The essential journalist news source
Back
25.
October
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 25 Hydref 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: ehangu cynllun ailgylchu newydd ymyl y ffordd; miloedd o goed newydd i gael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf; a Gwobrau PawPrints RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd am fynd "yr ail filltir dros anifeiliaid".

 

Ehangu cynllun ailgylchu newydd ymyl y ffordd

Mae'r cynllun ailgylchu newydd didoli ar garreg y drws yn cael ei ehangu i 5,000 o eiddo pellach ledled y ddinas, er mwyn gwella ansawdd yr ailgylchu sy'n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr, cynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas ac ymdrechu tuag at dargedau heriol Llywodraeth Cymru i ailgylchu.

Bydd eiddo penodol mewn wyth ward ar draws y ddinas yn derbyn y gwasanaeth newydd, a bydd pob un o'r trigolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn llythyr yr wythnos nesaf, i'w cynghori am y newidiadau.

Y cynwysyddion newydd y gellir eu hailddefnyddio yw:

  • Sach goch am blastig a chaniau
  • Sach las ar gyfer papur a chardfwrdd
  • Cadi glas ar gyfer poteli a jariau gwydr.

Y dull ailgylchu o fathu wrth ymyl y ffordd yw'r dull y mae Llywodraeth Cymru'n ei ffafrio o gasglu ailgylchu o gartrefi preswylwyr - fel y nodir yn eu Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Mae'r dull hwn o gasglu ailgylchu yn cael ei ddefnyddio gan bron pob awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae wedi helpu i wneud Cymru'n un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd.

Mae'r dull ailgylchu newydd eisoes wedi ei dreialu mewn pedair ward yng Nghaerdydd a'n nod yw cyflwyno'r cynllun newydd ledled y ddinas dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae arwyddion cynnar o'r treialon yn dangos bod ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd o gartrefi preswylwyr wedi cynyddu'n aruthrol o'i gymharu â chasglu ailgylchu mewn bagiau gwyrdd. Yn yr ardaloedd prawf, mae'r gyfradd halogi - sef eitemau sy'n cael eu rhoi allan i'w hailgylchu, ond mewn gwirionedd ni ellir eu hailgylchu - wedi gostwng o 30% i 6% yn yr ardaloedd hyn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30159.html

 

Miloedd o goed newydd i gael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf

Bydd miloedd o goed newydd yn cael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf, mewn mwy na 150 o leoliadau gwahanol gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, hybiau cymunedol, ysgolion a strydoedd.

Bydd y coed, sy'n rhan o brosiect Coed Caerdydd gan Gyngor Caerdydd i gynyddu gorchudd canopi coed yn y ddinas o 18.9% i 25%, yn cael eu plannu gyda chymorth criw o wirfoddolwyr mewn mwy na 60 o ddigwyddiadau plannu coed yn y gymuned, a bydd y cyntaf yn cael ei gynnal yn Sblot ar 7 Tachwedd.

Bydd y rhan fwyaf o'r coed yn rhywogaethau brodorol fel coed Derw, Bedw, Cerdin a Gwern ond bydd rhai coed addurnol, a ddewiswyd oherwydd eu gallu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd, hefyd yn cael eu plannu. Bydd y coed yn amrywio o ran maint o goed ifanc bach i goed mwy eu maint a bydd coed ffrwythau fel Afal, Gellyg, Eirin a Cheirios yn cael eu plannu mewn nifer o safleoedd addas.

Cafodd y rhan fwyaf o'r lleoliadau plannu eu hawgrymu gan aelodau'r cyhoedd, grwpiau cymunedol, a Chynghorwyr ward lleol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30172.html

 

Gwobrau PawPrints RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd am fynd "yr ail filltir dros anifeiliaid"

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi cael ei ganmol gan yr RSPCA, sydd wedi cydnabod safon ei gynelu a'r ffordd y mae cŵn strae yn derbyn gofal yng nghyfleuster Cyngor Caerdydd, gyda dwy Wobr PawPrints.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gwneud gwaith gwych ac wedi gwneud ers blynyddoedd lawer - mae'r wobr aur eleni yn y categori cŵn strae a'r wobr arian am gynelu yn ychwanegol at o leiaf un wobr PawPrints RSPCA bob blwyddyn ers 2008. Mae hynny'n gyflawniad gwych ac yn dangos pa mor ymrwymedig ydyn nhw i'r anifeiliaid sy'n dod i'w gofal."

Cefnogir y tîm yn y Cartref Cŵn gan fyddin o wirfoddolwyr a'u partneriaeth ag elusen leol, The Rescue Hotel. Wedi'i sefydlu 18 mis yn ôl, mae'r elusen eisoes wedi codi dros £320,000 tuag at adnewyddu'r cytiau cŵn trwy amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys digwyddiadau codi arian, rhoddion a cheisiadau grant, yn ogystal â gwerthu ei  chalendr Cartref Cŵn Caerdydd poblogaidd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30174.html