The essential journalist news source
Back
25.
October
2022.
Gwobrau PawPrints RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd am fynd "yr ail filltir dros anifeiliaid"

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi cael ei ganmol gan yr RSPCA, sydd wedi cydnabod safon ei gynelu a'r ffordd y mae cŵn strae yn derbyn gofal yng nghyfleuster Cyngor Caerdydd, gyda dwy Wobr PawPrints.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gwneud gwaith gwych ac wedi gwneud ers blynyddoedd lawer - mae'r wobr aur eleni yn y categori cŵn strae a'r wobr arian am gynelu yn ychwanegol at o leiaf un wobr PawPrints RSPCA bob blwyddyn ers 2008. Mae hynny'n gyflawniad gwych ac yn dangos pa mor ymrwymedig ydyn nhw i'r anifeiliaid sy'n dod i'w gofal."

Cefnogir y tîm yn y Cartref Cŵn gan fyddin o wirfoddolwyr a'u partneriaeth ag elusen leol, The Rescue Hotel. Wedi'i sefydlu 18 mis yn ôl, mae'r elusen eisoes wedi codi dros £320,000 tuag at adnewyddu'r cytiau cŵn trwy amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys digwyddiadau codi arian, rhoddion a cheisiadau grant, yn ogystal â gwerthu ei chalendr Cartref Cŵn Caerdydd poblogaidd.

Dywedodd Lee Gingell, rheolwr materion cyhoeddus yr RSPCA ar gyfer llywodraeth leol: "Er yr hinsawdd anodd, ry'n ni ar ben ein digon i weld 50 o gyrff cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr yn ennill gwobrau PawPrints eleni.Mae'n gyfnod anodd i lawer o berchnogion anifeiliaid anwes, wrth i'r argyfwng costau byw barhau i frathu - felly gwyddom y bydd llawer o'r cynlluniau a'r gweithdrefnau y mae PawPrints yn eu cydnabod yn bwysicach nag erioed; felly ry'n ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o ymgysylltu â'r cynllun unwaith eto. 

"O raglenni i annog perchnogaeth gyfrifol, i ostyngiadau ar ficrosglodion a pholisïau i amddiffyn anifeiliaid mewn sefyllfaoedd brys, mae cymaint o waith gwych yn mynd ‘mlaen y tu ôl i'r llenni mewn cyrff cyhoeddus - ac, yn yr hinsawdd yma, mae'r gwasanaethau hyn mor aml yn achubiaeth i anifeiliaid anwes a'u perchnogion.

"Yn rhy aml, nid yw'r gwaith hwn yn cael y clod mae'n ei haeddu. Diben PawPrints yw bloeddio ein neges - sef bod 50 o gyrff cyhoeddus, ar draws Cymru a Lloegr, yn mynd yr ail filltir dros anifeiliaid; gan edrych ymhell y tu hwnt i'r isafswm statudol gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud - i bobl ac anifeiliaid."

I gael gwybod mwy ac i gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd, ewch i: https://www.cartrefcwncaerdydd.co.uk/