The essential journalist news source
Back
18.
October
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 18 Hydref 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: adroddiad blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud; Holi Caerdydd 2022 ar agor; a Gofalwyr Di-dâl yn dweud eu dweud am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

 

Adroddiad blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud

Mae'r chweched adroddiad blynyddol ar Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl) yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud yn yr ystod o ddangosyddion, gyda'r canfyddiadau'n cael eu trafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn eu cyfarfod ar 20 Hydref.

Mae gofyn i'r cyngor gyflwyno adroddiad monitro'r CDLl yn flynyddol i Lywodraeth Cymru i wirio a phrofi bod y cynllun yn parhau'n addas at y diben, ac mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), a fabwysiadwyd ym mis Ionawr 2016, yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer dyfodol y ddinas tan 2026, ac yn galluogi'r cyngor i gael rheolaeth dros y gwahanol fathau o ddatblygiadau a adeiladir mewn gwahano rannau o'r ddinas. Mae'r cynllun yn ymateb i'r materion a'r anghenion presennol y mae'r ddinas yn eu hwynebu drwy nodi strategaeth, cynigion a pholisïau o ran sut y bydd y ddinas yn newid yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn asesu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyflogaeth, tai, tai fforddiadwy, trafnidiaeth safleoedd sipsiwn a theithwyr, y canllaw cynllunio atodol ac unrhyw newidiadau i'r cynllun.  

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30125.html

 

Holi Caerdydd 2022

Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto eisiau Holi Caerdydd o ran beth sy'n bwysig i ddinasyddion a chymunedau lleol yn y ddinas.

Yn ei arolwg blynyddol sy'n rhoi cyfle i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ac ymwelwyr rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus, mae'r Cyngor yn awyddus i ddeall yn well sut brofiad mae pobl yn ei gael o'r ddinas a'r gwasanaethau i helpu i lywio'r gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae Holi Caerdydd 2022 ar gael ar-lein nawr yn www.caerdydd.gov.uk/holicaerdydd2022 a bydd pawb sy'n cymryd rhan yn yr arolwg 20 munud yn cael cyfle i fod yn rhan o raffl wobr i ennill tocyn teulu i sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf eleni neu un o ddeg taleb £50 Caerdydd AM BYTH, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth o siopau a bwytai ar y stryd fawr.

Bydd copïau papur o'r arolwg hefyd ar gael i'w cwblhau mewn hybiau, llyfrgelloedd ac adeiladau cymunedol eraill o amgylch y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30095.html

 

Gofalwyr Di-dâl yn dweud eu dweud am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi

Mae gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd wedi rhoi eu barn ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac mewn ymateb, mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn ymgymryd ag ystod o welliannau i'r cymorth sydd ar gael iddynt. Mae hyn i gynnwys rhoi dwy siarter newydd ar waith a fydd yn cael eu hargymell i'w cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 20 Hydref.

Mae Siarter Gofalwyr Di-dal Caerdydd a'r Fro a'r Siarter Gofalwyr Di-dâl Ifanc yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a datblygu cymorth i bob gofalwr di-dâl ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.

Diffinnir gofalwr di-dâl fel unrhyw un sy'n gofalu'n ddi-dâl am ffrind neu aelod o'r teulu, nad yw'n gallu byw'n annibynnol yn y gymuned heb ei gymorth, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Gan gryfhau'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo, bydd y Siarteri'n ceisio gwella cymorth i ofalwyr di-dâl, archwilio a nodi ffyrdd newydd o weithio a chynyddu hygyrchedd at wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl. Gosodwyd dwy weledigaeth yn sail i'r Siarteri:

Gweledigaeth Gofalwyr Di-dâl- Nodi a chydnabod gofalwyr di-dal am y cyfraniad hollbwysig maent yn ei wneud i'r gymuned a'r bobl maent yn gofalu amdanynt, ac wrth wneud hynny, galluogi gofalwyr di-dâl i gael bywyd law yn llaw â'r gofalu.

Gweledigaeth Gofalwyr Di-dâl Ifanc- Mae gofalwyr ifanc yn bwysig iawn i ni, i'r cymunedau y maen nhw'n byw ynddynt a'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt.  Rydym eisiau gwybod os ydych chi'n gofalu am rywun, fel y gallwn eich helpu chi a'r person rydych chi'n gofalu amdano, a sicrhau bod gennych chi amser i wneud pethau drosoch eich hun.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30112.html