The essential journalist news source
Back
16.
January
2023.
Datgelu’r camau nesaf ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Bydd cynlluniau i gwblhau Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - i greu cyrchfan chwaraeon a hamdden eithriadol a allai ddenu dwy filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn - yn cyrraedd carreg filltir arall yr wythnos hon.

Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Caerdydd gymeradwyo adroddiad sy'n dangos cynlluniau ar gyfer ardal newydd y glannau, mannau preswyl a manwerthu newydd, ynghyd â Phentref Chwaraeon Rhyngwladol fydd yn cael ei bweru gan ynni 'gwyrdd'.

Bydd gan y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Hwb Perfformiad Canolog newydd wedi'i gynllunio i gefnogi athletwyr o blith campau  gwahanol, Felodrôm newydd, cylched dolen gaeedig, cyfleusterau hamdden awyr agored, a chyfleuster 'clipio a dringo' newydd. Bydd cyfleuster parcio a theithio newydd, a'r cyfan yn cyd-fynd â'r Pwll Nofio Rhyngwladol, y Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn, a'r Arena Iâ, sydd eisoes ar y safle.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn rhan allweddol o'n cynlluniau uchelgeisiol i sefydlu Bae Caerdydd fel cyrchfan ymwelwyr blaenllaw yn y DU. Rydyn ni'n credu y gallai ddenu hyd at 2 filiwn o ymwelwyr y flwyddyn, gan helpu i ddod â swyddi a buddion economaidd i Gaerdydd.

"Un o'n hamcanion allweddol nodau yw sicrhau bod hwn yn 'ddatblygiad gwyrdd' sy'n cael ei bweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni solar, gwynt, ac adferiad gwres o'r aer, y ddaear, a dŵr. Rydym yn credu bod cyfle i gyflawni rhywbeth arbennig yma, a allai ddod â rhagor o swyddi 'gwyrdd' i hybu'r economi tra hefyd yn helpu'r cyngor i gyflawni ei ymrwymiadau Caerdydd Un Blaned.

"Rydym wedi mynd allan i'r farchnad i sicrhau partneriaid yn y sector preifat all ein helpu i ddod â buddsoddiad newydd i'r ardal, gan gynnwys cyfleoedd preswyl a manwerthu ochr yn ochr â'r pentref chwaraeon ar ei newydd wedd.  Bydd yr adroddiad sy'n dod i'r Cabinet yn argymell trafod gyda nifer o bartïon er mwyn sicrhau contractau."

Bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd ar ddydd Iau 19 Ionawr.  Yn ystod y cyfarfod byddant yn clywed cynlluniau i ddarparu ardal breswyl a manwerthu bywiog ar y glannau ochr yn ochr â chyrchfan chwaraeon a hamdden o ansawdd eithriadol wedi'i wasanaethu gan gyfleuster parcio a theithio, a gwell opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd yr adroddiad yn:

  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.
  • Cynnig cymeradwyo'r strategaeth waredu arfaethedig ar gyfer y cyfleoedd datblygu preswyl a masnachol yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol mewn egwyddor.
  • Cynnig cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer cwblhau'r atyniad chwaraeon a hamdden a seilwaith cysylltiedig yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: "Mae datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wedi ei oedi sawl tro gan y dirywiad economaidd a'r pandemig, ac mae hyn wedi creu ansicrwydd sylweddol i fuddsoddwyr posib ac i drigolion. Er mwyn sicrhau bod y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn dychwelyd i fod ar y trywydd iawn mae'r Cyngor wedi sicrhau rheolaeth dros y tir sydd ei angen i gwblhau'r datblygiad a'n nod nawr yw sicrhau'r partneriaid iawn fel y gall y Pentref gyflawni ei botensial diamheuol."

Yn ddiweddar, penododd y Cyngor asiantau eiddo i sefydlu diddordeb buddsoddwyr yn y safle ac mae sawl mynegiant o ddiddordeb a chynigion ar gyfer rôl y prif ddatblygwr wedi dod i law.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn gwneud sawl argymhelliad, gan gynnwys:

  • Cymeradwyo 'strategaeth waredu' hybrid yn penodi prif ddatblygwr tra hefyd yn ceisio cipio'r cynnig gorau ar gyfer lleiniau unigol o dir. 
  • Cymeradwyo Achos Busnes Llawn er mwyn datblygu'r gyrchfan hamdden.
  • Cymeradwyo gweithredwr dewisol ar gyfer yr Arena Iâ a datblygu atyniad teuluol, gan gynnwys y cyfleuster 'clipio a dringo' newydd.
  • Cymeradwyo datblygiad Achos Busnes Amlinellol ar gyfer cyflwyno'r Strategaeth Ynni yn ôl i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol. 
  • Cymeradwyo datblygiad Achos Busnes Amlinellol i ystyried yr opsiynau ar gyfer darparu cyfleuster Parcio a Theithio arfaethedig.

Y dymuniad yw bod y ceisiadau ar gyfer yr Arena Iâ yn cynnwys parodrwydd i weithredu'r Llawr Sglefrio am dymor hir, drwy wneud gwell defnydd masnachol o'r ardal a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer ail bad iâ. Nid yw'r ardal hon wedi cael ei defnyddio'n gyson fel ail bad ers rhai blynyddoedd oherwydd y costau ynni sylweddol sydd ynghlwm wrth gadw pad iâ wedi'i oeri'n iawn. Mae'r argyfwng ynni diweddar wedi gwaethygu'r mater hwn ac wedi gwneud y posibilrwydd o ailsefydlu ail pad iâ yn fasnachol afrealistig. Y cynnig yw i'r ardal gael ei throi'n atyniad hamdden i deuluoedd gan gynnwys cyfleuster ‘clipio a dringo' pwrpasol gyda'r nod o ddenu plant a phobl ifanc i'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

Mae cyflwyno cyfleuster Parcio a Theithio i roi mynediad cyflym i ganol y ddinas a Bae Caerdydd yn nodwedd bwysig o uwchgynllun newydd y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Y cynnig yw darparu maes parcio aml-lawr yn gefn i'r maes parcio  helaeth sydd ar gael ar y safle ar hyn o bryd, i ryddhau tir i'w ddatblygu, a darparu gwasanaethau bws rheolaidd a chyflym i ganol y ddinas a'r Harbwr Mewnol.  Mae safle'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn addas iawn ar gyfer cyfleuster Parcio a Theithio o ystyried ei agosrwydd at ganol y ddinas a'r Harbwr Mewnol gan y gall ddarparu opsiynau teithio cynaliadwy fel beicio a cherdded.

Bydd gwaith i ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer datblygiad pellach y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn dechrau os bydd argymhelliad a nodir mewn adroddiad sydd i'w drafod ddydd Iau, 19 Ionawr yn cael ei dderbyn gan Gabinet Cyngor Caerdydd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod yr adroddiad ar y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir am 2pm ddydd Iau 19 Ionawr. Bydd agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7958&Ver=4&LLL=1

Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home

Bydd y Pwyllgor Craffu Economi a Diwylliant yn craffu ar y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol am 4.30pm ar ddydd Mercher, 18 Ionawr, yn barod ar gyfer Cyfarfod y Cabinet ar 19 Ionawr. Gellir gweld papurau sy'n gysylltiedig â'r cyfarfod craffu cyhoeddus hwn yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=7939&LLL=1 a bydd frwd fyw o'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home