The essential journalist news source
Back
26.
January
2023.
Sicrhau buddsoddiad i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghaeau Llandaf

Disgwylir trawsnewidiad yng nghyfleusterau chwaraeon cymunedol Caeau Llandaf, gyda chanolfan tennis Padel newydd, caffi newydd a gofod cymunedol, wyneb newydd i'r cyrtiau tennis, datblygu cyfleuster tennis cymunedol ar gyfer pob oedran a gallu, gosod rhwydi ymarfer criced ac, yn amodol ar gyllid, tŷ clwb parhaol newydd i Glwb Criced Llandaf.

Mae Cyngor Caerdydd yn y broses o lunio trefniadau prydles gyda'r clwb criced, Tenis Cymru a Padeltastic Ltd, yn dilyn ymarferiad 'datganiadau o ddiddordeb' gyda'r nod o sicrhau buddsoddiad yn y cyfleusterau presennol, gan ddod â chyfleoedd hamdden a chwaraeon newydd i'r ardal a helpu i ddatgloi cyfleoedd ariannol newydd.

Mae Tennis Padel yn gyfuniad cyffrous o sboncen a thennis, a chwaraeir ar gyrtiau caeedig heb unrhyw serfio dros ysgwydd, gan wneud y gêm yn hawdd ei dysgu sy'n arwain at ralïau gwefreiddiol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Gyda'i gilydd, mae'r cynlluniau cyffrous a gyflwynwyd gan Glwb Criced Llandaf, Tennis Cymru a Padeltastic yn sicrhau buddsoddiad sylweddol yng nghyfleusterau chwaraeon cymunedol yr ardal a bydd yn ein helpu i gyflawni ein nodau o gynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol."

Mae'r cynlluniau'n cynnwys:

  • Adnewyddu'r Pafiliwn Bowlio a'r Lawnt Fowlio segur yn ganolfan Tennis Padel dan do, gan ddarparu caffi a gofod cymunedol.
  • Ail osod wyneb y cyrtiau tennis yn y parc a chyflwyno archebu cyrtiau ar-lein i'w gwneud hi'n haws nag erioed i ddod o hyd i gwrt a'i archebu.
  • Cyflwyno rhaglen hyfforddi tennis cymunedol a chalendr cystadlaethau hamdden hwyliog i bobl leol, yn ogystal â hyfforddiant athrawon am ddim i ysgolion lleol, offer a grantiau hyfforddi a sesiynau rheolaidd i chwaraewyr anabl drwy Ysgolion Ieuenctid y Gymdeithas Tennis Lawnt a rhaglenni Cyrtiau Agored y Gymdeithas Tennis Lawnt yn y ddinas.    
  • Gosod rhwydi ymarfer criced.
  • Dymchwel yr ystafelloedd newid a'r garejys presennol i greu lle ar gyfer tŷ clwb dros dro a chyfleusterau newid ar gyfer Clwb Criced Llandaf, gyda'r bwriad o godi tŷ clwb parhaol yn y dyfodol.

Wrth sôn am y cynlluniau, dwedodd Simon Johnson, Prif Swyddog Gweithredol Tennis Cymru:  "Rydym yn falch iawn o weld y gwaith o drawsnewid tennis a Padel yn Llandaf yn digwydd yn ystod 2023. Mae cyfranogiad tennis yng Nghymru yn parhau i godi, ac mae sicrhau bod gennym gyfleusterau hygyrch, sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda i bobl eu mwynhau, yn rhan fawr o'n strategaeth agor tennis i bawb. Llwyddodd dros 160,000 o bobl yng Nghymru i godi raced y llynedd ac edrychwn ymlaen at weld hyd yn oed mwy o bobl yn mwynhau tennis parc cyhoeddus a chyrtiau Padel eleni".

Dwedodd Simon Champ, Cadeirydd Padeltastic Ltd:  "Rydym yn hynod gyffrous i gael gweithio gyda Chyngor Caerdydd, Clwb Criced Llandaf a Tennis Cymru er mwyn cyflawni'r prosiect cyffrous hwn. Edrychwn ymlaen at ddod â chyffro a hwyl Tennis Padel, y gamp sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, i bobl Caerdydd ac i ddod ag egni newydd i Gaeau Llandaf".

Dwedodd Ysgrifennydd Clwb Criced Llandaf, Adnan Haddadi:  "Rydym yn obeithiol mai 2023 fydd y flwyddyn y gallwn ddarparu'r cyfleusterau y mae ein haelodau yn eu haeddu o'r diwedd, ac rydym wedi bod yn ysu amdanynt. Dros y 12 mis diwethaf, mae'r clwb wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd i greu cynllun clir ar sut y gallwn gyflawni hyn.Bydd y cabanau'n cynnig storfa ddiogel ar gyfer ein hoffer, yn ogystal ag ystafelloedd newid, cawodydd a thoiledau. Ateb dros dro fydd hyn tra bod y clwb yn parhau i weithio'n galed ar bafiliwn hirdymor. Mae'r caniatâd cynllunio angenrheidiol yn ei le gennym ar gyfer cyfleuster rhwydi criced 4 lôn ac rydym yn hyderus y bydd y rhwydi hyn ar waith yn ystod tymor criced 2023.Rydym yn diolch i'n cyfranogwyr am eu hamynedd parhaus."

Mae pob cynllun yn amodol ar ddyfarnu unrhyw ganiatâd cynllunio angenrheidiol.