Mae disgwyl i raglen uchelgeisiol ac eang o gamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd gael ei hystyried gan Gyngor Caerdydd wrth iddo fonitro'r cynnydd a wnaed ers i'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol gael ei sefydlu yn y ddinas.
Cafodd y Tasglu ei sefydlu yng Ngorffennaf 2020 yn dilyn marwolaeth George Floyd a thwf y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys.
Gwahoddwyd cynghorydd Butetown, Saeed Ibrahim, gan arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, i fod yn Gadeirydd y Tasglu, a phenodwyd - drwy broses penodiadau cyhoeddus - 14 aelod arall gyda mewnwelediad a diddordeb mewn hil, ethnigrwydd, a hawliau dynol. Gyda'i gilydd, daethant â sgiliau, profiad a chyfle i sicrhau newid yn eu meysydd, sy'n cynnwys y sector cyhoeddus, diwydiant, a meysydd eraill.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Tasglu ym mis Rhagfyr
2020, ac yn dilyn ymgynghoriadau manwl gyda thrigolion Caerdydd, yn enwedig y
rhai â phrofiadau byw, cafwyd ymrwymiad i ymchwilio i bum blaenoriaeth
allweddol:
- Cyflogaeth a Gweithlu Cynrychioliadol
- Addysg a Phobl Ifanc
- Llais y Dinesydd
- Iechyd, a
- Chyfiawnder troseddol
Ym mis Mawrth 2022, derbyniodd Cabinet y Cyngor adroddiad terfynol y Tasglu a oedd yn cynnwys 28 o argymhellion ar draws y pum maes blaenoriaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd.
Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r Tasglu wedi gweithio'n eithriadol o galed ers ei sefydlu i wneud cynnydd go iawn ar sicrhau bod y Cyngor a sefydliadau allweddol eraill ar draws Caerdydd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod â chydraddoldeb i mewn i bob agwedd o'n bywydau.
"Ond bydd angen gweithredu parhaus, hirdymor i wireddu argymhellion y Tasglu.
"Mae'r Cyngor a'n partneriaid ym Mwrdd Iechyd
y Brifysgol a Heddlu De Cymru wedi cymryd y gwaith o ddifrif ac mae yna gerrig
milltir sylweddol eisoes wedi eu cyflawni wrth weithredu'r argymhellion dros
gyfnod y rhaglen."
Ychwanegodd y Cynghorydd Saeed Ebrahim: "Mae
Caerdydd wastad wedi bod yn ddinas sy’n falch o’i hamrywiaeth, ac mae ganddi un
o'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig sefydlog hynaf yn y DU gyda phobl o bob cwr
o'r byd yn ymgartrefu yma.
"Mae'r gwaith sydd wedi’i arwain gan Dasglu
Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd, ers ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2020, wedi mynd
y tu hwnt i ddim ond gwneud argymhellion - rydyn ni wedi cyflawni pethau. Drwy
ymgynghori ag unigolion craff mewn ystod o ddiwydiannau a sefydliadau a chyda'r
Gymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gasglu barn ar flaenoriaethau'r
Tasglu, rydym wedi sicrhau newid gwirioneddol.”
Dywedodd Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae
Caerdydd yn ddinas fywiog a chyffrous sy'n gartref i sawl diwylliant. Fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi ymrwymo i leihau
anghydraddoldebau iechyd a gwella mynediad at wasanaethau ar draws ein holl gymunedau.
Gan adeiladu ar lwyddiant ymgyrchoedd cynharach, rydym yn parhau i weithredu
amrywiaeth o fentrau sy'n gysylltiedig ag iechyd cyhoeddus sydd wedi'u
cynllunio i wella iechyd cyffredinol ein poblogaeth.
"Gyda gweithlu hynod amrywiol a thalentog, rydym
hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda'n cydweithwyr i sicrhau ein bod yn gallu
dysgu o unrhyw hiliaeth y maent wedi'i brofi. Ein nod yw gwella profiad y
gweithle i'n holl staff.
"Mae bod yn rhan o'r tasglu hwn yn fwy na dim ond deall y problemau, mae’n golygu cydweithio i'w taclo a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau."
Ychwanegodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru: "Mae'r Cynghorydd Thomas a'r Cynghorydd Ebrahim i'w llongyfarch am hybu cydraddoldeb a herio hiliaeth ar draws y ddinas.
"Trwy gynnwys pobl â phrofiad byw a’r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf, maent wedi dechrau menter wirioneddol drawsnewidiol. Dydy'r pethau yma byth yn hawdd, ac mae gennym gyfrifoldeb i fod eisiau gweld newid cyflym gan hefyd fod yn realistig am y ffaith fod newid y diwylliant ym mhob rhan o ddinas fawr fel Caerdydd yn heriol tu hwnt. Mae'n amlwg bod aelodau'r tasglu'n meddu ar yr angerdd a'r amynedd i sicrhau newid go iawn.
