The essential journalist news source
Back
6.
December
2022.
Cytuno ar bartneriaeth bwysig i gyflwyno Prifysgol y Plant Caerdydd


6/12/2022

Bydd mwy o blant a phobl ifanc yn elwa ar gyfoeth o gyfleoedd addysgol yn dilyn cytundeb ffurfiol rhwng Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd i ymestyn'Pasbort i Ddinas Caerdydd'- Prifysgol y Plant Caerdydd.

Mae'Pasbort i Ddinas Caerdydd'- Prifysgol y Plant Caerdydd, wedi cael ei ddiogelu at y dyfodol wedi i Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, ymuno â'i gilydd i arwyddo cytundeb partneriaeth i gefnogi'r uchelgais ar gyfer pobl ifanc Caerdydd a nodir yn agenda Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor.

Nod y prosiect yw annog a datblygu cariad at ddysgu drwy roi mynediad i ddisgyblion at weithgareddau gan gynnwys celf a cherddoriaeth, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn ogystal â chyrsiau diwylliannol a dylunio graffeg, gyda phob un yn cyfrannu tuag at 'Basbort i Ddysgu'. Mae'r cynllun yn dod ag amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas at ei gilydd i fuddsoddi mewn ymdrechion i godi dyheadau dysgwyr, tra'n datblygu llwybrau i wireddu'r dyheadau hyn.

Yn sgil llwyddiant y rhaglen beilot, Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu'r rhaglen er mwyn sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu mwynhau'r amwynderau o'r radd flaenaf sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae hon yn garreg filltir gyffrous yn y gwaith o gyflwyno'Pasbort i Ddinas Caerdydd'ac mae'r cytundeb rhwng y Cyngor a Phrifysgol Caerdydd yn cadarnhau ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny yng Nghaerdydd, yn gallu mwynhau, profi a gwneud yn fawr o'r pethau gwych sydd gan y ddinas hon i'w cynnig.

"Drwy wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau'r ddinas a'r cyfleoedd gwych sydd ar gael drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc trwy ddarpariaeth dysgu a lles hynod amrywiol, y gallai rhannau ohoni fod y tu hwnt i'w cyrraedd fel arfer.

"Rwyf wrth fy modd bod ysgolion wedi cofleidio'r cynllun yn llwyr ac wedi cydnabod yr effaith fuddiol y mae'n ei chael ar ddysgwyr. Mae ei lwyddiant hyd yn hyn yn golygu y gallwn ymestyn y cynllun i ragor o ysgolion ledled y ddinas.

"Mae sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu yn parhau'n uchel ar ein hagenda ac mae'r rhaglen hon yn cyfrannu'n weithredol at uchelgais Caerdydd i ddod yn Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF UK, rywbeth sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang. Mae ein 'Pasbort i Ddinas Caerdydd'hefyd yn cyd-fynd yn berffaith â phedwar diben Cwricwlwm i Gymru 2022 a bydd yn rhoi cyfleoedd pellach fyth i blant a phobl ifanc barhau i gaffael gwybodaeth, profiadau a sgiliau o fewn a'r tu hwnt i'r dosbarth."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan Brifysgol Caerdydd o ran cefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc i ehangu eu dysgu a chyflawni eu gwir botensial.

"Bydd y gweithgareddau amrywiol y byddwn yn eu darparu fel rhan o raglen Prifysgol y Plant, fydd yn cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb a rhithwir, yn ogystal ag adnoddau dysgu ar-lein newydd, yn caniatáu i lawer mwy o blant ennill ystod o sgiliau a phrofiadau, yn ogystal â mewnwelediadau cyffrous gan rai o'n hacademyddion blaenllaw."

Wrth sôn am y manteision i blant, dywedodd Nicki Prichard, pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, St Mary the Virgin, yn Butetown: "Gwnaeth tua 100 o'n disgyblion Blwyddyn 4 a 5 gymryd rhan. Cawsom ymweliadau anhygoel gan yr Athro Paul Roche o Brifysgol Caerdydd a ddangosodd delesgopau a chamerâu is-goch i ni ac a roddodd ddealltwriaeth newydd o'r gofod i'n plant.

"Yr un mor bwysig, roedd sesiynau Prifysgol y Plant yn helpu ein plant i ddysgu am greadigrwydd, gwaith tîm a phwysigrwydd cydweithio."

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Caerdydd ei Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant, sy'n rhoi hawliau a llais plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.

Ers hynny, mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

Nod y cynllun gweithredu amlasiantaethol manwl yw cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd.  Mae hyn yn cefnogi nod Caerdydd o gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf UNICEF yn y DU, rhaglen fyd-eang sy'n partneru UNICEF â llywodraeth leol i roi hawliau plant yn gyntaf.

I gael gwybod mwy am Gaerdydd sy'n Dda i Blant, ewch iwww.caerdyddsynddaiblant.co.uk