The essential journalist news source
Back
13.
October
2022.
Cyfleoedd swyddi, y Cyflog Byw Gwirioneddol a llai o allyriadau carbon wrth i'r Cyngor ddefnyddio grym pwrcasu

13/10/22

Cyfleoedd swyddi, y Cyflog Byw Gwirioneddol a llai o allyriadau carbon wrth i'r Cyngor ddefnyddio grym pwrcasu

Mae creu cyfleoedd swyddi a phrentisiaethau, annog busnesau lleol i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a symud yn gynt at garbon sero net wedi'u hamlinellu fel nodau allweddol strategaeth newydd sydd â'r nod i helpu Caerdydd i ddod yn ddinas gryfach, wyrddach a thecach.

Mae Cyngor Caerdydd yn gwario £560m y flwyddyn yn prynu gwasanaethau a nwyddau gan 8,000 o gyflenwyr ar draws y ddinas a thu hwnt, gan ei wneud yn gwsmer allweddol i nifer o fusnesau lleol. Yn y gorffennol aeth ychydig dros 50% o'r gwariant hwnnw (£280m) i fusnesau yng Nghaerdydd gyda bron 69% o wariant o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys deg ardal cyngor de-ddwyrain Cymru.

Ond yn gyfnewid am ei gwsmeriaeth mae'r cyngor yn benderfynol i unrhyw fusnes y mae'n ei ddefnyddio weithredu mewn ffordd cymdeithasol-gyfrifol sy'n buddio'r ddinas a thrigolion Caerdydd. At y diben hwnnw rhoddwyd cynllun pum mlynedd ar waith gan y cyngor i sicrhau y gall ddylanwadu ar fusnesau i ‘feddwl yn lleol'.

Caiff Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol Cyngor Caerdydd 2022-27 ei ddwyn gerbron y Cabinet ar 20 Hydref cyn mynd gerbron y Cyngor Llawn er cymeradwyaeth ar 27 Hydref.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid a Moderneiddio, y Cyng Chris Weaver: "Mae ein gweledigaeth o Gaerdydd gryfach, gwyrddach a thecach yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid defnyddio grym penderfyniadau gwariant a buddsoddi'r Cyngor i roi cyfleoedd i fusnesau lleol greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol a hyrwyddo gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach. Rydym am i'r busnesau a gefnogwn ‘feddwl yn lleol', yr hyn y gallant ei wneud i hybu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant yma a sut y gallant ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd naill ai drwy eu cadwyni cyflenwi eu hunain neu drwy sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd werddach.

"Byddwn yn parhau i ddefnyddio graddfa a maint llawn y Cyngor fel grym er lles cymdeithasol ac amgylcheddol, gan bennu'r safon i bob sefydliad arall eu dilyn. Bydd hyn yn golygu gwneud y mwyaf o effaith gymdeithasol ein gwariant, cyflymu'r symudiad i sero net ac arwain y ffordd fel cyflogwr 'Gwaith Teg'.

"I'r perwyl hwn, rydym wedi ymrwymo i gyflawni buddion cymunedol, gan gynnwys cyflogaeth a phrentisiaethau, gan hyrwyddo "Arferion Gwaith Teg", gan gynnwys talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Rydym yn falch bod Caerdydd yn cael ei chydnabod yn Ddinas Cyflog Byw a byddem yn annog pob cyflogwr i ystyried buddion dod yn gyflogwr Cyflog  Byw achrededig."

Mae Strategaeth Caffael Cymdeithasol-Gyfrifol 2022-2027 yn canolbwyntio ar gyflawni saith amcan allweddol:

• Cyfrannu at nod y Cyngor i fod yn Ddinas Carbon Niwtral erbyn 2030.

• Gwneud gwariant caffael yn fwy agored i fusnesau bach lleol a'r trydydd sector.

• Gwella arferion Gwaith Teg a Diogelwch a fabwysiadwyd gan gyflenwyr.

• Gwella buddion cymdeithasol a gyflawnir gan gyflenwyr.

• Sicrhau gwerth am arian a rheoli'r galw

• Sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a llywodraethu cadarn a thryloyw.

• Hyrwyddo atebion arloesi ac arfer gorau.

 

Llwyddiannau cynnar y strategaeth gaffael

Mae Cyngor Caerdydd wedi defnyddio dull Buddion Cymunedol Llywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd ar gontractau adeiladu a chynnal a chadw mawr. Fodd bynnag, i sicrhau'r Buddion Cymunedol mwyaf posib mae Cyngor Caerdydd wedi dewis treialu'r ThCM (Themâu, Canlyniadau a Mesurau) Cenedlaethol ar gyfer Fframwaith Gwerth Cymdeithasol Cymru. Mae'r fframwaith yn ei hanfod yn rhestr o fuddion cymunedol arferol, y mae tendrwyr yn dewis yr hyn y byddant yn ei gyflawni dros gyfnod y contract. Mae'r cyngor yn defnyddio'r system Porthol Gwerth Cymdeithasol i ddal ymrwymiadau ThCM contractwyr ac i fonitro / rheoli'r broses o'u cyflawni dros gyfnod y contract.  

