The essential journalist news source
Back
10.
January
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 10 Ionawr 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys manylion ein casgliadau o goed Nadolig go iawn; paratoadau ar gyfer agor Hyb Lles Cymunedol Rhiwbeina; ymgynghoriad cyhoeddus ar Gampws Cymunedol y Tyllgoed; ac arolwg defnyddwyr Parc Cefn Onn.

 

Casglu Coed Nadolig Go Iawn

Byddwn yn casglu coed Nadolig go iawn o gartrefi ar y dyddiadau isod. Rhaid rhoi'r coed yn rhydd ar ymyl y ffordd. Sicrhewch eich bod yn tynnu'r addurniadau i gyd yn ofalus. 

Mae angen torri coed dros 6 troedfedd yn eu hanner. Rhaid peidio â rhoi coed mewn biniau gwyrdd/sachau gwyn amldro. Ni fydd unrhyw wastraff gardd arall yn cael ei gasglu. 

10 Ionawr

Pentyrch, Creigiau, Radur a Pentre-poeth, Yr Eglwys Newydd, Gorllewin y Mynydd Bychan

 

11 Ionawr

Dwyrain y Mynydd Bychan, Ystum Taf, Llandaf, Gabalfa, Cathays

 

12 Ionawr

Pentref Llaneirwg, Trowbridge, Llanrhymni, Tredelerch

 

13 Ionawr

Tongwynlais, Rhiwbeina, Llanisien, Llys-faen, Cyncoed

 

17 Ionawr

Sain Ffagan, Y Tyllgoed, Trelái, Caerau

 

18 Ionawr

Treganna, Glan-yr-afon, Grangetown

 

19 Ionawr

Plasnewydd, Adamsdown, Y Sblot, Butetown

 

20 Ionawr

Pontprennau, Pentwyn, Pen-y-lan

 

 

Gellir mynd â choed Nadolig i Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref a'u rhoi yn y sgip gwastraff gardd. Cofiwch drefnu apwyntiad.

Bydd angen dod â'ch coeden yn rhydd - ni fyddwn yn gallu derbyn unrhyw rwydi, sachau na bagiau.

Dewch o hyd i'ch dyddiadau casglu neu trefnwch apwyntiad mewn CAGC:

Ewch i yma:https://orlo.uk/Cg7Tb

Lawrlwythwych yr ap Cardiff Gov yma:https://orlo.uk/Jp7dI

SgyrsBot BoBi yma:https://orlo.uk/8j8bs

 

Bydd Hyb Lles Cymunedol Rhiwbeina

Mae canolfan ddiweddaraf y ddinas yn paratoi i agor ar ôl gwaith adnewyddu llyfrgell mawr gael ei gwblhau yng ngogledd Caerdydd.

Bydd Hyb Lles Cymunedol Rhiwbeina yn croesawu cwsmeriaid yn ôl i hen adeilad y llyfrgell ym Mhen-y-Dre ddydd Llun, 16 Ionawr ar ôl ailfodelu'r cyfleuster i alluogi cyflwyno gwasanaethau ychwanegol a gwell i'r gymuned.

Gyda chyllid gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru, y Gronfa Integreiddio ac Ail-gydbwyso Gofal (IRCF) a MALD (Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), mae'r adeilad wedi'i drawsnewid yn gyfleuster cymunedol addas at y diben a fydd yn cefnogi cyd-leoli gwasanaethau llyfrgell gyda gwasanaethau cyngor, iechyd a lles, tai a gofal cymdeithasol newydd a fydd yn cael eu darparu yn yr ystafelloedd cymunedol newydd, ystafelloedd cyfarfodydd ac ardaloedd cyfweld.

Bydd ymwelwyr â'r hyb hefyd yn elwa ar ystafell gyfrifiadurol newydd, ardal ddisglair a chroesawgar i blant, silffoedd llyfrgell newydd a thoiledau newydd gan gynnwys tŷ bach hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod. Y tu allan, mae ardal yr ardd gefn wedi'i thirlunio i ddarparu lle deniadol gydag ardal eistedd.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30552.html

 

Campws Cymunedol y Tyllgoed: Ymgynghoriad cyhoeddus nawr ar agor

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu campws addysg ar y cyd arloesol i Gaerdydd wedi agor heddiw. 

Gofynnir i aelodau'r cyhoedd rannu eu barn yn ystod ymgynghoriad cyn gwneud cais (YCGC) ar gynlluniau ar gyfer Campws Cymunedol y Tyllgoed fel y gellir eu hystyried cyn cyflwyno cais cynllunio i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd.

Yn cael ei ddarparu o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, mae'r cynllun gyda'r mwyaf o ran maint a buddsoddiad a bydd adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Woodlands wedi'u lleoli ar un safle pwrpasol yn y Tyllgoed. Byddai'r campws ar y cyd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd.

Ym mis Medi 2020, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Caerdydd y cynllun wedi i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2020. Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Codi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle'r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion;
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), a leolir yn Ysgol Uwchradd Cantonian, i 30 lle mewn adeiladau pwrpasol ar safle newydd yr ysgol;
  • Adleoli Ysgol Woodlands i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r capasiti i 240 o ddisgyblion mewn adeilad newydd;
  • Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r lle i ddarparu ar gyfer 112 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30566.html

 

Arolwg Ymwelwyr Parc Cefn Onn

Ydych chi wedi ymweld â Pharc Cefn Onn yn ddiweddar? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth am y parc yn ein harolwg defnyddwyr.

Allwch chi sbario munud neu ddau i roi eich barn?

Hoffem glywed eich barn ar y parc. A ydych chi'n ei ddefnyddio ac os felly sut, p'un a yw'r pandemig neu'r gwelliannau a wnaed trwy'r prosiect wedi effeithio ar eich defnydd a'ch syniadau am yr hyn a fyddai'n gwella'r parc ymhellach.

Cliciwch yma i ddechrau:
https://www.outdoorcardiff.com/cy/parciau/parc-cefn-onn/

Mae pob ymateb yn cael ei ddarllen a'i werthfawrogi.

​​​​​​​Ar agor tan 31 Ionawr 2023.