"Rwy'n falch bod fy nirprwy gomisiynydd, Emma Wools, sydd wedi dangos arweinyddiaeth go iawn wrth daclo hiliaeth o fewn plismona a’r maes cyfiawnder troseddol ehangach yng Nghymru, yn aelod o'r Tasglu. Mae hyn yn helpu i ddod â phawb at ei gilydd wrth wasanaethu'r cyhoedd a hyrwyddo gweithredu effeithiol drwy bartneriaeth rhwng plismona, llywodraeth leol a'n holl bartneriaid niferus eraill, yn arbennig Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Llywodraeth Cymru.
"Mae'n bwysig bod y rhai sy'n eistedd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a’n priod dimau yn dangos yr un ymrwymedig â’r cyngor ei hun, felly rwy’n falch o roi'r ymrwymiad hwnnw fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu."
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma: Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd(moderngov.co.uk)
Gwella Cydraddoldeb Hiliol yng Nghaerdydd fydd ffocws cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad wrth i aelodau etholedig dderbyn diweddariad llawn ac yn ystyried cynigion y Cabinet i weithredu argymhellion y Tasglu.
Cynhelir y cyfarfod pwyllgor craffu cyhoeddus hwn ddydd Mercher, 14 Rhagfyr am 4.30pm yn Ystafell Bwyllgor 4, Neuadd y Sir. Gellir gweld y cyfarfod hefyd drwy ffrwd fyw yma: https://tinyurl.com/4u4ckkyj
Mae'r holl bapurau craffu cyhoeddedig ar y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol ar gael i'w gweld yma: https://tinyurl.com/bp6upx2w
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr argymhellion yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir o 2pm ddydd Iau, 15 Rhagfyr. Bydd agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael i'w gweld yn nes at y dyddiad yma https://tinyurl.com/2ysrr833 lle byddwch chi hefyd yn gallu gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod ar y diwrnod.
Mae'r cynnydd a wneir gan Gyngor Caerdydd a phartneriaid ar argymhellion y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cynnwys:
Cyflogaeth a Gweithlu Cynrychioliadol
Beth rydym wedi'i wneud:
- Mae'r Cyngor wedi llofnodi'r Compact Swyddi Cymunedol - rydym yn gwarantu cyfweliadau i drigolion lleol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac wedi partneru gyda'r tîm Compact Swyddi Cymunedol i gefnogi ymgeiswyr gyda'r broses.
- Rydym wedi darparu mwy na 4,500 o wythnosau prentisiaeth, mwy na £2.1m i helpu mentrau Cymorth Cymunedol, a bron i 2,000 awr o hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant.
- Mae'r Cyngor wedi lansio cynllun 'Paratoi Caerdydd at Waith', sy'n mentora ymgeiswyr i’w paratoi ar gyfer rolau dros dro sydd ar gael yn y cyngor.
Ein hymrwymiadau:
- Sefydlu Rhwydwaith Cydraddoldeb ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ledled y ddinas, gan gydweithredu â'n partneriaid a chydweithio i wella cynrychiolaeth a dilyniant lleiafrifoedd ethnig yn y farchnad lafur leol.
- Lansio rhaglen Arwain a Datblygu newydd ar gyfer staff sydd wedi’u tangynrychioli ar lefelau rheoli ac uwch o fewn y Cyngor, gan gynnwys rhaglen fentora wrthdro rhwng cyfranogwyr ac uwch reolwyr y Cyngor.
- Cyflwyno hyfforddiant rhagfarn anymwybodol a micro-ymosodedd, a darparu hyfforddiant i staff mewn ieithoedd cymunedol, lle bo hynny'n briodol, tra'n darparu a hyrwyddo gwersi Saesneg i gefnogi staff y mae eu Saesneg yn rhwystr posibl i ddatblygiad gyrfa.
Addysg a Phobl Ifanc
Beth rydym wedi'i wneud:
- Mae’r cyngor wedi atgyfnerthu’r dull gweithredu lleol mewn perthynas â bwlio a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â rhagfarn yn yr ysgol, gan sefydlu canllawiau a hyfforddiant i’r holl staff addysgu a llywodraethwyr a monitro effaith hyn;
- Estynnodd y cyngor waith Ysgolion Noddfa ac mae'n cefnogi cyfranogiad cymunedau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gydag 11 ysgol yng Nghaerdydd wedi derbyn statws Ysgol Noddfa, ac 20 ysgol arall yn gweithio tuag at ennill eu statws achredu'r flwyddyn nesaf;
- Mae'r cyngor yn darparu adnoddau i raglen beilot hyfforddiant 'gwrth-hiliaeth' mewn dwy ysgol yng Nghaerdydd, ac mae effaith hynny'n cael ei fonitro'n ofalus.
