The essential journalist news source
Back
18.
October
2022.
Adroddiad blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud

18/10/22 

Mae'r chweched adroddiad blynyddol ar Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl) yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud yn yr ystod o ddangosyddion, gyda'r canfyddiadau'n cael eu trafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn eu cyfarfod ar 20 Hydref. 

Mae gofyn i'r cyngor gyflwyno adroddiad monitro'r CDLl yn flynyddol i Lywodraeth Cymru i wirio a phrofi bod y cynllun yn parhau'n addas at y diben, ac mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), a fabwysiadwyd ym mis Ionawr 2016, yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer dyfodol y ddinas tan 2026, ac yn galluogi'r cyngor i gael rheolaeth dros y gwahanol fathau o ddatblygiadau a adeiladir mewn gwahano rannau o'r ddinas. Mae'r cynllun yn ymateb i'r materion a'r anghenion presennol y mae'r ddinas yn eu hwynebu drwy nodi strategaeth, cynigion a pholisïau o ran sut y bydd y ddinas yn newid yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn asesu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyflogaeth, tai, tai fforddiadwy, trafnidiaeth safleoedd sipsiwn a theithwyr, y canllaw cynllunio atodol ac unrhyw newidiadau i'r cynllun.  

Dyma'r prif elfennau:

Cyflogaeth:Mae'r duedd yn gadarnhaol, yn enwedig o ran creu swyddi. Rhwng 2006 a 2016, cafwyd 20,900 o swyddi newydd, gydag 8,000 arall wedi'u creu dros yr wyth mlynedd diwethaf, er bod angen pwysleisio bod y cyfnod hwn yn cynnwys y pandemig.

Tai:Mae tai'n cael eu hadeiladu nawr ar nifer o'r safleoedd strategol srs i'r cynllun gael ei fabwysiadu, gyda:

  • 954 eiddo wedi eu hadeiladu ym Mhentref Sant Edeyrn
  • 739 eiddo yng Ngogledd-orllewin Caerdydd
  • 216 eiddo yn Ngogledd-ddwyrain Caerdydd a 
  • 213 eiddo ar y safle i'r gogledd o Gyffordd 33.

Rhwng 2006 a 2022, mae 19,642 o gartrefi newydd wedi'u hadeiladu.

Tai Fforddiadwy: Dim ond eiddo newydd mae'r adroddiad monitro yn eu hystyried, ac nid yw'r cynnwys eiddo a brynwyd.  Ers 2014, mae 1,797 o dai fforddiadwy newydd wedi eu darparu, ond mae 1,288 arall wedi eu darparu drwy adeiladu newydd a chaffael can y tîm tai a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig dros y tair blynedd diwethaf.  Bydd graddfa eiddo newydd yn cynyddu ymhellach dros y pedair blynedd nesaf, wrth i waith adeiladu ar safleoedd maes glas gyflymu.

Trafnidiaeth:Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae teithio cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus, beicio, cerdded) wedi cynyddu gan 5%, gan ddod â'r ganran o bobl sy'n defnyddio teithio cynaliadwy ers i'r cynllun gael ei fabwysiadu i fyny i 53%.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r defnydd ar fysys a threnau wedi codi gan 2%, wrth i bobl ddechrau dod i'r arfer â thrafnidiaeth gyhoeddus eto ar ôl y pandemig; mae cerdded wedi cynyddu gan 8%, ond mae beicio wedi gostwng gan 2%,er bod seiclo yn parhau'n uwch na chyn y pandemig. Mae lefelau traffig ar y rhwydwaith ffyrdd wedi lleihau gan 20% ers y cyfnod cyn y pandemig. 

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr:Mae gwaith yn mynd rhagddo i adnabod safleoedd ar gyfer safleoedd parhaol i Sipsiwn a Theithwyr. Mae trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ac mae gwaith yn parhau i sicrhau canlyniadau priodol.

Canllaw Cynllunio Atodol:ers i'r cynllun gael ei fabwysiadu yn 2016, mae 18 CCA wedi eu cynhyrchu'n gefn i'r polisi cynllunio.

Newidiadau Cyd-destunol:Mae newidiadau arwyddocaol wedi digwydd yn y Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol dros y chwe blynedd diwethaf.  Bydd angen ystyried y newidiadau hyn wrth baratoi CDLl Newydd y ddinas, ar gyfer y cyfnod tan 2036.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Yr hyn rydyn ni'n ei weld nawr yng Nghaerdydd o ran adeiladu tai, buddsoddi a datblygu yw gwireddu'r polisïau sydd yn y CDLl, gyda datblygiadau'n digwydd ledled y ddinas, ac ar y rhan fwyaf o'r safleoedd strategol. 

"Mae wastad bwlch amser rhwng mabwysiadu CDLl a datblygiadau ar lawr gwlad, am nifer o resymau, ond mae'n galonogol gweld bod graddfa adeiladu ein stoc dai ar lefel na fu ei debyg ers 10 mlynedd.  Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o dai fforddiadwy newydd yng Nghaerdydd, gydag ychydig o dan 1,800 o unedau wedi ei cwblhau ers 2014.

"Mae'r raddfa hon yn debygol o barhau, wrth i ni symud i bedair blynedd olaf y cynllun, gan fod y rhan fwyaf o ddatblygwyr sy'n adeiladu ar y safleoedd strategol bellach wedi cael y caniatâd sydd ei angen.

"Roedd CDLl presennol y ddinas yn ymateb i gyflenwad tai lleol cyfyngedig iawn a olygai fod angen i ni fwrw ymlaen gyda nifer fawr o gartrefi newydd i ateb anghenion y ddinas. Heb fynd ati i adeiladu'r holl dai hyn, a'r tai fforddiadwy a chymdeithasol cysylltiedig, byddai ein hargyfwng tai yn llawer gwaeth, gyda hyd yn oed mwy o bobl yn methu fforddio cartref.

"Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd da gdya'r targedau sydd wedi eu gosod. Gyda'r newidiadau cyd-destunol a'r monitro parhaus o ran polisi cynllunio cenedlaethol, mae penderfyniad wedi'i wneud i ddechrau CDLl ar gyfer y cyfnod tan 2036, a chadw'r cynllun presennol ar waith tan i'r un newydd gael ei fabwysiadu."