The essential journalist news source
Back
8.
November
2022.
Gwasanaeth sgwteri symudedd 4x4 i lansio ym Mharc Cefn Onn

Bydd gwasanaeth symudedd gyriant pedair olwyn yn cael ei lansio ym Mharc Cefn Onn y flwyddyn nesaf wrth i waith ar brosiect £660,000 i warchod treftadaeth y parciau a gwella mynediad a chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr gael ei gwblhau.

Y gwasanaeth 'Tramper' newydd, yw darn olaf y prosiect "I'r ardd a thu hwnt", a ariennir yn rhannol gan grant o £454,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd wedi cyflwyno amrywiaeth o welliannau i'r parc rhestredig Gradd 2 yng ngogledd Caerdydd, gan gynnwys:

  • llwybr bordiau newydd i wella hygyrchedd.
  • gwaith i'r pyllau a'r dyfrffyrdd.
  • gwell arwyddion a llwybrau.
  • toiledau sydd wedi'u huwchraddio a chyfleusterau newid i bobl anabl.
  • gwaith cadwraeth i'r Tŷ Haf.
  • byrddau dehongli newydd sy'n archwilio hanes y parc.
  • gwelliannau i'r maes parcio.

Prynwyd y parc gan y cyngor ym 1944, ar un adeg roedd yn ardd breifat, yn perthyn i Ernest Prosser, Cyfarwyddwr Rheilffordd Cwm Rhymni.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae Parc Cefn Onn yn drysor go iawn ac ers amser maith fe fu'n un o'n 16 parc rhagorol ond fel parc gwledig, rhan o'i apêl yw ei deimlad mwy garw, rhywbeth a wnaeth ynghyd â'i lwybrau a'i gamau serth, nes i'r gwaith gwella gael ei wneud, rannau helaeth o'r parc yn weddol anhygyrch i deuluoedd â chadeiriau gwthio a bygis,  yn ogystal ag i bobl gyda phroblemau symudedd."

Mae'r Trampers yn cael eu darparu drwy bartneriaeth gyda'r sefydliad dielw Countryside Mobility Network. Wedi'u gyrru gan fodurau trydan tawel fel y gall defnyddwyr barhau i fwynhau heddwch a thawelwch y parc, mae'r Trampers wedi'u cyfyngu i gyflymder uchaf o 4mya a byddant ar gael i'w llogi ar sail 'untro' neu drwy gynllun aelodaeth cost isel.

Ychwanegodd y Cynghorydd Burke-Davies: "Pan fydd yn lansio'r flwyddyn nesaf, bydd y gwasanaeth tramper newydd yn agor y parc hardd hwn i fwy fyth o'r gymuned, gan eu galluogi i archwilio ei harddwch naturiol, dysgu am ei hanes, a mwynhau manteision iechyd a lles gofodau gwyrdd Caerdydd."

Dwedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae treulio amser yn yr awyr agored yn dda i'n hiechyd a'n lles corfforol a meddyliol a dyna pam mae sicrhau mannau gwyrdd mwy hygyrch i ystod ehangach o bobl yn hanfodol.

"Nawr, diolch i'r cyllid rydym wedi ei ddarparu i Gyngor Caerdydd ar gyfer y gwaith gwella hyn ym Mharc Cefn Onn, bydd mwy fyth o bobl yn gallu mwynhau ac elwa ar dirweddau trawiadol, parciau a threftadaeth naturiol ein prifddinas heddiw ac yn y dyfodol."