The essential journalist news source
Back
25.
November
2022.
Cerflun Betty Campbell Caerdydd yn ennill gwobr

25/11/22 

Mae cerflun syfrdanol Caerdydd sy'n anrhydeddu'r brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru, Betty Campbell MBE, wedi ennill y bleidlais gyhoeddus mewn seremoni wobrwyo fawreddog. 

A statue of a person with a building in the backgroundDescription automatically generated with low confidence

Enillodd y cerflun enwog y wobr neithiwr, (Dydd Iau 24 Tachwedd),yng Ngwobrau Marsh 2022 y Gymdeithas Cerfluniau a Cherflunwaith Cyhoeddus (CCChC) am Ragoriaeth mewn Cerflunwaith Cyhoeddus. 

Cafodd cofeb Betty Campbell ei dylunio a'i chreu gan y cerflunydd ffigurol enwog Eve Shepherd a chafodd ei dadorchuddio yng nghanol dinas Caerdydd ym mis Medi 2021.Cafodd y cerflun ei gomisiynu yn dilyn yr ymgyrch Arwresau Cudd a gafodd ei threfnu gan Monumental Welsh Women ac a gafodd ei darlledu ar BBC Wales. Daeth Betty Campbell ar y brig mewn pleidlais gyhoeddus i benderfynu pwy fyddai'r cerflun cyntaf erioed o fenyw a enwir, nad yw'n gymeriad ffug yng Nghymru. 

Pan yn blentyn dywedwyd wrth Betty Campbell na allai fyth wireddu ei breuddwyd o fod yn brifathrawes.  Wedi ei geni a'i magu yn Butetown, cafodd Betty Campbell wybod gan ei hathrawes na allai merch ddu dosbarth gweithiol fyth cyrraedd yr uchelfannau academaidd yr oedd hi'n dyheu amdanynt. Profodd ei hamheuon yn anghywir yn y ffordd fwyaf ysbrydoledig, gan ddod y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru ac yn hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth. Anrhydeddwyd Mrs Campbell â chofeb barhaol yn Sgwâr Canolog Caerdydd i nodi ei chyfraniad anhygoel i addysg a chymuned. 

Am y tro cyntaf yn hanes gwobrau'r CCChC, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd bleidleisio am eu hoff waith. Pleidleisiodd pobl o restr fer o naw cerflun cyhoeddus o bob rhan o'r DU. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:   "Mae'n adlewyrchiad cywir o'r croeso mawr y mae'r cerflun wedi'i gael ers iddo gael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd. Nid yn unig y mae'n deyrnged addas i Betty - menyw mor bwysig yn hanes Cymru a Chaerdydd - ond mae wedi bod yn ganolbwynt i bobl sy'n ymweld â'r ddinas ac yn ffordd o goffáu ein menywod mawreddog, ac mae bellach yn glod i'w greawdwr Eve Shepherd a'r cyhoedd a bleidleisiodd drosto." 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Am ffordd wych i Gofeb Betty Campbell gael ei dathlu gan y cyhoedd a bleidleisiodd drosti i ennill y wobr hon. Mae'n gerflun cyhoeddus mor eiconig ac mae eisoes wedi cael ei chydnabod am y stori bwerus y tu ôl iddi. Erbyn hyn mae wedi cael gwobrau am ei hestheteg a'i dyluniad gweledol. Rwy'n falch iawn dros yr artist, a theulu Betty."