The essential journalist news source
Back
15.
November
2022.
Telerau ac Amodau’r Raffl am Ddim Cofrestru Pleidleiswyr

 

Gwobr – 2x enillydd taleb Love2Shop gwerth £50

 

1.    Trwy gymryd rhan yn y raffl rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau raffl hyn.

2.    Mae'r raffl yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ('Cyngor Caerdydd'), Gwasanaethau Etholiadol, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

Cymhwysedd ymgeisio

3.    Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw yng Nghaerdydd, a gallu rhoi prawf o’u cyfeiriad.

4.    Dim ond y rhai sydd wedi postio sylw gyda'r ateb cywir i'r cwestiwn canlynol a roddir ar ein Postiad Facebook neu Instagram fydd yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth, 'Enwch dri pheth y gall cofrestru i bleidleisio effeithio arnyn nhw?", ac sydd wedi hoffi'r un postiad ar Facebook neu Instagram rhwng dydd Mawrth 1 Tachwedd 2022 a dydd Mawrth 22 Tachwedd 2022.

5.    Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ac felly mae'n rhaid bod dros 14 oed.

6.    Rhaid i ymgeiswyr (dan 18 oed) gael caniatâd rhiant neu warcheidwad dros 18 oed i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae’r Gwasanaethau Etholiadol yn cadw'r hawl i gael prawf o’r fath ganiatâd ac i wrthod ymgeisydd neu i ddewis enillydd arall os na roddwyd prawf o'r fath, os gofynnir amdano.

7.    Wrth gymryd rhan yn y raffl, rydych yn cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio unrhyw wobr y gallech ei hennill.

8.    Caniateir uchafswm o un cais fesul unigolyn.

9.    Mae'r raffl yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddi.

 

Sut i gymryd rhan?

10.                  I ymgeisio, bydd angen i gystadleuwyr bostio sylw gyda'r ateb cywir i'r cwestiwn a bostir ar ein Postiad Facebook neu Instagram, 'Enwch dri pheth y gall cofrestru i bleidleisio effeithio arnyn nhw?", a hoffi'r un postiad ar Facebook neu Instagram rhwng dydd Mawrth 1 Tachwedd 2022 a dydd Mawrth 22 Tachwedd 2022.

11.                  Dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 22 Tachwedd 2022. Ni fydd ceisiadau ar ôl yr amser a'r dyddiad hynny’n cael eu cynnwys yn y raffl hon.

12.                  Ni fydd Cyngor Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb os yw'r manylion cyswllt a roddir yn anghyflawn neu'n anghywir.

13.                  Y gwobrau fydd

·      Gwobr 1 – 1x enillydd taleb Love2Shop gwerth £50

·      Gwobr 2 – 1x enillydd taleb Love2Shop gwerth £50

 

14.                  Nid yw defnydd Cyngor Caerdydd o frandiau penodol yn awgrymu unrhyw gysylltiad â brandiau o'r fath na chymeradwyaeth ohonynt.

15.                  Bydd yr enillydd yn cael ei dynnu ar hap o blith y rhai sy'n cymryd rhan yn y raffl ac yn gymwys i gystadlu.

16.                  Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo’r wobr ac ni chynigir arian parod yn ei lle. 

17.                  Rydym yn cadw'r hawl i newid gwobrau am wobr arall o werth cyfartal neu uwch os yw amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth yn ei gwneud yn angenrheidiol gwneud hynny.

18.                  Mae penderfyniad Cyngor Caerdydd ynghylch unrhyw agwedd ar y gystadleuaeth yn derfynol ac yn rhwymol ac ni cheir trafodaeth yn ei gylch.

Cyhoeddi’r enillydd

 

19.                  Bydd enillwyr yn cael eu dewis ar hap gan ddefnyddio proses gyfrifiadurol sy'n cynhyrchu canlyniadau ar hap.

