The essential journalist news source
Back
17.
October
2022.
Y newyddion gennym ni - 17/10/22

Image

14/10/22 - Ceisio gwelliannau mewn cartrefi rhent preifat yn Cathays

Gallai cynllun trwyddedu tai sy'n ceisio cyflawni safonau da o lety rhent i denantiaid ac arferion rheoli da ymhlith landlordiaid yn Cathays gael ei ailgyflwyno'r flwyddyn nesaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30117.html

 

Image

14/10/22 - Rhybudd llwm ynghylch cyllideb Cyngor Caerdydd

Mae rhybudd ariannol llwm wedi'i gyhoeddi gan Gyngor Caerdydd sy'n dweud bod chwyddiant cynyddol wedi golygu bod twll o £53m yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30108.html

 

Image

14/10/22 - Gofalwyr Di-dâl yn dweud eu dweud am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi

Mae gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd wedi rhoi eu barn ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac mewn ymateb, mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn ymgymryd ag ystod o welliannau i'r cymorth sydd ar gael iddynt.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30112.html

 

Image

14/10/22 - Adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol, er gwaethaf cynnydd parhaus yn nifer y bobl sydd angen cymorth yn y ddinas a chymhlethdod y problemau maen nhw'n eu hwynebu.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30110.html

 

Image

14/10/22 - Pa mor dda mae eich cyngor yn gweithio i chi? Adroddiad blynyddol yn gwerthuso perfformiad

Caiff rhaglen uchelgeisiol Cyngor Caerdydd i greu prifddinas gryfach, decach a gwyrddach ei gwerthuso mewn adroddiad newydd sy'n sgorio'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30106.html

 

Image

13/10/22 - Hawliau newydd i denantiaid wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddod i rym

Bydd un o newidiadau mwyaf y sectorau tai rhent cymdeithasol a phreifat yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr wrth i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gael ei rhoi ar waith.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30103.html

 

Image

13/10/22 - Cyfleoedd swyddi, y Cyflog Byw Gwirioneddol a llai o allyriadau carbon wrth i'r Cyngor ddefnyddio grym pwrcasu

Mae creu cyfleoedd swyddi a phrentisiaethau, annog busnesau lleol i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a symud yn gynt at garbon sero net wedi'u hamlinellu fel nodau allweddol strategaeth newydd sydd â'r nod i helpu Caerdydd i ddod yn ddinas gryfach, wyrddach a thecach.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30101.html

 

Image

13/10/22 - Holi Caerdydd 2022

Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto eisiau Holi Caerdydd o ran beth sy'n bwysig i ddinasyddion a chymunedau lleol yn y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30095.html

 

Image

12/10/22 - Anrhydeddu athro benywaidd cyntaf Cymru â pharc newydd

Bydd athro benywaidd cyntaf Cymru yn cael ei hanrhydeddu gyda pharc newydd yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30092.html

 

Image

11/10/22 - Cyngor i weithredu i gadw canolfannau hamdden ar agor yng nghanol yr argyfwng ynni

Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried ffyrdd y gall helpu i gynnal gwasanaethau canolfannau hamdden y ddinas yn wyneb costau ynni cynyddol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30087.html

 

Image

11/10/22 - Cam arall ymlaen i gynlluniau am ffordd gyswllt a phont newydd dros Afon Rhymni

Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd i greu cyswllt uniongyrchol o Lanrhymni i'r A48 yng nghyffordd Pentwyn wedi cymryd cam ymlaen, gyda chais am ganiatâd gan Gabinet Cyngor Caerdydd i ymrwymo i gontract cyfreithiol gyda'r datblygwr i adeiladu'r seilwaith

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30081.html

 

Image

11/10/22 - Cae chwaraeon yn rhoi hwb i Sblot

Disgwylir i waith ddechrau ar adeiladu cae pêl-droed 3G newydd ym Mharc Sblot.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30077.html