The essential journalist news source
Back
30.
September
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 30 Medi 2022

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cwmpasu: bydd casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd yn cael eu casglu bob mis o 4 Hydref; ymgynghoriad cyhoeddus ar agor nawr ar lety newydd i Ysgol y Court; a mae'r Gronfa Her yn agor ceisiadau ar gyfer her fwyd gynaliadwy gwerth £2.1m i annog dyfeisgarwch wrth gynhyrchu bwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol.

 

Bydd casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd yn cael eu casglu bob mis o 4 Hydref

Wrth i'r hydref ddechrau, bydd casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd yn cael eu casglu bob mis o 4 Hydref tan 25 Tachwedd gan roi dau gasgliad gwastraff gardd arall i drigolion cyn i'r gwasanaeth gael ei atal yn ystod mis Rhagfyr, mis Ionawr a mis Chwefror.

Mae ffigyrau'n dangos bod swm y gwastraff gardd sy'n cael ei gasglu o gartrefi trigolion yn gostwng 80% dros y gaeaf. O ystyried y gostyngiad sylweddol hwn, bydd criwiau casglu gwastraff yn canolbwyntio ar gasglu gwastraff bwyd, gwastraff bagiau du ac ailgylchu sy'n cynyddu'n sylweddol wrth i ni nesáu at dymor y Nadolig, wrth i bobl dreulio mwy o amser gartref.

Bydd casgliadau untro yn cael eu trefnu yn ystod tymor yr ŵyl i symud coed Nadolig o gartrefi trigolion, gyda digwyddiadau sgubo'r stryd cymunedol a'r tîm glanhau dail sy'n cwympo'n parhau i weithredu dros fisoedd y gaeaf.

Drwy gydol y gaeaf, gall trigolion barhau i fynd â'u gwastraff gardd i  ganolfannau ailgylchu Ffordd Lamby a Chlos Bessemer drwy drefnu apwyntiad ar-lein  yma  neu drwy App Cardiff Gov.

Mae calendrau casgliadau ar wefan y Cyngor ac ar App Cardiff Gov yn cael eu diweddaru a hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd wrth i hyn gael ei wneud.

Dyma fanylion y ddau gasgliad gwastraff gardd misol nesaf:

Yr wythnos yn dechrau ar 3 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 31 Hydref:

  • Creigiau
  • Pentyrch
  • Radur
  • Pentre-poeth
  • Llandaf
  • Ystum Taf
  • Tredelerch
  • Llanrhymni
  • Tongwynlais
  • Rhiwbeina
  • Llys-faen

Yr wythnos yn dechrau ar 10 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 7 Tachwedd:

  • Trelái
  • Sain Ffagan
  • Treganna
  • Plasnewydd
  • Butetown
  • Pen-y-lan

Yr wythnos yn dechrau ar 17 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 14 Tachwedd:

  • Yr Eglwys Newydd
  • Gorllewin y Mynydd Bychan
  • Dwyrain y Mynydd Bychan
  • Cathays
  • Gabalfa
  • Trowbridge
  • Pentref Llaneirwg
  • Llanisien
  • Cyncoed

Yr wythnos yn dechrau ar 24 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 21 Tachwedd:

  • Caerau
  • Y Tyllgoed
  • Grangetown
  • Glan-yr-afon
  • Adamsdown
  • Y Sblot
  • Pontprennau
  • Pentwyn

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor nawr ar lety newydd i Ysgol y Court

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i rannu eu barn ar gynlluniau ar gyfer llety newydd i Ysgol y Court.

Mae'r ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn nodi'r cam nesaf yn y datblygiad i gynyddu capasiti'r ysgol drwy ei hadleoli a'i hailadeiladu ar draws dau safle. Byddai un ohonynt wedi ei leoli ar dir i'r de o Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar Wellwright Road, a byddai'r llall i'r de o Ysgol Gynradd Pen Y Bryn ar Dunster Road yn Llanrhymni.  

Byddai hyn yn defnyddio tir ar safle ysgol bresennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, ar ôl iddi gael ei symud i lety newydd ar ddatblygiad Sant Edeyrn. 

Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i leisio barn ar y ddwy ran o'r cynllun, cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd ym mis Tachwedd eleni. 

Os bydd y cynlluniau'n cael eu datblygu, byddai'r ysgol newydd yn tyfu o 42 i 74 o leoedd, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o flwyddyn academaidd 2024-25, gan helpu i ateb galw'r ddinas am ddarpariaeth arbenigol oedran cynradd.  Byddai gan y ddau safle amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr gan gynnwys ardaloedd gemau aml-ddefnydd, mannau chwaraeon a chwarae meddal, caeau chwaraeon ac ardaloedd garddwriaethol, sy'n cael eu darparu dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. 

Mae cynigion yn cynnwys: 

  • adeiladu dau adeilad ysgol unllawr newydd ar safle'r Tyllgoed a safle Llanrhymni
  • creu mannau amwynder awyr agored newydd, ardaloedd gemau aml-ddefnydd, mannau chwarae a darpariaeth chwaraeon
  • tirlunio, mannau parcio, draenio a gwaith cysylltiedig
  • dymchwel yr adeiladau presennol sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg (safle Llanrhymni)

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29977.html

 

Mae'r Gronfa Her yn agor ceisiadau ar gyfer her fwyd gynaliadwy gwerth £2.1m

Mae'r Gronfa Her, sy'n gweithio ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy, wedi agor ceisiadau ar gyfer her cynhyrchu bwyd gynaliadwy newydd.

Nod yr her gwerth £2.1m yw nodi a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg, a phobl i gynyddu cynhyrchiant cynaliadwy a chyflenwi bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae bwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i iechyd economi'r rhanbarth, pobl a'r blaned ydyw, gan gynnig atebion i ystod o faterion sy'n gysylltiedig â'n systemau bwyd confensiynol presennol sy'n seiliedig ar logisteg ryngwladol gymhleth ac sy'n gynyddol ansicr ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at allyriadau carbon byd-eang.

Bydd yr Her, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth yr SBRI (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yn rhedeg mewn tri cham, gyda llwyddiant yn cael ei werthuso erbyn 2025. Bwriad cam un yw asesu dichonoldeb y cysyniadau arfaethedig, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael contractau dichonoldeb 4 mis o hyd at £50,000 fesul prosiect.

Anogir sefydliadau arloesol sydd â diddordeb i gael rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn i fynd i ddau ddigwyddiad:

Egluro'r Her Bwyd. 18 Hydref (1.30pm-2.30pm)

Digwyddiad rhithwir sy'n amlinellu'r Her Bwyd ac yn cynnwys sesiwn holi ac ateb. I dderbyn gwahoddiad, cofrestrwch eich diddordeb  yma.

Gwneud Cais i'r Her Bwyd. 27 Hydref

Digwyddiad dilynol wyneb yn wyneb yn adeilad SPARC ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cynnig sesiynau awr i sefydliadau/consortia sydd â diddordeb mewn cynnig ateb i'r Her Bwyd. Gwnewch gais i:datblygucynaliadwy@caerdydd.gov.uk

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29993.html