O ganlyniad, mae'r holl gontractau sydd ar waith ar hyn o bryd yn cynnwys ymrwymiadau gwerth cymdeithasol a fydd yn cyflawni £6,384,437 o werth cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

  • Gwerth 101 tunnell o ostyngiadau carbon
  • Arbed 2,447 o filltiroedd car
  • Gostyngiad o 577 tunnell o wastraff
  • £1,934,800 mewn cymorth cymunedol
  • 4,954 awr o gyfleoedd prentisiaeth
  • 3,865 o wirfoddoli
  • 6,293 awr o sesiynau cymorth gyrfa.
  • 347 wythnos o brofiad gwaith

 

 

Astudiaethau Achos

Aaron - Academi Adeiladu Ar y Safle:

Pan adawodd Aaron y carchar, roedd yn awyddus i fyw heb droseddu a chynnal ei bedwar o blant ac fe'i cyfeiriwyd at yr Academi Adeiladu Ar y Safle. Mae'r academi ar safle ein datblygiad tai Cartrefi Caerdydd carbon isel ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain ac mae'n rhan o ymrwymiad gwerth cymdeithasol gan ein contractwyr Wates Ltd.

Cafodd yr Academi dreial gwaith i Aaron fel labrwr ar safle adeiladu mawr yn agos at ei gartref a'i roi ar lwybr carlam drwy'r academi iddo ennill ei CSCS (Cynllun Ardystio'r Cynllun Adeiladu) a chymwysterau cysylltiedig eraill. Rhoddodd y treial, a'r posibiliad o gontract hir ar ei ddiwedd, y penderfyniad iddo lwyddo ac arweiniodd ei waith caled at gynnig swydd. 

Dywedodd Aaron, sy'n dal i weithio'n llawn amser, heb droseddu, ac yn cynnal ei deulu: "Roedd hyn yn gyfle anhygoel i mi ennill fy CSCS gyda chyfle cyflogaeth ar y diwedd. Fy mhrif nod oedd dod o hyd i waith yn fuan ar ôl cael fy rhyddhau i ddarparu ar gyfer fy mhartner a'm plant. Ni allaf ddiolch digon i The Boss Project am fy atgyfeirio at yr Academi i newid fy mywyd er gwell. Roedd staff yr Academi yn wych gan sicrhau fy mod wedi cael y cyfle i ennill fy CSCS a chael gwaith o ganlyniad. Rwyf eisoes wedi sôn am y rhaglen wrth ffrindiau a fydd, gobeithio, yn manteisio ar yr hyn sydd ar gynnig."

 

Ffordd carbon niwtral gyntaf Cymru - Miles Macadam

Yn gynharach eleni, cynhaliwyd rhaglen gosod arwyneb ffordd carbon niwtral gyntaf Cymru wrth i 13,000m2 o Rodfa'r Gogledd gael arwyneb newydd gan ein contractwr Miles Macadam. Gan ddefnyddio Dur Sorod yn hytrach na agregau pur wrth ‘waith arwynebu' arferol arbedwyd dros 50% o draul carbon.

Cafodd y carbon sy'n weddill a grëwyd yn y gwaith ail-wynebu ei wrthbwyso gan ddefnyddio Cynllun Carbon wedi'i Ddilysu (VCS) - sy'n atal datgoedwigo pellach ym Mrasil - a thrwy blannu 100 o lasbrennau yn y ddinas i gydnabod y cynllun.

Gan weithio'n agos gyda'n contractwr Miles Macadam, mae'r rhan hon o Northern Avenue wedi cael wyneb newydd gan greu 53 tunnell o garbon, o'i gymharu â 104 tunnell a fyddai wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio deunydd cymysgedd poeth ac agregau naturiol.

Yr ôl troed carbon i gludo deunyddiau ar ac oddi ar y safle oedd 8 tunnell, o'i gymharu â 17 tunnell o garbon a fyddai wedi'i gynhyrchu i chwarela'r garreg o ymhellach i ffwrdd, gan arbediad carbon cyffredinol o 50.4%.

 

Ysgol Uwchradd Fitzalan - Kier Construction Ltd

Mae elfen gwerth cymdeithasol contract Kier Construction Ltd i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd wedi cyflawni ystod o fentrau i gynnwys disgyblion yn y broses o ddylunio ac adeiladu eu hysgol a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn y diwydiant adeiladu.

Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Croesawu 18 myfyriwr o flynyddoedd 8 a 9, o ysgolion uwchradd ledled Caerdydd, i safle newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan i fynychu sesiynau rhyngweithiol a gynhaliwyd gan Kier a'r Cyngor, yn trafod hanfodion adeiladu, arloesi yn y diwydiant a dyfodol y system addysg.
  • Dylunio gatiau'r ysgol gyda grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 â diddordeb mewn dylunio, technoleg a chelf. Gan weithio gyda'r artist stryd Laura Sparey ac aelodau o dîm Kier, mae'r grŵp wedi bod yn datblygu syniadau ar gyfer y dyluniadau sy'n cynrychioli disgyblion fel unigolion, fel cymuned ac ar y cyd fel ysgol.
  • Croesawu disgyblion y chweched Ysgol AAA Greenhill i'r safle adeiladu i drafod cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol o fewn y diwydiant adeiladu.
  • Helpu myfyrwyr y Chweched gyda phrosiectau STEM. Caiff tri thîm o fyfyrwyr eu mentora wrth iddynt gyflawni brîff sy'n gysylltiedig ag adeiladu o ddylunio prototeip i leihau carbon ar safle adeiladu neu leihau'r defnydd o blastig neu ddatblygu ffordd o ailddefnyddio/ailgylchu plastig ar y safle. Caiff y prototeipiau gweithiol eu creu ym Mhrifysgol Caerdydd, a'u cyflwyno mewn digwyddiad arddangos Cymru gyfan.
  • Cefnogi Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau'r Ysgol ‘Bwyd a Hwyl' Caerdydd mewn wyth ysgol.

 

Goleuadau Stryd LED - Centregreat Ltd

Fel rhan o'u contract £5 miliwn i osod Goleuadau Stryd LED ar strydoedd a phriffyrdd yng Nghaerdydd, mae Centregreat Ltd wedi gweithio gydag ystod o abrtneriaid sydd wedi cynnwys mwy na 500 o ddisgyblion mewn pedair Ysgol Uwchradd yng Nghaerdydd.

Roedd prosiectau'n cynnwys helpu Ysgol Uwchradd Cantonian gyda'i Ffair Yrfaoedd, yn canolbwyntio ar gyfleoedd gyrfa a llwybrau i amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau twf. Gwnaeth y cwmni hefyd gefnogi arlwy gyrfaoedd a phrofiad seiliedig ar waith Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd gyda ffug gyfweliadau, siaradwyr cymhellol ac ymweliadau gweithle, gan ariannu rhaglen ymgysylltu â'r diwydiant adeiladu 18 mis i 16 disgybl o Ysgol Arbennig Greenhill a'r Uned Cynnwys Disgyblion.

Mae 45 o bobl ifanc 11-16 oed a nodwyd gan eu hysgolion fel rhai ag angen cymorth ychwanegol oherwydd ansicrwydd gartref neu broblemau yn y gymuned hefyd wedi cael budd o gyfleoedd a ariannwyd gan Centregreat i gwrdd â mentoriaid ieuenctid Plant sy'n Derbyn Gofal mewn Addysg.

Fis Ebrill nesaf, bydd 49 o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ymweld ag Auschwitz ar drip a allai newid eu bywydau, a ariennir yn llawn gan Centregreat. Yn y cyfamser bydd nifer o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Willows yn rhan o daith Her Cymru dros y môr, lle byddant yn ennill amrywiaeth o sgiliau a chymwysterau, hefyd wedi'i hariannu gan y cwmni.             

 

Llwybr y Mileniwm - Pluradeck

Roedd ailosod y deciau pren ar Ffordd y Mileniwm yn gontract gwerth £2,200,000 ond ar gyfer pob £1 a wariwyd ar y prosiect, aeth £1.52 yn ôl i economi Cymru. Ond nid dim ond cyflogeion a busnesau bach a chanolig Cymru gafodd fudd ohono, ond hefyd y blaned am fod y deciau newydd yn fyrddau plastig a atgyfnerthwyd, wedi'u gweithgynhyrchu o 100%  plastig wedi'i ailgylchu, gan ddefnyddio tua 750,000 o boteli plastig. Arweiniodd ymrwymiadau gwerth cymdeithasol yn y contract hefyd at gyflawni 32 wythnos o hyfforddiant prentisiaeth, gyda 115 o fyfyrwyr a disgyblion yn cael eu cynorthwyo â gweithgareddau ymgysylltu â gyrfaoedd STEM ac adeiladu, 59 awr o gyfraniadau llafur ‘cyfatebol', ac £1,800 yn werth o roddion i achosion da.