The essential journalist news source
Back
11.
November
2022.
Mwy o gartrefi yn gynt



11.11.22

Mae cynlluniau sy'n nodi sut mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni cam nesaf ei raglen datblygu tai uchelgeisiol, gan greu 1,700 o gartrefi newydd arall i'r ddinas, wedi eu datgelu.

 

Yn erbyn cefndir o bwysau eithriadol ar argaeledd tai yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor yn bwriadu ceisio trefniant cynllun partneriaeth tai newydd er mwyn sicrhau y gellir codi mwy o gartrefi ynni-effeithlon o ansawdd uchel ar raddfa fawr ac yn gyflym.

 

Y cynllun partneriaeth fyddai'r ail o'i fath y mae'r Cyngor wedi mynd i'r afael ag ef, yn dilyn llwyddiant y bartneriaeth glodwiw Cartrefi Caerdydd gyda'r datblygwr cenedlaethol, Wates Residential. Mae'r rhaglen 10-mlynedd £320m honno yn darparu 1,500 o gartrefi newydd, gan gynnwys tua 800 o gartrefi cyngor a 700 o gartrefi i'w gwerthu ar draws 26 o safleoedd.

 

Mae'r Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd ar gyfer y ddinas, gyda 2,800 ohonynt yn gartrefi cyngor, drwy lwybrau amrywiol gan gynnwys Cartrefi Caerdydd, bargeinion pecyn, prynu eiddo yn uniongyrchol o'r farchnad a rhaglen adeiladu ychwanegol sy'n cynnwys safleoedd datblygu'n cael eu darparu'n unigol.

 

Byddai ail raglen bartneriaeth yn galluogi'r cyngor i symud ymlaen â'i biblinell o brosiectau yn gynt, gan gynnal cysondeb yn ansawdd yr adeiladu o safle i safle a chyflawni gwell sicrwydd o ddarpariaeth yng nghanol hinsawdd heriol.

 

Bydd y Cabinet yn ystyriedcymeradwyo gweithrediad ail Raglen Partneriaeth Tai Caerdydd gan gynnwys cychwyn ymarfer caffael i benodi partner datblygu yn ei gyfarfod ddydd Iau, 17 Tachwedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae ein partneriaeth Cartrefi Caerdydd gyda Wates Residential wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae wedi cael ei chydnabod fel rhaglen ddatblygu wirioneddol arloesol ac wedi ennill nifer o wobrau pwysig. Mae'r dull partneriaeth wedi lleihau'r risg ddarparu a chyflymu'r broses o gael prosiectau ar y safle.

 

"Mae'r pwysau tai presennol yn golygu ein bod yn cael ein herio i ddarparu cartrefi newydd yn gyflymach ac mae ein profiadau o'n trefniant partneriaeth presennol yn cynnig tystiolaeth gref o'r manteision o gyflawni gweddill y safleoedd yn ein rhaglen trwy drefniant partneriaeth newydd.

 

"Nid yn unig y mae'r cynllun Cartrefi Caerdydd wedi darparu cartrefi newydd ynni-effeithlon o safon y mae galw mawr amdanynt ledled y ddinas i helpu i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ond hefyd wedi codi safonau ar draws cartrefi i'w gwerthu a thai cymdeithasol. Mae wedi cyflawni buddion llawer ehangach i'n cymunedau gan gynnwys gwerth cymdeithasol sylweddol a buddsoddiad lleol drwy gefnogi cadwyni cyflenwi a chontractwyr lleol a chyflwyno pecyn o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.

 

"Gallaiail raglen bartneriaeth hefyd ganiatáu i ni gydweithio â phartneriaid, o bosibl ddod â safleoedd ychwanegol i mewn i'r rhaglen i'w gwneud yn gynnig mwy deniadol fyth i gynigwyr posibl, a chynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ledled y ddinas. 

 

Argymhellir i'r Cabinet hefydgymeradwyo'r rhestr o safleoedd datblygu penodol sydd i'w cynnwys yn yr ail raglen bartneriaeth ar 17 Tachwedd ac i ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i reoli'r holl faterion sy'n ymwneud â'r broses gaffael. Ar ôl i'r broses dendro a gwerthuso ceisiadau ddod i ben, bydd penderfyniad yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Cabinet i roi cymeradwyaeth i benodi'r cynigydd a ffefrir.

 

 

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7956&Ver=4&LLL=1