The essential journalist news source
Back
14.
October
2022.
Ceisio gwelliannau mewn cartrefi rhent preifat yn Cathays

14/10/22 

Gallai cynllun trwyddedu tai sy'n ceisio cyflawni safonau da o lety rhent i denantiaid ac arferion rheoli da ymhlith landlordiaid yn Cathays gael ei ailgyflwyno'r flwyddyn nesaf.

 

Mae Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Cathays yn rhoi pwerau ychwanegol i'r Cyngor er mwyn gwneud gwelliannau mwy effeithiol i safonau eiddo mewn cartrefi rhent preifat yn ogystal ag ymdrin  materion megis diogelwch cymunedol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynaliadwyedd, ynni-effeithlonrwydd a rheoli gwastraff mewn ardal lle mae nifer mawr o eiddo rhent.

 

Cyflwynwyd y cynllun yn gyntaf yn 2010 i gynnwys pob Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) yn y ward cyn cael ei adnewyddu yn 2016. 

 

Ers ei gyflwyniad, mae'r cynllun wedi sicrhau trwyddedu 1,779 o eiddo, gostyngiad yn nifer y peryglon categori risg uwch pan gaiff eiddo arolygiad o 26% i 8% yn unig a chynnydd i 46% yng nghanran y Tai Amlfeddiannaeth trwyddedig sy'n cyrraedd y safon.

 

Mae cynllun 2016 wedi bod ar waith ers 5 mlynedd a bydd y Cabinet bellach yn trafod ailddynodi Cathays yn ardal Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 20 Hydref.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad â thenantiaid, trigolion, busnesau lleol, landlordiaid ac asiantau ar y cynnig i adnewyddu'r cynllun ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni ac argymhellir i'r Cabinet gymeradwyo ei adnewyddu o 1 Chwefror 2023 am bum mlynedd arall.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Yn ôl yn 2010 pan gafodd y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol cyntaf ei ddynodi yn Cathays, roedd yr ardal yn cynhyrchu'r nifer uchaf o gwynion i Is-adran Gorfodi Tai'r Cyngor ynglŷn â safonau tai. Mae gan yr ardal boblogaeth fawr o fyfyrwyr gyda galw uchel am lety rhent ond yn anffodus, mae rhai landlordiaid ac asiantau'n hysbysebu ac yn gosod eiddo ansawdd isel.

 

"Ar y cyfan ers dechrau gweithredu'r cynllun, mae cwynion wedi lleihau ac mae safonau wedi gwella gan fod swyddogion gorfodi tai yn gallu cymryd camau gweithredu yn erbyn landlordiaid y mae eu heiddo yn peri risg iechyd a diogelwch i'w tenantiaid o ran materion diogelwch tân, gwres a diogelwch yr eiddo.

 

"Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod safonau yn gallu dirywio dros amser, hyd yn oed pan fo eiddo wedi pasio arolygiad ac wedi cael eu trwyddedu, ac mae tuedd gyffredin o hyd yn y farchnad rhent preifat i beidio â chydymffurfio â gofynion statudol,

 

"Bydd ailddynodi Cathays yn Gynllun Trwyddedu Ychwanegol yn galluogi swyddogion i barhau i adeiladu ar y cynnydd aruthrol a wnaed dros y 12 mlynedd diwethaf er lles tenantiaid, landlordiaid a'r gymuned ehangach hefyd."

 

I ddarllen yr adroddiad llawn i'r Cabinet, ewch i https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7955&LLL=1