The essential journalist news source
Back
31.
October
2022.
Y newyddion gennym ni - 31/10/22

Image

27/10/22 - CYNLLUNIWCH YMLAEN LLAW - Cyngor teithio i gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ar 5 Tachwedd yng Nghaerdydd

Bydd Cymru'n herio Seland Newydd ddydd Sadwrn 5 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30191.html

 

Image

27/10/22 - Y Cynghorydd Julie Sangani yn siaradwr gwadd yn y Ddarlith Goffa Sefydlu Betty Campbell gyntaf erioed

Heddiw, roedd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros fynd i'r afael â Thlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd, y Cynghorydd Julie Sangani, yn falch iawn o fod yn siaradwr gwadd yn y Ddarlith Goffa Sefydlu Betty Campbell gyntaf un, ychwanegiad newydd i ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30188.html

 

Image

26/10/22 - Llwybr Calan Gaeaf realiti estynedig newydd i deuluoedd ar Love Exploring

Mae Llwybr Calan Gaeaf realiti estynedig iasol o amgylch rhai o barciau a mannau gwyrdd mwyaf poblogaidd Caerdydd wedi'i lansio ar yr ap Love Exploring newydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30184.html

 

Image

25/10/22 - Stori milwyr o Awstralia a nyrsiwyd yng Nghaerdydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i'w hadrodd ar benwythnos y Cofio

Bydd grŵp theatr o Gaerdydd yn adrodd stori saith milwr o Awstralia a gafodd eu nyrsio yng Nghaerdydd, filoedd o filltiroedd o'u cartrefi, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf mewn tri pherfformiad amlgyfrwng dramatig mewn tri lleoliad gwahanol

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30176.html

 

Image

25/10/22 - Gwobrau PawPrints RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd am fynd "yr ail filltir dros anifeiliaid"

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi cael ei ganmol gan yr RSPCA, sydd wedi cydnabod safon ei gynelu a'r ffordd y mae cŵn strae yn derbyn gofal yng nghyfleuster Cyngor Caerdydd, gyda dwy Wobr PawPrints.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30174.html

 

Image

25/10/22 - Miloedd o goed newydd i gael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf

Bydd miloedd o goed newydd yn cael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf, mewn mwy na 150 o leoliadau gwahanol gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, hybiau cymunedol, ysgolion a strydoedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30172.html