The essential journalist news source
Back
4.
November
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 04 Tachwedd 2022

Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: defaid mewn perygl sydd wedi'u bridio gan fugail yn ei harddegau yn cael rôl gadwraeth ar Ynys Echni; Cofeb Betty Campbell ar restr fer gwobr; a sachau gwastraff gardd am ddim ar gael am gyfnod cyfyngedig.

 

Defaid mewn perygl sydd wedi'u bridio gan fugail yn ei harddegau yn cael rôl gadwraeth ar Ynys Echni

Mae praidd o ddefaid Boreray sydd mewn perygl, a fridiwyd gan ferch bymtheg oed, wedi cael ei gludo i Ynys Echni i helpu i gynyddu niferoedd y gwylanod cefnddu lleiaf ar yr ynys.

Fel plentyn, treuliodd y bugail, Faith Green ei gwyliau haf yng Nghymru yn helpu i ofalu am y defaid ar fferm ei mam-gu a'i thad-cu ac yn naw oed penderfynodd ei bod eisiau ei phraidd ei hun, gan ddewis brîd prinnaf Prydain, y Boreray sydd mewn perygl difrifol ac sy'n tarddu o Ynysoedd Heledd oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban.

Yn bymtheg oed erbyn hyn, dywedodd Faith: "Pan ddechreuais i, yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud oedd cynyddu eu niferoedd oherwydd does dim llawer ohonyn nhw ar ôl, mae eu niferoedd yn cynyddu erbyn hyn ond ddim yn rhy gyflym, felly maen nhw'n dal i gael trafferth.

"Dros y pum mlynedd diwethaf dwi wedi cynyddu nifer fy mhraidd, sy'n ffordd dda o helpu'r brîd. Dwi wedi dewis ambell un o'm praidd i ddod yma i Ynys Echni ac i dreulio gweddill eu bywydau yma, yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau ei wneud."

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30213.html

 

Cofeb Betty Campbell ar restr fer gwobr

Mae cofeb Betty Campbell Caerdydd wedi'i henwebu ar gyfer gwobr fawreddog. Mae'r PSSA (Y Gymdeithas Cerfluniau Cyhoeddus) wedi cyrraedd rhestr fer y gofeb yng nghanol dinas Caerdydd ar gyfer Gwobr Marsh Rhagoriaeth mewn Cerfluniau Cyhoeddus 2022.

Pan yn blentyn dywedwyd wrth Betty Campbell na allai fyth wireddu ei breuddwyd o fod yn brifathrawes. 

Wedi ei geni a'i magu yn Butetown, cafodd Betty Campbell wybod gan ei hathrawes na allai merch ddu dosbarth gweithiol fyth cyrraedd yr uchelfannau academaidd yr oedd hi'n dyheu amdanynt. Profodd ei hamheuon yn anghywir yn y ffordd fwyaf ysbrydoledig, gan ddod y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru ac yn hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Anrhydeddwyd Mrs Campbell â chofeb barhaol yn Sgwâr Canolog Caerdydd i nodi ei chyfraniad anhygoel i addysg a chymuned.

Gallwch bleidleisio dros gofeb Betty Campbell gan Eve Shepherd yma:
https://pssauk.org/awards/

 

Sachau gwastraff gardd am ddim ar gael am gyfnod cyfyngedig

Archebwch eich sach gwastraff gardd am ddim - yn berffaith i breswylwyr ddod â'u gwastraff gardd i ganolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby neu Clos Bessemer (CAGC) trwy gydol y gaeaf.

Fel arfer yn £3.50, maen nhw ar gael am ddim am gyfnod cyfyngedig.Gall unrhyw eiddo yng Nghaerdydd ofyn am sachau ond nifer gyfyngedig sydd ar gael.

Gwnewch eich archeb

Mae CAGC ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 9am gyda'r slot archebu olaf am 5.30pm.

Trefnwch apwyntiad trwyein gwefan neu drwyAp Caerdydd Gov