The essential journalist news source
Back
25.
October
2022.
Miloedd o goed newydd i gael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf

Bydd miloedd o goed newydd yn cael eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y chwe mis nesaf, mewn mwy na 150 o leoliadau gwahanol gan gynnwys parciau, mannau gwyrdd, hybiau cymunedol, ysgolion a strydoedd.

Bydd y coed, sy'n rhan o brosiect Coed Caerdydd gan Gyngor Caerdydd i gynyddu gorchudd canopi coed yn y ddinas o 18.9% i 25%, yn cael eu plannu gyda chymorth criw o wirfoddolwyr mewn mwy na 60 o ddigwyddiadau plannu coed yn y gymuned, a bydd y cyntaf yn cael ei gynnal yn Sblot ar 7 Tachwedd.

Bydd y rhan fwyaf o'r coed yn rhywogaethau brodorol fel coed Derw, Bedw, Cerdin a Gwern ond bydd rhai coed addurnol, a ddewiswyd oherwydd eu gallu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd, hefyd yn cael eu plannu. Bydd y coed yn amrywio o ran maint o goed ifanc bach i goed mwy eu maint a bydd coed ffrwythau fel Afal, Gellyg, Eirin a Cheirios yn cael eu plannu mewn nifer o safleoedd addas.

Cafodd y rhan fwyaf o'r lleoliadau plannu eu hawgrymu gan aelodau'r cyhoedd, grwpiau cymunedol, a chynghorwyr ward lleol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Yn y tymor plannu diwethaf, rhoddodd gwirfoddolwyr anhygoel Coed Caerdydd dros 1,800 awr o'u hamser er mwyn helpu i roi dechrau gwych i dymor plannu cyntaf ein prosiect coedwig trefol, gan blannu cyfanswm o 20,000 o goed - ardal tua maint 15 cae pêl-droed.

"Y tymor hwn rydyn ni'n edrych i blannu hyd yn oed mwy o goed nag a wnaed y tymor diwethaf, ond allwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain a byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu i wneud yr aer yn lanach a'n dinas yn wyrddach i gofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau plannu cymunedol."

Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau plannu cymunedol i'w gweld yma:https://www.eventbrite.com/cc/coed-caerdydd-tree-planting-22-23-1265329