The essential journalist news source
Back
13.
October
2022.
Holi Caerdydd 2022


13/10/22

Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto eisiau Holi Caerdydd o ran beth sy'n bwysig i ddinasyddion a chymunedau lleol yn y ddinas.

 

Yn ei arolwg blynyddol sy'n rhoi cyfle i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ac ymwelwyr rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus, mae'r Cyngor yn awyddus i ddeall yn well sut brofiad mae pobl yn ei gael o'r ddinas a'r gwasanaethau i helpu i lywio'r gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Mae Holi Caerdydd 2022 ar gael ar-lein nawr ynwww.caerdydd.gov.uk/holicaerdydd2022a bydd pawb sy'n cymryd rhan yn yr arolwg 20 munud yn cael cyfle i fod yn rhan o raffl wobr i ennill tocyn teulu i sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf eleni neu un o ddeg taleb £50 Caerdydd AM BYTH, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth o siopau a bwytai ar y stryd fawr.

 

Bydd copïau papur o'r arolwg hefyd ar gael i'w cwblhau mewn hybiau, llyfrgelloedd ac adeiladau cymunedol eraill o amgylch y ddinas.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd (Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb), y Cynghorydd Julie Sangani:  "Holi Caerdydd yw ein cyfle blynyddol i gymryd tymheredd bywyd y ddinas - beth mae pobl sy'n byw yng Nghaerdydd yn ei feddwl am y gwasanaethau sydd ar gael yn y ddinas. Mae gennym ddiddordeb gwybod barn pobl am amrywiaeth o bynciau o dai i ofal cymdeithasol, hamdden a'r amgylchedd a mwy - beth rydym yn ei wneud yn dda a beth hoffen nhw ei weld yn newid.

 

"Gallwn hefyd gael cipolwg gwerthfawr ar iechyd y cyhoedd yn y ddinas - sut mae pobl yn cael gafael ar wasanaethau ac a oes unrhyw rwystrau sy'n eu hatal rhag defnyddio gwasanaethau.

 

"Mae'r arolwg yn ffynhonnell gwybodaeth bwysig iawn i ni ac mae'n hanfodol ein bod ni'n clywed gan gymaint â phosib o bobl ar draws y ddinas - o wahanol ardaloedd, oedrannau a chefndiroedd - mae barn pawb yn bwysig.

 

"Mae costau byw yn bwnc enfawr i bawb ohonom ar hyn o bryd ac mae Holi Caerdydd 2022 yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan i roi gwybod sut mae'r pwysau presennol yn effeithio arnyn nhw, eu sefyllfa o ran cyflogaeth, tai a'u hiechyd a'u lles."

 

Mae'r pwysau chwyddiant sy'n effeithio ar sefydliadau ac aelwydydd ledled y wlad hefyd yn rhoi cyllideb y Cyngor dan bwysau, ac mae'r arolwg yn gofyn am safbwyntiau ar sut y dylai'r Cyngor flaenoriaethu ei adnoddau ar gyfer 2023/24 a'r tymor hwy hefyd.

 

Disgwylir i'r arolwg ddod i ben ddydd Sul 20 Tachwedd.  Ewch iwww.caerdydd.gov.uk/holicaerdydd2022i gymryd rhan.