The essential journalist news source
Back
20.
December
2022.
Cyngor Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i drigolion ar y streic sydd ar ddod

Cyngor Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i drigolion ar y streic sydd ar ddod

Mae disgwyl i streic sydd wedi ei gynllunio ar gyfer yfory sef 21 Rhagfyr a'r wythnos nesaf ar 28 Rhagfyr i gael effaith sylweddol ar allu'r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau 999.

Rydym yn rhannu'r cyngor hwn ar ran y gwasanaeth.

999 a gofal brys: 

  • Ar ddiwrnodau streic, dylai cleifion ond ffonio 999 os yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu a bod perygl i fywyd.
  • Bydd ambiwlansys yn dal i allu ymateb yn y sefyllfaoedd hyn, ond efallai mai dim ond pan fo perygl uniongyrchol i fywyd y bydd hyn.
  • Bydd y gwasanaeth wastad yn blaenoriaethu galwadau 999 yn ôl anghenion y claf a bydd y cleifion mwyaf sâl wastad yn derbyn help yn gyntaf.
  • Mae'n debygol mai dim ond salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd fydd yn cael ymateb brys gydol y streic.
  • Efallai y bydd gofyn i rai cleifion wneud trefniant arall, fel mynd eu hunain i'r ysbyty.

GIG 111 Cymru:

  • GwefanGIG 111 Cymru ddylai fod y lle cyntaf i chi fynd er mwyn cael cyngor a gwybodaeth am iechyd, gan gynnwys Strep A.
  • Gallwch hefyd siarad â fferyllydd, meddyg teulu neu ymweld ag Uned Mân Anafiadau. Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth agosaf ar wefanGIG 111 Cymru.
  • Gallwch ffonio 111 os oes pryder brys, ond mae niferoedd uchel y galwadau yn golygu bod angen i chi fod yn barod i ddisgwyl yn hir cyn i'ch galwad gael ei hateb.

Sut gall y cyhoedd helpu:

  • Stociwch i fyny ar feddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter ar gyfer anhwylderau cyffredin er mwyn lleihau'r risg y byddwch yn mynd yn sâl ar ddyddiau streic.
  • Sicrhewch fod gennych gyflenwadau cit cymorth cyntaf digonol pe digwydd bod angen i chi drin eich hun am fân anafiadau gartref.
  • Cymerwch ofal ychwanegol yn ystod y tywydd oer er mwyn osgoi llithro, baglu a disgyn, a damweiniau ar y ffyrdd.
  • Cadwch olwg ar eich teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n arbennig o agored i niwed.
  • Cwestiynau Cyffredin a gyhoeddir ar wefan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru -

Y Wybodaeth Ddiweddaraf Am Streic - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth ambiwlans yn ystod y streiciau - y Gweinidog Iechyd

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi annog pobl i gymryd gofal ychwanegol a ffonio 999 ddim ond pan fo argyfyngau difrifol neu rai sy'n bygwth bywyd yn ystod y streiciau ambiwlans.

Mae disgwyl i’r gweithredu diwydiannol effeithio’n ddifrifol ar wasanaethau ambiwlans, gyda’r cyntaf o ddau ddiwrnod gwahanol o streicio gan rai staff ambiwlans i ddechrau yfory. Mae undeb GMB wedi cyhoeddi y bydd ei aelodau yn y gwasanaethau ambiwlans yn mynd ar streic ar 21 a 28 Rhagfyr.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn disgwyl y bydd effaith fawr ar nifer yr ambiwlansys brys sy'n gallu mynd at gleifion ar y dyddiau streicio. 

Bydd effaith hefyd ar gludiant i gleifion mewn achosion nad ydyn nhw’n argyfyngau, sy'n helpu pobl i fynd i apwyntiadau ysbyty, yn ogystal ag ar ymatebwyr anghlinigol yng nghanolfannau cyswllt WAST a rhai gwasanaethau cymorth.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi rhybuddio mai dim ond afiechydon neu anafiadau sy'n peryglu bywyd sy'n debygol o gael ymateb brys ar ddyddiau streic. Mae cleifion yn cael eu cynghori i beidio â ffonio 999 oni bai bod rhywun yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu wael, neu fod perygl uniongyrchol i fywyd.

Bydd y cleifion mwyaf sâl yn parhau i gael blaenoriaeth, ac ni fydd cleifion llai difrifol wael neu ag anaf lai difrifol yn cael ymateb ambiwlans. Gallai hyn hefyd olygu bod cleifion yn cael cais i drefnu eu taith eu hunain i'r ysbyty, ble nad yw eu bywyd mewn perygl, cyn belled â'u bod yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny.

Cynghorir pobl i ddefnyddio gwefan  GIG 111 Cymru ar gyfer cyngor iechyd lle nad oes bygythiad uniongyrchol i fywyd, neu siarad â fferyllydd, meddyg teulu neu uned mân anafiadau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Does dim dwywaith fod y ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol, yn dilyn y gweithredu gan nyrsys, sydd wedi achosi oedi i driniaeth miloedd o gleifion yng Nghymru, yn mynd i achosi pwysau anferth ar wasanaethau ambiwlans. Dim ond i'r galwadau mwyaf brys y bydd modd i ambiwlansys ymateb ar ddiwrnodau streic. 

"Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau ar y dyddiau hyn ac ystyriwch yn ofalus pa weithgareddau rydych chi'n cymryd rhan ynddyn nhw yfory ac ar yr 28ain. 

"Mae'n bwysig galw 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ond mae'n rhaid i ni gyd ystyried yn ofalus iawn sut rydyn ni'n defnyddio gwasanaethau ambiwlans ar y dyddiau hyn. 

"Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd, fel defnyddwyr ein GIG, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol."

Gall pawb helpu i leddfu'r pwysau drwy:

  • Stocio i fyny ar feddyginiaethau presgripsiwn a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer anhwylderau cyffredin ac felly leihau'r risg o fynd yn sâl ar ddyddiau streic.
  • Sicrhau bod gennych gyflenwadau cymorth cyntaf digonol rhag ofn y bydd angen i chi eich trin eich hun am fân anafiadau gartref.
  • Bod yn arbennig o ofalus yn ystod y tywydd oer er mwyn osgoi llithro, baglu a disgyn, a damweiniau ar y ffyrdd.
  • Cadwch olwg ar eich teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n arbennig o agored i niwed.

GIG 111 Cymru

 

Mae GIG 111 Cymru yn wasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd sydd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Gallwch ein ffonio ar 0845 46 47 os ydych yn teimlo'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, neu ar gyfer gwybodaeth iechyd.