20.                   Caiff yr enillydd wybod ar ôl 1 Rhagfyr 2022 trwy neges uniongyrchol ar Instagram neu Facebook.

21.                  Bydd Cyngor Caerdydd yn ceisio cysylltu â'r enillydd hyd at ddwy waith drwy neges uniongyrchol ar Instagram neu Facebook er mwyn iddynt roi eu henw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost.

22.                  Os nad yw'r enillydd yn ymateb i'r negeseuon sy'n eu hysbysu eu bod wedi ennill o fewn 14 diwrnod i'r ail neges, bydd yn colli ei hawl i'r wobr, ac mae Cyngor Caerdydd yn cadw'r hawl i ddewis a hysbysu enillydd newydd.

23.                  Gwneir trefniadau rhwng yr Adran Gwasanaethau Etholiadol a’r enillydd (a lle bo’n briodol, rhiant neu warcheidwad yr enillydd os yw dan 18 oed) o ran amser a lle addas i’r person ifanc dderbyn y wobr.

24.                  Mae’r Gwasanaethau Etholiadol yn cadw'r hawl i dynnu llun o'r cyflwyniad. Gall Cyngor Caerdydd ddefnyddio unrhyw ffotograffau a dynnwyd i roi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad a (ii) eu defnyddio ar ddyddiadau ac amseroedd yn y dyfodol i helpu i annog pleidleiswyr i gofrestru

Derbyn y wobr

25.                  Caniatewch 14 diwrnod ar gyfer cyflwyno'r wobr neu gellir gwneud trefniadau casglu neu ddosbarthu amgen trwy gytundeb ar y cyd.

Diogelu data a chyhoeddusrwydd

26.                  Rydych yn cydsynio i unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch wrth ymgeisio yn y raffl gael ei defnyddio gan y Gwasanaethau Etholiadol at ddibenion gweinyddu'r raffl, ac at y dibenion hynny a ddiffinnir yn eich cais a'n hysbysiad preifatrwydd.

27.                  Gall pob ymgeisydd wneud cais am fanylion y cyfranogwr buddugol trwy gysylltu â ni yn gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk

28.                  Mae'r enillydd yn cytuno i ryddhau ei enw cyntaf a (lle bo’n briodol) ei leoliad dysgu i unrhyw gyfranogwyr eraill yn y raffl os gofynnir iddo wneud hynny trwy Gyngor Caerdydd. 

29.                  Bydd cyhoeddiad am enw cyntaf a lleoliad dysgu'r enillydd yn cael ei wneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

30.                  Os hoffech wrthwynebu datgelu neu gyhoeddi eich manylion (fel y cyfeirir atynt yng nghymalau 28 a 29 uchod) anfonwch e-bost at gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk.  Ni fydd unrhyw wrthwynebiad yn cael unrhyw effaith ar y raffl na'ch siawns o ennill.

31.                  Bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Caerdydd a Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Etholiadol. Mae'r rhain i'w gweld ar wefan Cyngor Caerdydd.

Cyfyngiad ar Atebolrwydd

 

32.                  Nid yw Cyngor Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, costau, anaf na siom a ddioddefir gan unrhyw ymgeiswyr o ganlyniad i naill ai gymryd rhan yn y raffl neu gael ei dewis am wobr, heblaw am nad yw Cyngor Caerdydd yn eithrio ei rwymedigaeth am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i'w esgeulustod ei hun.

33.                  Nid yw Cyngor Caerdydd yn darparu unrhyw fath o gymorth ymarferol na chymorth TG ar gyfer y gystadleuaeth wobr hon. Ar ôl derbyn y wobr, yr enillydd sy’n gyfrifol am yr holl gyfrifoldebau sy'n ymwneud â gwarant a'r cynnyrch.

Cyffredinol

34.                  Mae Cyngor Caerdydd yn cadw'r hawl i ganslo'r raffl neu ddiwygio'r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg, heb rybudd ymlaen llaw.

35.                  Bydd y raffl a'r telerau ac amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfraith Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfodau yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.