The essential journalist news source
Back
26.
January
2023.
Cyngor teithio i Gymru yn erbyn Iwerddon ar 4 Chwefror yng Nghaerdydd

26/01/23


Bydd Cymru yn herio Iwerddon ar ddydd Sadwrn 4 Chwefror yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 2.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10.15am tan 6.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

I weld y ffyrdd fydd ar gau ewch dilynwch y ddolen ganlynol -one.network

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y gatiau'n agor am11.45am, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Rhowch sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 10.15am tan 6.15pm

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r gêm orffen ac am hyd at awr wedi'r chwiban olaf er diogelwch i deithwyr trên gyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau: 
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Trenau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu amserlen lawn i mewn ac allan o Gaerdydd ar ddydd Sadwrn 4 Chwefror, ond bydd  gwasanaethau'n brysur iawn, felly neilltuwch ddigon o amser ar gyfer eich taith.  

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau'r brif linell ar y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf.

Ewch i tfw.cymru neu'r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â'r swyddog tocynnau, neu ar gyfer materion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Sylwer: Bydd gweithredu diwydiannol gan aelodau undebau ASLEF a'r RMT ar ddydd Gwener 3 Chwefror yn golygu na fydd rhai gwasanaethau Great Western Railways yn rhedeg. Ewch iwww.gwr.co.uk i gael manylion pellach.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r streic ond mae disgwyl i'w gwasanaethau fod yn brysurach na'r arfer ar ddydd Gwener 3 Chwefror.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd. 

Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan. (Mae parcio Eversheds).

Bydd cost o £10 yn daladwy ar y diwrnod. 

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 9am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.10am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas  am 6.30pm gyda'r safle yn cau am 7pm.

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Bysus)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost (ceir): £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - gellir talu â cherdyn erbyn hyn hefyd. 

Cost (bysys): Bydd cost o £25  yn daladwy ar y diwrnod.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 
Bydd y ffyrdd o amgylch y Ganolfan Ddinesig yn parhau ar gau wedi i'r maes parcio fod yn wag tan1pm ddydd Sul, oherwydd gwasanaeth Sul y Cofio.

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysiau lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Welcome to Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.  

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 10.15am ac yn ailagor am 6.15pm.