The essential journalist news source
Back
20.
January
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Ionawr 2023

Dyma'ch diweddariad Ddydd Gwener, yn cynnwys: sicrhau £50m gan Gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd; newidiadau pwysig i system etholiadol y DU; a dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.

 

Caerdydd yn sicrhau £50m o gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd o orsaf Caerdydd Canolog i Fae Caerdydd

Bydd cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd - a fydd yn rhedeg o orsaf Caerdydd Canolog i orsaf Bae Caerdydd yn cael ei ddarparu - nawr bod cyllid wedi'i sicrhau gan Gyngor Caerdydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. 

Mae cais Cronfa Codi'r Gwastad, sy'n werth £50m, a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd, wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu £50m pellach ar gyfer y prosiect.

Bydd y cyllid yn darparu cyswllt cludiant cyflym newydd o Gaerdydd Canolog i Fae Caerdydd, drwy Sgwâr Callaghan, gan ddarparu cyswllt trafnidiaeth hanfodol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Sgwâr Callaghan, Stryd Bute, Rhodfa Lloyd George ac uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd.

Bydd y buddsoddiad yn gatalydd ar gyfer y cynllun Cledrau Croesi ehangach sydd, yn y pen draw, yn ceisio cysylltu â Gorsaf arfaethedig Parc Caerdydd yn Llaneirwg, yn nwyrain Caerdydd, a fydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer nifer o orsafoedd newydd yn nwyrain y ddinas.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, "Mae'r cyhoeddiad am y pecyn cyllido yma'n cymeradwyo'n cynlluniau i adfywio Bae Caerdydd a Glanfa'r Iwerydd. Bydd y llwybr newydd hwn o'r diwedd yn golygu bod Butetown yn cael ei gysylltu'n iawn â chanol y ddinas drwy orsaf Caerdydd Canolog. Bydd nid yn unig yn gwasanaethu ymwelwyr i'r Bae ac i Arena newydd Caerdydd, ond bydd hefyd yn dechrau gwireddu uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer gwasanaeth tram Cledrau Croesi a fydd yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas yr holl ffordd i ardal ddwyreiniol y ddinas, gan gysylltu â gorsaf arfaethedig Parc Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru - sy'n rhoi arian cyfatebol i'r hyn a gymeradwywyd drwy gronfa Codi'r Gwastad - er mwyn cyflawni'r cynllun ar gyflymder."

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30619.html

 

Deddf Etholiadau 2022: Newidiadau i System Etholiadol y DU

Mae'r llywodraeth ganolog wedi pasio deddf fydd yn newid y ffordd rydyn ni'n pleidleisio yn Etholiad San Steffan a'r Etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gelwir y ddeddf hon yn Ddeddf Etholiadau 2022.

Sylwer: NIDyw'r gyfraith hon yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru nac i Lywodraeth Leol (Cyngor Caerdydd a Chynghorau Cymuned), gan mai Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain.

Rhaid i chi nawr ddangos dogfen adnabod â llun i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio pan fo etholiad i Senedd San Steffan neu etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30621.html

 

Flwyddyn Newydd Tsieineaidd 2023 @Hyb Llyfrgell Ganolog

Ionawr 21 @ 12:00 pm - 3:00 pm

AM DDIM

Mae Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn eich croesawu i'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a'r Ŵyl Lusernau

Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Dda - Blwyddyn y Gwningen

Gweithgareddau a pherfformiadau am ddim i bob oedran.

Dawns y Llew, Blasu Te, Cerddoriaeth a Dawns Tsieineaidd, Caligraffeg, Gwneud Llusernau, Tai Chi, Torri Papur, Rhoi cynnig ar wisg draddodiadol, Gwneud Mygydau, Meddygaeth tsieineaidd draddodiadol, Gwyddbwyll Tsieineaidd  a llawer mwy.

Ni does angen archebu

Gallai'r rhaglen newid ar fyr rybudd