The essential journalist news source
Back
23.
November
2022.
Cau Morglawdd Bae Caerdydd dros dro

Bydd Morglawdd Bae Caerdydd ar gau am ddeuddydd i alluogi ffilmio'r gyfres antur boblogaidd, Alex Rider ar gyfer Amazon Prime.

Tra bod y morglawdd ar gau, rhwng 7am a 9pmddydd Mercher 30 Tachwedd a dydd Iau 1 Rhagfyr,bydd dargyfeiriad ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar waith drwy Bont y Werin.

Ni fydd modd cyrraedd llwybr y Morglawdd rhwng ochr Penarth a chaffi'r Morglawdd.

Bydd maes parcio'r Morglawdd a'r fraich bysgota hefyd ar gau i ymwelwyr yn ystod yr amseroedd hyn.

Bydd modd mynd at yr ardal chwarae a'r parc sglefrfyrddio, ond dim ond o ochr Bae Caerdydd i'r Morglawdd. Bydd mynediad i gychod yn parhau fel arfer trwy'r cloeon.