofalwr maeth?

Galwch heibio i Bafiliwn Butetown yfory (9.30am - 1pm) i gael gwybod mwy a faethu.

Dewch i gwrdd â gofalwr o'ch cymuned a dysgu am yr hyfforddiant arbenigol, cefnogaeth bwrpasol ac adnoddau ariannol rydym yn eu cynnig.

Maethu yng Nghaerdydd

Rydyn ni'n credu mewn creu dyfodol gwell i blant drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Ni yw Maethu Cymru Caerdydd, rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma:
https://caerdydd.maethucymru.llyw.cymru/

 

Ysgol Gynradd Sant Paul - Ddiwrnod Gyda'n Gilydd

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul wedi cynnal cynulliad cawl i fwy na 50 o ffrindiau a theuluoedd o'r gymuned leol yn Grangetown.

Roedd y digwyddiad yn rhan o Ddiwrnod Gyda'n Gilydd sy'n ceisio dod â chymunedau at ei gilydd a chanolbwyntio ar hynny sy'n ein huno.

Bu plant yn helpu i baratoi'r cawl ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn sail i ddathliad o gymuned ehangach yr ysgol yn dod at ei gilydd, gan ddangos natur deuluol yr ysgol.

Dwedodd y Pennaeth, Ruth Wiltshire: "Dyma un o gyfres o ymgysylltiadau sydd gennym gyda'n hysgol a'n hardal leol i sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n llawn â'n cymuned fywiog ac amrywiol.

"Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld yr hen a'r ifanc sgwrsio gyda'i gilydd unwaith eto yn dilyn y pandemig."