The essential journalist news source
Back
7.
October
2022.
Croeso Cynnes i Bawb


7.10.22

Bydd rhwydwaith Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd yn darparu mannau croeso cynnes o'r wythnos nesaf ymlaen.

 

O ddydd Llun 10 Hydref ymlaen, bydd trigolion sy'n pryderu am gostau cynyddol o wresogi eu cartrefi eu hunain dros fisoedd y gaeaf yn gallu ymweld â'u hyb neu lyfrgell leol a dod o hyd i groeso cynnes yn y siop.

 

Mae'r mannau croeso cynnes yn rhan o ymateb y Cyngor i gefnogi trigolion y ddinas drwy'r argyfwng costau byw drwy ddarparu mannau wedi'u gwresogi yn ei adeiladau cymunedol lle gall pobl alw i mewn am ddiod boeth am ddim, cael sgwrs gyda staff ac eraill, ac os dymunant, dysgu am unrhyw wasanaethau sydd ar gael yn yr hyb a allai eu cynorthwyo.

 

Mae croeso i bobl alw i mewn i unrhyw un o hybiau neu lyfrgelloedd y ddinas yn ystod eu horiau agor arferol. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hybiaucaerdydd.co.uk. (Bydd ardal croeso cynnes Pafiliwn Butetown ar agor o 9am i 5pm).

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae llefydd croeso cynnes yn rhan o becyn o gymorth yr ydym yn gweithio arno i breswylwyr i frwydro yn erbyn costau byw sy'n effeithio ar bawb ar hyn o bryd.

 

"Mae'n hybiau a'n llyfrgelloedd yn ofodau cymunedol ffyniannus gyda llawer ar gael, felly rydym am annog unrhyw un sy'n cael trafferth cynhesu eu cartref i alw i mewn a mwynhau'r croeso cynnes. Bydd yn gyfle i gwrdd â phobl eraill yn y gymuned, darllen y papur neu nôl llyfr o'r llyfrgell neu gymryd rhan mewn rhai o'r gweithgareddau amrywiol niferus y mae ein hybiau a'n llyfrgelloedd yn eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol yr wythnos.

 

"Gall ein staff cyfeillgar hefyd helpu pobl gyda'u pryderon costau byw - nid yn unig gyda chost gynyddol ynni, ond trwy gefnogi pobl i hawlio popeth y mae ganddynt yr hawl i'w cael, cael mynediad at fwyd os yw hynny'n bryder, neu roi cyngor a datrysiadau ymarferol ar gyfer unrhyw ddyledion sydd ganddynt.

 

"Rydyn ni yma i helpu pawb drwy'r argyfwng yma, dim ots beth yw eu sefyllfa - rhentwyr neu berchnogion tai, pobl sydd mewn gwaith, pobl sydd wedi ymddeol - pawb. Rydyn ni i gyd yn teimlo'r esgid yn gwasgu, felly rwy'n annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd i gysylltu cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu helpu gyda'ch pryderon."

 

I gael cymorth costau byw gan dîm Cyngor Ariannol y Cyngor, ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071, neu anfonwch e-bost at hybcynghori@caerdydd.gov.uk neu ewch i www.cyngorariannolcaerdydd.co.uk

 

Yn ogystal â mannau croeso cynnes mewn hybiau a llyfrgelloedd, mae'r Cyngor yn gweithio gyda Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) i gynnig grantiau bach i gefnogi grwpiau yn y trydydd sector sydd naill ai'n dymuno uwchraddio eu gwasanaethau neu ddarparu eu mannau cynnes eu hunain, gan ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i bobl y ddinas.

 Dywedodd Sheila Hendrickson-Brown, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Trydydd Sector Caerdydd: “Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn cael trafferth dod o hyd i atebion ynghylch yr argyfwng costau byw presennol, ac rydyn ni eisiau gwneud yr hyn a allwn i helpu pobl i ddod at ei gilydd am gwmni ac i aros yn gynnes.  Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda’r Cyngor, yn adeiladu ar y partneriaethau a ddatblygwyd yn ystod argyfwng Covid, i helpu i greu cyfeirlyfr o lefydd cynnes i breswylwyr, ac i rannu manylion ynghylch y cyngor a’r cymorth sydd ar gael i bobl, cymunedau a grwpiau gwirfoddol cymunedol, i’w helpu i ddelio gyda’r pwysau."

 

Bydd y Gronfa Unigrwydd ac Ynysu yn darparu cyllid o hyd at £1,500 i grwpiau sydd am ehangu eu darpariaeth ac ar gael i grwpiau dalu costau fel llogi lleoliadau, hyrwyddo a marchnata, neu ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd newydd - fel uwchraddio tanysgrifiadau digidol i ddarparu mwy o wasanaethau ar-lein neu ar sail hybrid,  neu fân addasiadau i safleoedd er mwyn cynnig rhagor o wasanaethau wyneb yn wyneb.

 

 

Bydd y Gronfa Fannau Cynnes ar gael i grwpiau sy'n darparu lleoliadau sy'n adnabyddus i gymunedau lleol - fel canolfannau cymunedol, lleoliadau cymunedol, addoldai - a bydd yn cyfrannu tuag at gostau darparu mannau i bobl gyfarfod, cymdeithasu a mwynhau lluniaeth ond yn bwysicaf oll i aros yn gynnes. Bydd grantiau o hyd at £500 ar gael  

 

  • Mae'r ddwy raglen bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno 5pm ar 24 Hydref.  Disgwylir i grwpiau a ariennir o dan y cynlluniau hyn gael cynnwys eu manylion mewn cyfeirlyfr ac uwchlwytho eu gwybodaeth ar y wefan hon  https://www.warmwelcome.uk/ i gofrestru'r wybodaeth Mannau Cynnes ar gyfer pob lleoliad sy'n tynnu sylw at leoliadau llefydd cynnes yng Nghaerdydd.  

 

 

Fe fydd ceisiadau am arian o'r ddwy raglen yn cael eu hystyried.  

 

Am fwy o wybodaeth, ewch yma

Am ffurflen cais,ewch yma