The essential journalist news source
Back
15.
November
2022.
Mae Ceisiadau Ysgolion Cynradd ar agor nawr

15/11/2022

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2023 nawr ar agor ac mae rhieni'n cael eu hannog i ddefnyddio'r pum dewis yn llawn i roi'r cyfle gorau iddynt gael ysgol y maen nhw ei heisiau.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gofyn i deuluoedd wneud cais yn brydlon ac i gofio nad oes gan blentyn hawl awtomatig i le mewn dosbarth derbyn cynradd lle maent yn mynychu'r feithrinfa yn yr ysgol. Rhaid gwneud cais o'r newydd am le dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd.

Gwasanaethir pob ardal o Gaerdydd gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg, ysgol gynradd gymunedol Saesneg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gynradd Gatholig.  

Caiff ceisiadau am le mewn ysgolion cymunedol eu gwneud yn uniongyrchol i'r Cyngor drwy ein system dderbyniadau ar-lein. Mae'r Cyngor hefyd yn cydlynu derbyniadau ar gyfer 20 o'r 23 ysgol ffydd cynradd yng Nghaerdydd. I gael lle mewn ysgol sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol, rhaid i chi wneud cais trwy system dderbyniadau ar-lein y Cyngor. Efallai y bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffurflen arall a/neu fanylion pellachyn uniongyrchol i'r ysgol (neu ysgolion) rydych yn ei(u) ffafrio 

Dylai rhieni sy'n gwneud cais am le yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru Dinas Llandaf, Ysgol Gynradd Gatholig Sant John Lloyd neu Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig, wneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol.

Am restr o'r 20 ysgol ffydd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun cydlynol ac am fwy o wybodaeth am dderbyniadau i ysgolion, ewch i:Derbyniadau ysgolion cynradd (caerdydd.gov.uk).

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ein nod yw sicrhau bod teuluoedd yn deall yn glir sut i wneud cais am le mewn ysgol a sut mae'r broses dderbyn yn gweithio ac ers lansio ein hymgyrch dderbyn dair blynedd yn ôl, rydym wedi gweld cynnydd graddol yn y rhieni sy'n gwneud cais am leoedd ysgol yn gywir ac ar amser. 

Roedd hyn yn golygu bod mwy o deuluoedd yn gallu cael lle yn eu dewis o ysgol ac mae hynny'n gam cadarnhaol tuag at sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i osgoi bod dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."

"Eleni, mae newidiadau i'r broses o wneud cais yn golygu bod rhieni bellach yn gallu nodi pump ysgol a ffefrir yn hytrach na thair. Mae hefyd yn galonogol bod 19 o ysgolion ffydd ychwanegol wedi ymuno â'n proses dderbyn cydlynol, sy'n golygu y gall y teuluoedd hynny sy'n dymuno gwneud cais am ysgolion cymunedol a rhai ffydd, wneud hynny gan ddefnyddio un ffurflen gais.  

Mae pob ardal o'r ddinas yn cael ei gwasanaethu gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg. Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb ni waeth a yw'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ac mae gan Gaerdydd uned drochi ysgolion cynradd sydd yn rhoi cymorth iaith ychwanegol i blant. 

Mae rhagor o wybodaeth yn esbonio manteision addysg Gymraeg arManteision Addysg Gymraeg (cardiff.gov.uk)

Ychwanegodd y Cyng. Merry:  "Mae addysg Gymraeg ar gael i bob teulu, pa bynnag iaith a siaredir gartref ac mae'n galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn Gymraeg a Saesneg, gan roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol iddynt.  Bydd cynlluniau Caerdydd i ddatblygu Caerdydd sy'n ddwyieithog, yn hybu'r Gymraeg fel iaith fyw sy'n ffynnu ac yn adlewyrchu ein huchelgais fod pob person ifanc yn cael y cyfle i glywed, siarad a mwynhau Cymraeg."

Mae canllawiau pellach sy'n gysylltiedig â'r broses o wneud cais ar gael gan dîm Derbyn Ysgolion Cyngor Caerdydd, ac mae 7 awgrym wedi eu nodi i gynorthwyo teuluoedd drwy egluro sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael iddynt a pham y dylent wneud cais ar amser. I weld y 7 o gynghorion a'r animeiddiad ewch i: https://www.youtube.com/watch?v=QqzjHRJc6SY

Gallwch gael cyngor ac arweiniad syml mewn 11 iaith wahanol yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg, a gall rhieni hefyd ofyn am gymorth a chyngor gan unrhyw un o Hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd."

Bydd y cyfnod i wneud cais am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben Ddydd Llun 9 Ionawr 2023. 

I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i:www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

Mae'r ymgyrch 7 o gynghorion gan Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf Unicef yn y DU, gan osod hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg,  Portiwgaleg, Rwmaneg, Rwseg, Somalïeg ac Wcreineg.