The essential journalist news source
Back
11.
October
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 11 Hydref 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: mae Hybiau a Llyfrgelloedd yn darparu mannau croeso cynnes o'r wythnos hon ymlaen; arian ar gael i ddarparu bysus trydan newydd ar gyfer Caerdydd; a cam arall ymlaen i gynlluniau am ffordd gyswllt a phont newydd dros Afon Rhymni.

 

Mae rhwydwaith Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd yn darparu mannau croeso cynnes o'r wythnos hon ymlaen

O ddydd Llun 10 Hydref ymlaen, mae trigolion sy'n pryderu am gostau cynyddol o wresogi eu cartrefi eu hunain dros fisoedd y gaeaf yn gallu ymweld â'u hyb neu lyfrgell leol a dod o hyd i groeso cynnes yn y siop.

Mae'r mannau croeso cynnes yn rhan o ymateb y Cyngor i gefnogi trigolion y ddinas drwy'r argyfwng costau byw drwy ddarparu mannau wedi'u gwresogi yn ei adeiladau cymunedol lle gall pobl alw i mewn am ddiod boeth am ddim, cael sgwrs gyda staff ac eraill, ac os dymunant, dysgu am unrhyw wasanaethau sydd ar gael yn yr hyb a allai eu cynorthwyo.

Mae croeso i bobl alw i mewn i unrhyw un o hybiau neu lyfrgelloedd y ddinas yn ystod eu horiau agor arferol. Am ragor o wybodaeth ewch iwww.hybiaucaerdydd.co.uk. (Bydd ardal croeso cynnes Pafiliwn Butetown ar agor o 9am i 5pm).

Yn ogystal â mannau croeso cynnes mewn hybiau a llyfrgelloedd, mae'r Cyngor yn gweithio gyda Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) i gynnig grantiau bach i gefnogi grwpiau yn y trydydd sector sydd naill ai'n dymuno uwchraddio eu gwasanaethau neu ddarparu eu mannau cynnes eu hunain, gan ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i bobl y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30053.html

 

Arian ar gael i weithredwyr bysus ddarparu bysus trydan newydd ar gyfer y ddinas

Cyn hir fe allai Caerdydd gael hyd yn oed mwy o fysus trydan yn gweithredu ledled y ddinas diolch i grant gwerth £8 miliwn sydd wedi'i gynllunio i sicrhau cerbydau glanach ar ein strydoedd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn gwneud penderfyniad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 20 Hydref, a fyddai'n caniatáu i weithredwyr bysus wneud cais am arian Llywodraeth Cymru i helpu i gynyddu nifer y bysus trydan sy'n gweithredu yng Nghaerdydd.

Fe allai pob cwmni bysus sy'n gweithredu yng Nghaerdydd gael y cyfle i wneud cais am yr arian.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd am weld pob bws sy'n gweithredu yng Nghaerdydd yn cynhyrchu dim allyriadau erbyn 2035.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30057.html

 

Cam arall ymlaen i gynlluniau am ffordd gyswllt a phont newydd dros Afon Rhymni

Mae cynlluniau ar gyfer pont newydd i greu cyswllt uniongyrchol o Lanrhymni i'r A48 yng nghyffordd Pentwyn wedi cymryd cam ymlaen, gyda chais am ganiatâd gan Gabinet Cyngor Caerdydd i ymrwymo i gontract cyfreithiol gyda'r datblygwr i adeiladu'r seilwaith newydd.

Bydd adroddiad ar y bont a'r ffordd gyswllt newydd - sy'n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd - yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ar Hydref 20.

Fel rhan o'r datblygiad bydd ffordd gyswllt a phont newydd yn cael eu hadeiladu dros Afon Rhymni gan gysylltu Llanrhymni â'r safle Parcio a Theithio a'r A48. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i drigolion lleol ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn rhoi mynediad arall i yrwyr i mewn i'r ddinas ac yn creu cyfleoedd am swyddi.

Mae ymgynghoriad wedi digwydd ar werthu a datblygu tri darn o dir i ariannu'r ffordd gyswllt a'r bont newydd, gyda chyllid ychwanegol ar gael trwy gyfraniadau Adran 106, sy'n gyfraniad gan ddatblygwr tuag at seilwaith cymunedol, er mwyn sicrhau bod beicffordd i'r ddau gyfeiriad yn cael ei hadeiladu dros y bont newydd.

Mae'r tir fydd yn cael ei werthu yn cynnwys y tir ger Neuadd Llanrhymni, oddi ar Ball Road, y mae cae chwarae Clwb Rygbi Llanrhymni arno ar hyn o bryd. Caiff swm sylweddol o'r ardal werdd o flaen Neuadd Llanrhymni ei chadw, ond cytunwyd i ail-leoli'r cae chwarae i dir oddi ar Mendip Road nad yw'n addas i gael ei ddatblygu.

Yn ogystal â chreu cae newydd i Glwb Rygbi Llanrhymni, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys creu cae glaswellt newydd i Glwb Pêl-droed Llanrhymni, caeau bach a chlwb newydd sbon ac ystafelloedd newydd i'r ddau dîm eu defnyddio.  Bydd clybiau lleol yn gallu defnyddio, ar gyfraddau cymunedol, ardal chwaraeon newydd o'r radd flaenaf sy'n cael ei chreu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar safle cyfredol caeau chwarae Prifysgol Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30081.html