- Noddodd y cyngor y Ddarlith Heneb Betty Campbell flynyddol gyntaf, mewn partneriaeth â Monumental Welsh Women a’r Senedd, a gynhaliwyd ym mis Hydref, ac fe'i cyflwynwyd gan yr Athro Olivette Otele, Athro Etifeddiaeth ac Atgofion Caethwasiaeth ym Mhrifysgol Llundain.
Ein hymrwymiadau:
- Mae'r cyngor yn cefnogi’r gwaith o gynyddu amrywiaeth y gweithlu addysgu drwy raglen 'Camu i Addysgu' cynorthwywyr addysgu, a fydd yn asesu rhwystrau ac anghenion cynorthwywyr addysgu i’w galluogi i symud ymlaen yn eu gyrfa;
- Bydd y Cyngoryn datblygu cynllun recriwtio ar gyfer cynyddu amrywiaeth llywodraethwyr Ysgol mewn partneriaeth ag ysgolion a Chyngor y Gweithlu Addysg.
- Parhau i ehangu ein rhaglen Ysgolion Noddfa i gefnogi plant sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches a'u teuluoedd.
- Cyflwyno hyfforddiant a phecyn cymorth gwrth-hiliaeth yn ysgolion Caerdydd, gan dynnu ar y peilot sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Ysgol Gynradd Mount Stuart.
Llais y Dinesydd
Beth rydym wedi'i wneud:
- Mae'r cyngor wedi gwella ei ddulliau casglu data monitro cydraddoldeb ar gyfer aelodau etholedig.
- Mae'r cyngor wedi datblygu ei gynllun gweithredu drafft Amrywiaeth mewn Democratiaeth.
- Arwyddodd y cyngor faniffesto Cynghrair Hil Cymru, ac mae'n bwriadu gweithredu llawer o'i argymhellion mewn cynlluniau cyflawni corfforaethol.
Ein hymrwymiadau:
- Bydd y cyngor yn gwella cynrychiolaeth pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig Caerdydd mewn paneli penderfynu allweddol. Bydd cynrychiolwyr y cyngor sy'n cymryd rhan mewn paneli yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn cynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ac aelodaeth amrywiol. Bydd yr holl ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan y cyngor hefyd yn ymdrechu i sicrhau panel/rhestr amrywiol o siaradwyr;
- Bydd y cyngor yn ehangu cyfranogiad a hygyrchedd wrth gynllunio’r ddinas ac yn sicrhau llwyfannau ymgysylltu priodol er mwyn cynnwys llais y gymuned yn nyluniad y ddinas
Iechyd
Beth sydd wedi'i wneud:
- Penododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Swyddog Ymgysylltu i weithio i gefnogi cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd i gael mynediad i wasanaethau iechyd. Dros y chwe mis diwethaf, mae'r bwrdd iechyd lleol, er enghraifft, wedi gweithio gyda chymunedau lleol i wella cyfraddau sgrinio'r coluddyn, ac mae gwaith wedi'i gwblhau ar arolwg i ymchwilio i'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag manteisio ar imiwneiddiadau plentyndod ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Ein hymrwymiadau:
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweithio i wella’r broses o gofnodi ethnigrwydd gyda'r system gofal iechyd ar gyfer cleifion a staff
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cwblhau ymarfer ymgysylltu gyda staff y BIP i ddeall profiadau a myfyrdodau ein staff o leiafrifoedd ethnig mewn perthynas â hiliaeth yn y gweithle
Cyfiawnder Troseddol
Beth sydd wedi'i wneud:
- Cynnal a datblygu ymdrechion presennol i gynyddu amrywiaeth yn Heddlu De Cymru. Mae Heddlu De Cymru wedi symud o 1.7% o swyddogion o gefndir Lleiafrifoedd Ethnig i ragfynegiad o 4% erbyn Mawrth 2023.
- Lansiwyd Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ym mis Medi 2022 a fydd yn ceisio sicrhau System Cyfiawnder Troseddol Gwrth-Hiliaeth yng Nghymru, sy'n cyd-fynd yn agos â Chynllun Gweithredu Cymru Gwrth-Hiliaeth Llywodraeth Cymru.
Ein hymrwymiadau:
- Dylunio ymgysylltu targedig yn y dyfodol gan ganolbwyntio ar gyswllt cynnar â'r system gyfiawnder ac unrhyw gyfleoedd, yn enwedig cyfleoedd a gollwyd, ar gyfer ymyrraeth gynnar yn ogystal â mesurau dargyfeiriol.
- Datblygu gwell llwybrau gwasanaeth iechyd meddwl a hyfforddiant a chymorth integredig i swyddogion yr heddlu fel ymatebwyr cyntaf;
- Ymrwymo i ddarparu dull hyfforddi Cymhwysedd Diwylliannol ar draws y Sefydliadau Cyfiawnder Troseddol lleol. Datblygu mecanwaith effeithiol i sicrhau bod lleisiau cymunedol amrywiol yn cael eu clywed mewn perthynas â throseddu a diogelwch cymunedol.